Byddai Lockyer 'wrth fy modd' cael chwarae i Gymru eto

Tom LockyerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tom Lockyer wedi ennill 16 o gapiau rhyngwladol

  • Cyhoeddwyd

Mae amddiffynnwr Cymru a Luton Town, Tom Lockyer, yn dweud y byddai wrth ei fodd pe bai'n cael cyfle i chwarae dros ei wlad unwaith eto.

Cafodd Lockyer, 29, ataliad ar y galon yn ystod gêm Uwch Gynghrair yn erbyn Bournemouth ym mis Rhagfyr y llynedd.

Dydy o heb chwarae gêm gystadleuol ers y digwyddiad hwnnw, ond mae o bellach wedi ailddechrau ymarfer gyda'i glwb.

Mewn cyfweliad gyda BBC Radio Wales fore Gwener, dywedodd yr amddiffynnwr ei fod wedi cael sgwrs gyda rheolwr newydd Cymru, Craig Bellamy.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lockyer wedi ailddechrau ymarfer gyda gweddill carfan Luton Town

Pan lewygodd Lockyer ar y cae fis Rhagfyr y llynedd - dyna oedd yr eildro i hynny ddigwydd o fewn saith mis.

Mae meddygon wedi gosod teclyn ICD (implantable cardioverter-defibrillator) yn ei frest, sydd i fod i ailddechrau'r galon yn syth os oes digwyddiad tebyg yn y dyfodol.

Mae o bellach yn annog mwy o bobl i wneud hyfforddiant CPR, gan ddweud nad pawb fydd mewn sefyllfa mor ffodus ag yr oedd ef.

'Saffach nag unrhyw un arall'

Dywedodd Lockyer ei bod hi'n braf bod yn ôl ar y cae ymarfer wedi cyfnod mor hir i ffwrdd.

"Mae'n mynd yn dda, mae hi'n wych cael bod nôl yn yr adeilad... grêt bod 'nol gyda'r hogiau a'r staff," meddai.

"Mae hi wedi bod yn gyfnod hir i ffwrdd - y cyfnod hiraf i mi fod allan drwy fy ngyrfa - ond dwi'n trio edrych ar y pethau cadarnhaol."

Ychwanegodd ei fod yn teimlo yn hyderus iawn ei bod yn ddiogel iddo chwarae.

"Ro'n i'n un o'r rhai lwcus a dwi'n teimlo'n saff iawn wrth symud 'mlaen," meddai.

"Mae gen i'r defib i mewn - felly mae'n siŵr bo' fi'n saffach nag unrhyw un arall allan ar y cae.

"Dwi'n cael fy monitro yn gyson ac mae 'na rybuddion os oes rhywbeth yn ymddangos o'i le.

"Mae hi'n gyfnod cyffrous i Gymru gyda Craig Bellamy yn dod i mewn, ac roedd y ddwy gêm gyntaf yn wych i'w gwylio.

"Fe ges i sgwrs gyda Craig ar ôl y gêm yn erbyn Twrci ac roedd o'n siarad mor dda, mae o'n arweinydd yng ngwir ystyr y gair.

"Dwi'n edrych 'mlaen i weld sut y bydd Cymru yn datblygu rŵan, a byddwn i wrth fy modd yn cael rhoi'r crys coch yna 'mlaen eto, er bod hynny yn bell i ffwrdd ar hyn o bryd."