Chwilio eto am fachgen 16 wedi adroddiadau am gorff yn y môr

AthrunFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Athrun ei weld ddiwethaf ar draeth Pen Morfa yn Llandudno am 14:00 ddydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn chwilio ymhellach dros nos am fachgen 16 oed "bregus", wedi i gorff posib gael ei weld yn y môr.

Cafodd Athrun ei weld ddiwethaf ar draeth Pen Morfa yn Llandudno am 14:00 ddydd Sadwrn - roedd ond yn gwisgo siorts nofio.

Dywed Heddlu'r Gogledd iddyn nhw weld yr hyn a gredir o fod yn gorff am 19:00 nos Fawrth wrth iddyn nhw chwilio am y bachgen o'r awyr.

Ychwanegodd yr heddlu bod teulu Arthun wedi cael gwybod am y datblygiad a'u bod yn cael eu cefnogi gan swyddogion tra bod y gwaith chwilio yn mynd rhagddo.

Dywedodd y Prif Arolygydd Trystan Bevan o Heddlu'r Gogledd: "Er fy mod yn ddiolchgar am y gefnogaeth a'r pryder parhaus gan y gymuned, hoffwn atgoffa aelodau'r cyhoedd fod hon yn sefyllfa hynod o drallodus i'r teulu.

"Nid yw dyfalu ar gyfryngau cymdeithasol yn ddefnyddiol i'n hymchwiliad ac nid yw'n dangos parch i aelodau'r teulu yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn."

Fe wnaeth hefyd annog y cyhoedd i beidio ymgasglu ar y traeth.