Cân i Gymru yn dychwelyd i Ynys Môn yn 2026

Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris
Disgrifiad o’r llun,

Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris sy'n cyflwyno rhaglen Cân i Gymru

  • Cyhoeddwyd

Bydd cystadleuaeth Cân i Gymru yn dychwelyd i Ynys Môn yn 2026.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan y cyflwynwyr Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris mewn digwyddiad ym mhabell S4C ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Iau.

Nid yw'r gystadleuaeth wedi bod yn Ynys Môn ers 2015, ond dyw'r union leoliad ddim wedi ei gyhoeddi eto.

Fel un o'r ynys, mae Elin Fflur yn edrych ymlaen yn arw.

Dywedodd: "Bydd y gystadleuaeth yn digwydd ar 28 Chwefror yn Ynys Môn - tir cyfarwydd iawn i fi wrth gwrs.

"Beth sy'n braf ydy cael dod â'r gystadleuaeth yn ôl i'r ynys, a hynny am y tro cyntaf ers degawd, felly fydda i'n rowlio mewn!"

'Digon o amser' i bobl gyfansoddi

Ychwanegodd Trystan Ellis-Morris mai yn nigwyddiad Cân i Gymru 2015 y gwnaeth ef gyflwyno'r gystadleuaeth am y tro cyntaf.

"Newyddion cyffrous arall sydd wedi ei gyhoeddi ydy aelod arall o'r rheithgor," meddai.

"Bydd Mali Haf fydd yn ymuno ag Osian Huw Williams, neu Osian Candelas, a fo fydd yn cadeirio'r panel a'r cyfarwyddwr cerdd."

Ychwanegodd bydd ceisiadau yn agor ar 7 Tachwedd, "felly mae digon o amser".

Cyn y cyhoeddiad ar y Maes roedd enillwyr Cân i Gymru eleni, Dros Dro, yn perfformio ar stondin S4C.

Dywedodd Elin Fflur: "Maen nhw wedi cael cymaint o lwyddiant! Mae Cân i Gymru wir yn medru newid pethau i bobl."