Aled Glynne Davies wedi marw'n ddamweiniol ar ôl syrthio i afon - cwest

Aled Glynne DaviesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Aled Glynne Davies, 65, ei ddarganfod ger canolfan hwylio Bae Caerdydd ar 4 Ionawr 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest i farwolaeth cyn-olygydd Radio Cymru wedi dod i'r casgliad iddo farw'n ddamweiniol ar ôl syrthio i Afon Taf yng Nghaerdydd.

Cafodd corff Aled Glynne Davies, 65, ei ddarganfod ger canolfan hwylio Bae Caerdydd ar 4 Ionawr 2023, wedi iddo fynd ar goll o ardal Pontcanna ar Nos Galan.

Ym Mhontypridd ddydd Llun, daeth y crwner Kate Robertson i'r casgliad ei fod wedi disgyn i'r afon tra'n pasio dŵr.

Achos ei farwolaeth oedd boddi.

Beirniadu ymateb yr heddlu

Clywodd y cwest fod y teulu’n anfodlon gydag ymateb yr heddlu ar ôl i Mr Davies fynd ar goll.

Fe wnaeth heddwas gydnabod wrth y cwest nad oedd yr ymchwiliad i'w ddiflaniad yn ddigon da.

Ychwanegodd fod yr achos wedi cael ei gyfeirio at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

Clywodd y cwest hefyd fod ei deulu yn credu na fyddai Mr Davies wedi mynd i Afon Taf yn fwriadol, ac nad oedd mewn hwyliau isel ar y pryd.

Dywedwyd ei fod ar feddyginiaeth cryf am nifer o gyflyrau, gan gynnwys sarcoidosis ac osteoporosis, a bod yna bosibilrwydd y gallai ei gyflyrau a’r feddyginiaeth achosi iselder.

Ond dywedodd ei weddw, Afryl, er ei fod weithiau’n flinedig ac yn sâl ar ôl cymryd meddyginiaeth, nad oedd Mr Davies yn teimlo'n isel.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Aled Glynne Davies gyda'i deulu

Ychwanegodd ei feddyg teulu nad oedd yna awgrym fod gan Mr Davies iselder pan fu farw.

“Roedd rhai cyffuriau’n gwneud iddo deimlo’n wan neu’n sâl,” meddai Dr Sherif Khalifa.

"Ond roedd e dal yn edrych 'mlaen i weithio ar ei sioe fore Sul, mynd i’r pêl-droed a gweld y plant.”

Ychwanegodd ei fod wedi sôn llawer ei fod yn edrych ymlaen at briodas ei fab, Gruff, y tro diwethaf iddyn nhw siarad ddechrau mis Rhagfyr 2022.

'Roedd yn bwriadu dod adre'

Clywodd y cwest fod Mr Davies wedi ei weld ar gamera cylch cyfyng tafarn y Brewhouse yng Ngerddi Soffia yn mynd i gyfeiriad Parc Bute.

Roedd yn gyfarwydd iawn â’r parc, meddai ei wraig, a byddai’n mynd yno am dro yn aml, ond roedd yn berson gofalus a fyddai o ddim yn mynd yno am dro wedi iddi nosi.

Roedd hynny’n anarferol, meddai Afryl Davies, ond ychwanegodd ei fod yn gadarnhaol ei feddwl ar y noson dan sylw.

Dywedodd ei bod hi’n meddwl ei fod wedi llithro i’r afon ar ddamwain, ac na fyddai wedi mynd i’r dŵr yn fwriadol.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

“Roedd o wedi mynd â’i oriadau,” meddai Ms Davies.

"Roedd hynny’n profi i fi ei fod yn bwriadu dod adref y noson honno.

"Roedd o ofn dŵr ac yn teimlo’r oerfel yn ofnadwy oherwydd ei gyflwr."

Clywodd y cwest fod lefel yr afon yn uchel iawn ar y pryd.

Llithro i’r afon tra’n pasio dŵr

Dywedodd Dr Meleri Morgan, patholegydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru, wrth y cwest fod Mr Davies yn fyw pan aeth i’r dŵr.

"Doedd dim digon o alcohol yn ei gorff i’w atal rhag gyrru,” meddai, "felly fyddai hynny ddim wedi cael effaith ar sut roedd e’n meddwl ac yn bihafio."

Cyfeiriodd y patholegydd at “foddi sych” - lle mae sioc mynd i’r dŵr yn achosi rhywun i gael ataliad ar y galon a marw’n sydyn, cyn i'r ysgyfaint lenwi gyda dŵr.

Roedd hi’n debygol fod hynny wedi digwydd yn achos Mr Davies, meddai.

Ychwanegodd fod zip trowsus Mr Davies yn agored pan gafodd ei ganfod, a bod hynny’n awgrymu yr hyn yr oedd ei deulu’n ei gredu, sef ei fod wedi llithro i’r afon tra’n pasio dŵr.

Ychwanegodd na allai ddiystyried iddo gael ei daro’n wael, neu iddo lewygu o ganlyniad i arrhythmia a syrthio i’r dŵr.

Cadarnhaodd mai boddi oedd achos ei farwolaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Aled Glynne Davies yn olygydd BBC Radio Cymru rhwng 1995 a 2006

Cyfeiriodd y crwner Kate Robertson at adroddiad mewnol gan Heddlu’r De ynglŷn â’u hymchwiliad ar ôl i Mr Davies fynd ar goll.

Roedd hi eisiau gwybodaeth rhag ofn bod yna wersi i’w dysgu er mwyn atal marwolaethau eraill yn y dyfodol, meddai.

Clywodd y cwest gan DC Christopher Hughes, oedd yn gyfrifol am ymchwilio i achos Mr Davies.

Dywedodd nad oedd yn gallu helpu’r crwner gyda chwestiynau ynglŷn ag ymateb yr heddlu i'w ddiflaniad, ond fe gytunodd fod yr ymchwiliad wedi bod yn ddi-drefn a heb ei gydlynu’n ddigon da.

"Mae yna rai gwersi wedi eu dysgu,” meddai DC Hughes, “a bydd profiad Afryl yn rhan o’r dysgu hwnnw."

Ychwanegodd fod adroddiad wedi ei anfon at yr IOPC, ac nad oedd modd i Heddlu'r De weithredu ymhellach tan iddyn nhw gael ymateb ganddyn nhw.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd ei wraig Afryl nad oedd Aled Glynne Davies yn teimlo'n isel ar y pryd

Wrth gyhoeddi ei chasgliadau fe wnaeth y crwner ohirio cyhoeddi adroddiad ynglŷn ag osgoi marwolaethau yn y dyfodol, er mwyn cael mwy o wybodaeth am brosesau'r heddlu wrth ymchwilio i bobl sydd ar goll.

Doedd hi ddim yn glir pa welliannau sydd wedi eu gweithredu, meddai'r crwner Kate Robertson.

Dywedodd y byddai'n ysgrifennu at yr heddlu am ddiweddariad am ei bod hi eisiau sicrwydd y byddai'r gwelliannau yn cael eu cyflwyno.

Roedd Aled Glynne Davies yn olygydd BBC Radio Cymru rhwng 1995 a 2006.

Bu'n gweithio hefyd ar wasanaeth Newyddion y BBC ar S4C, ac arwain y tîm a sefydlodd wefan Gymraeg gyntaf y BBC, Cymru'r Byd.

Yn fwy diweddar fe sefydlodd gwmni cynhyrchu Goriad gyda'i wraig Afryl, gan weithio ar nifer o gynyrchiadau teledu a radio, gan gynnwys rhaglen wythnosol Bore Sul i Radio Cymru.

Yn dilyn ei farwolaeth, cafodd ei ddisgrifio fel "golygydd mwyaf beiddgar Radio Cymru" a "dyn doeth, hawddgar, llawn hiwmor".

Pynciau cysylltiedig