Canghellor wedi gwneud 'beth ofynnodd Llywodraeth Cymru amdano'

Roedd Rachel Reeves yn gwadu bod Cymru ar ei cholled wrth ymweld â Ffynnon Taf ddydd Gwener
- Cyhoeddwyd
Mae'r Canghellor Rachel Reeves wedi amddiffyn cynlluniau gwariant Llywodraeth y DU ar gyfer Cymru gan ddweud wrth y BBC ei bod wedi cyflawni'r hyn y gofynnodd Llywodraeth Cymru amdano.
Dywedodd bod y cynllun i wario £445m ar reilffyrdd Cymru dros ddegawd yn "becyn sylweddol", ac amddiffynnodd y £118m a glustnodwyd ar gyfer tomenni glo - sy'n llai na'r £600m a amcangyfrifwyd y gallai fod ei angen.
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod yr adolygiad gwariant yn "gywilyddus" gyda Phlaid Cymru'n dweud bod "Llafur yn bradychu Cymru eto".
Yn ôl un ffynhonnell yn Llywodraeth Cymru mae'r cyfnod buddsoddi o 10 mlynedd yn "wych" gan na fyddai'n bosibl adeiladu'r gorsafoedd fel arall.

Mae gwariant ar y rheilffyrdd wedi bod yn bwnc llosg o fewn gwleidyddiaeth Cymru
Fe wnaeth Rachel Reeves ymweld â depo Trafnidiaeth Cymru yn Ffynnon Taf ddydd Gwener.
Roedd yn gwadu bod yr adolygiad gwariant wedi gadael Cymru ar ei cholled gan ddweud fod Cymru'n cael y swm uchaf erioed o arian.
Mae'r Trysorlys yn darparu £300m ar gyfer pum gorsaf newydd o amgylch Caerdydd a Chasnewydd rhwng 2026 a 2030.
Bydd hefyd yn ariannu gwelliannau gan gynnwys mesurau i wella capasiti yng ngogledd Cymru.
Mae £48m arall yn mynd ar Fetro De Cymru, tra bod £90m yn cael ei ddyrannu dros 10 mlynedd i weithio ar gynlluniau yn y dyfodol.
'Y ddwy lywodraeth yn cydweithio'
Dywedodd Ms Reeves: "Mae'r buddsoddiad hwn yn darparu'r pum gorsaf drenau o Adolygiad Burns yn ne Cymru, gwelliannau i rwydwaith craidd y cymoedd yn ogystal â gwelliannau i groesfannau rheilffordd yng ngogledd Cymru er mwyn cysylltu pobl â'r swyddi sydd ar gael.
"Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol y gofynnodd Llywodraeth Cymru amdano."
Ychwanegodd bod "llywodraeth Lafur yn San Steffan yn gweithio gyda'r llywodraeth Lafur yma yng Nghymru i gyflawni ar gyfer pobl yng Nghymru".
"Ar yr un pryd mae'r setliad datganoli mwyaf erioed i Lywodraeth Cymru ac ar ben hynny hefyd y £118m ar gyfer tomenni glo i gadw pobl yn ddiogel yng Nghymru."
Pan ddywedwyd wrthi ei fod ymhell o dan y £600m a amcangyfrifwyd yn flaenorol y byddai ei angen ar gyfer tomenni glo dywedodd: "Na, y £118m yw'r hyn y gofynnodd Llywodraeth Cymru amdano, ac rydym wedi cyflawni hynny'n llawn."
Gofynnwyd iddi hefyd a oedd Cymru ar ei cholled yn sgil y toriad o 0.9% i wariant cyfalaf Llywodraeth Cymru, dywedodd: "Na, rydym yn buddsoddi yn y seilwaith trafnidiaeth, yn y tomenni glo ac yn cynnig y setliad datganoli mwyaf erioed."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd15 Ionawr