Ble i fynd ar wyliau yn 2025?

  • Cyhoeddwyd

A hithau'n flwyddyn newydd, a'r nosweithiau dal yn dywyll, mae nifer o bobl yn trefnu gwyliau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Ond ble yw'r llefydd i fynd yn y gwanwyn a'r haf - a thu hwnt - eleni?

Mae Karen Marin Reyes yn arbenigwr gwyliau yng Nghaerdydd, ac yma mae hi'n rhoi ei hargymhellion hi ar gyfer y mannau gwyliau ar gyfer 2025.

Ffynhonnell y llun, La Vida Travel
Disgrifiad o’r llun,

Karen Marin Reyes, perchennog La Vida Travel yng Nghaerdydd

Gwyliau yng Nghymru: Dinbych y Pysgod

Mae Dinbych y Pysgod yn un o drefi hyfrytaf Cymru, ac mae'n lleoliad perffaith ar gyfer gwyliau yma yng Nghymru. Traethau ysblennydd, tai lliwiau golau, waliau hanesyddol, mae'n fan addas ar gyfer ymlacio a chyffro.

Mae yna ddigonedd o lefydd i aros tu allan i'r dref sy'n cynnig golygfeydd godidog ac mae'r dref ei hun yn le perffaith i aros os rydych chi am gerdded ar hyd yr arfordir. Mae digonedd o chwaraeon dŵr yn yr ardal ac mae'n le gwych i fynd fel cwpl, gyda theulu neu ffrindiau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dinbych y Pysgod yn Sir Benfro

Gwyliau ym Mhrydain: Caeredin yn ystod y Nadolig

Mae Caeredin yn llawn cyffro yn ystod cyfnod y Nadolig, gyda marchnadoedd bach a goleuadau'n harddu pob rhan o'r ddinas hanesyddol.

Yn y marchnadoedd mae cyfle i brynu anrhegion, yfed mulled wine, bwyta bwyd Nadoligaidd, mynd ar yr olwyn fawr neu sglefrio ia. Mae'n ddinas ramantaidd iawn gydag amgylchedd clyd - gwych ar gyfer cyfnod y Nadolig!

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Strydoedd prifddinas Yr Alban dros y Nadolig

Penwythnos yn Ewrop: Kraków a Dubrovnik

Mae Kraków yn tyfu mewn poblogrwydd bob blwyddyn gyda'i chymysgedd o hanes, diwylliant a harddwch naturiol. Cerddwch rownd strydoedd yr hen dref, ymweld â Zakopane i weld harddwch y mynyddoedd, neu mynd i'r chwareli halen hanesyddol ac Auschwitz. Mae 'na rywbeth ar gael ar gyfer pob tymor yma, felly'n lleoliad gwych am wyliau drwy gydol y flwyddyn!

Mae Dubrovnik yn cael ei adnabod gan lawer fel 'Perl yr Adriatic', mae'n wych ar gyfer pobl sy'n caru hanes ac yn hoff o'r môr. Mae waliau'r hen dref wedi eu rhestru gan UNESCO ac fe allwch gerdded rownd y llwybr ar hyd y caer, gan fwynhau golygfeydd gwych o'r arfordir. Os ydych yno ar gyfer y diwylliant neu i ymlacio ger y môr mae Dubrovnik yn gymysgedd perffaith o dreftadaeth a harddwch!

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Kraków yw ail ddinas fwyaf Gwlad Pwyl, ar ôl Warsaw, ac fe gafodd rhannau o Game of Thrones ei ffilmio yn Dubrovnik

Trip ddwbl mewn un: Efrog Newydd a Gwlad yr Iâ

Gallwch hedfan i Efrog Newydd gan stopio yng Ngwlad yr Iâ ar y ffordd - dau leoliad penigamp mewn un trip.

Gallwch weld Llewyrch yr Arth a thirwedd anhygoel Gwlad yr Iâ, ac yna ymlaen i Efrog Newydd i weld y Statue of Liberty, Central Park a Times Square. Mae'r trip yma'n gyfuniad perffaith o natur a chyffro.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dwy ddinas wahanol iawn; Reykjavík ac Efrog Newydd

Teithiau 'wildcard': Talinn a Kotor

Tallinn yw prifddinas hardd Estonia, ac mae adeiladau canoloesol a modern i'w gweld ochr yn ochr. Mae'r ddinas wedi ei rhestru gan UNESCO, gyda llwybrau cerrig crwn, sawl caffi hardd, hanes, a sin modern, bywiog. Mae Cadeirlan Alexander Nevsky gwerth i'w gweld, ac mae ardal Telliskivi Creative City llawn cyffro a chreadigrwydd. Mae Tallinn yn fan ar gyfer gwyliau cofiadwy, ond heb y torfeydd o ddinasoedd cyfagos.

Mae Kotor yn Montenegro yn eistedd mewn bae syfrdanol, ac mae'r hen dref yno hefyd yn ardal sydd wedi ei rhestru gan UNESCO. Mae'r golygfeydd o'r mynyddoedd sy'n amgylchynu yn arbennig. Mae'n ddewis gwahanol i ddinasoedd eraill ar Môr y Canoldir, ac yn ddewis gwych i'r sawl sy'n caru hanes ac sydd hefyd eisiau amser i ymlacio.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Prifddinas Estonia, Tallinn, a Kodor ym Montenegro

Pynciau cysylltiedig