Miss Cymru: 'Peidiwch bod yn shei am eich corff'
![Millie-Mae Adams](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/813/cpsprodpb/3f5f/live/96caf9d0-e796-11ef-87aa-f115baaf16d4.jpg)
- Cyhoeddwyd
"Mae pobl yn meddwl am ganser y fron fel rhywbeth i fenywod hŷn yn unig a dyw hynny ddim yn wir so o'n i moyn targedu pobl ifanc sy'n gallu cael canser hefyd."
Mae Miss World Cymru eisiau chwalu'r tabŵ o siarad am ein cyrff a chychwyn sgwrs am ganser, yn enwedig ymhlith pobl ifanc.
Mewn sgwrs gyda Cymru Fyw, rhannodd Millie-Mae Adams profiad ei theulu hi o ganser a'r wybodaeth mae hi'n angerddol i'w rannu fel myfyrwraig meddygaeth.
Meddai: "Dwi'n teimlo bod 'na lot o gefnogaeth a chymorth i bobl hŷn gyda canser a llai i bobl ifanc.
"Os mae pobl yn checio eu cyrff o oedran ifancach maen nhw'n fwy tebygol o bigo lan os oes 'na lwmp neu unrhyw beth anghyfarwydd achos maen nhw'n 'nabod cyrff eu hunain.
"Dyw e ddim yn tabŵ i siarad am ein cyrff ni a dylen ni gael y sgyrsiau am ganser a sut i wirio bronnau."
![Bydd cyfnod Millie-Mae fel Miss World Cymru yn dod i ben eleni](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1200/cpsprodpb/0bf9/live/f51e8880-e863-11ef-a792-f3854a1e2cbd.png)
Bydd cyfnod Millie-Mae fel Miss World Cymru yn dod i ben eleni
Neges
Mae Millie, sy'n llysgennad dros Ymchwil Canser Cymru yn ogystal ag yn hyfforddi i fod yn feddyg ym Mhrifysgol Caerwysg, hefyd wedi creu fideos o'r enw Medic Millie Mondays sy'n cynnwys cyngor am bynciau fel sut i wirio'ch bronnau am lympiau a sut i adnabod arwyddion canser.
Meddai: "Un o'r fideos cynta' Medic Millie Mondays 'nes i 'neud oedd sut i wirio bronnau achos o'n i ddim yn siŵr sut i neud hynna nes i fi gyrraedd prifysgol a dylai pawb wybod sut i 'neud.
"Dwi'n neud fideos ar Instagram a TikTok – jest munud a hanner sy'n sôn sut i wirio bronnau neu pa symptomau i edrych mas am gyda canser."
![Millie-Mae Adams](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1200/cpsprodpb/23f2/live/dbe23270-e865-11ef-a792-f3854a1e2cbd.png)
Sgwrs anodd
Mae Millie, sy'n dod o Gaerau, Caerdydd, yn cydnabod fod y sgwrs yn gallu bod yn anodd, hyd yn oed ar gyfer rhywun gyda hyfforddiant meddygol: "Mae'n rhywbeth does neb ishe siarad am ond mae'n gallu achub bywyd ti.
"Peidiwch bod yn shei am unrhyw beth sy'n ymwneud gyda'ch corff."
Dechrau'r sgwrs sy'n bwysig, mae'n dweud, gan ei fod yn arwain pobl i ystyried gofyn am gyngor pellach neu mynd at ddoctor.
"Mae'n sgwrs anodd i'w gael ond dyna beth dwi'n mynd i drio 'neud yn fy rôl i fel llysgennad (dros Ymchwil Canser Cymru) – 'neud e fwy normal i siarad am bethau fel hyn."
Gyda hanes teuluol o ganser, mae Millie-Mae yn teimlo'n angerddol am ei rôl fel llysgennad: "Mae'n rhywbeth sbeshal achos mae lot o bobl yn y teulu sy' wedi marw neu yn dal i ddioddef o ganser. Dwi'n gweld e sut gymaint yn y brifysgol mae'n neis i deimlo bod fi'n 'neud gwahaniaeth yn y gymuned.
"'Nes i golli dwy nain i ganser – oedd nani Jones wedi marw o ganser yr ymennydd ac wedyn 'nes i golli nani Pickering i ganser y fron ac mae tadcu fi, Ken, yn byw efo leukemia.
"Mae colli pobl a gweld pobl yn byw efo canser yn meddwl fod hi'n bwysig i fi bod pobl yn byw'n hirach efo canser. Dwi mewn sefyllfa eitha privileged i weld pobl ar ddiwedd eu oes ond dwi wedi gweld yr effaith mae canser yn cael ar deuluoedd yn yr ysbyty.
"Mae ymchwil mor bwysig felly mae gallu bod yn lysgennad a chodi arian i rhywbeth dwi'n passionate amdano yn wych."
![Millie-Mae Adams](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1200/cpsprodpb/2205/live/e63504f0-e865-11ef-a792-f3854a1e2cbd.png)
Iechyd
Fel myfyriwr meddygaeth, mae Millie'n dweud fod ei gwybodaeth am ganser yn ei gwthio i fyw bywyd mwy iach: "Mae'n pwsho fi i neud mwy o ymarfer corff – dwi mwy conscious o beth dwi'n bwyta a ddim yn yfed gormod.
"Gormodedd yw'r peth ti'n gallu 'neud yn anghywir. Dwi'n trio byw yn fwy iachus."
Elusen troseddau cyllyll
Bydd cyfnod Millie fel Miss World Cymru yn dod i ben eleni ac mae hi'n falch o'r hyn mae wedi ei gyflawni fel rhan o'r rôl, gan gynnwys sefydlu elusen Street Doctors Exeter yn 2023. Pwrpas yr elusen yw helpu pobl ifanc yn y gymuned i wybod sut i achub bywyd mewn achos o drosedd cyllyll a'u haddysgu nhw am effaith trosedd cyllyll.
Meddai: "'Nes i dyfu lan yn Caerau sy'n ardal difreintiedig o Gaerdydd a 'nes i weld lot o droseddau cyllyll a thrais a dyna be' wnaeth ysbrydoli fi i greu Street Doctors yn Exeter.
"Ni'n mynd mewn i'r gymuned ac yn addysgu pobl ifanc mewn sgiliau fel CPR, beth i 'neud os mae rhywun yn cael anaf cyllell a beth i 'neud tan bod yr ambiwlans yn cyrraedd.
"A hefyd siarad trwy effeithiau ar iechyd meddwl a'r gymuned o ganlyniad i droseddau cyllyll a thrais.
"Dwi'n cofio tu allan i'r ysgol gweld grŵp o bobl ifanc yn ymladd, dwi wedi gweld e lot ac wedi cael digon ohono fe ac eisiau 'neud gwahaniaeth a defnyddio'r sgiliau dwi wedi datblygu yn y brifysgol i helpu."
Fel rhan o hyn mae wedi cydlynu'r sesiwn Cymraeg cyntaf o Street Doctors yng Nghaerdydd: "O'n i byth wedi 'neud sesiwn yn y Gymraeg so 'nes i bartneru gyda Street Doctors Caerdydd a mynd at yr Urdd a chynnig gwneud sesiwn yn ddwyieithog."
Mae'r elusen yn gweithio gyda gwasanaethau pobl ifanc, yn arbennig gyda phobl ifanc sy' wedi naill ai dioddef o drosedd chyllell neu yn cario cyllell ei hun, gan gynnwys pobl mewn gang. Mae'n annog pobl ifanc i droi at focsio neu glybiau cymunedol er mwyn eu tynnu oddi wrth y strydoedd.
Meddai: "Dwi'n gallu cydymdeimlo oherwydd 'nes i dyfu lan yn gweld lot ohono fe. O'n i jest yn lwcus – o'n i'n joio ysgol ac oedd llwybr gwahanol i fi ond gallai wedi bod yn fi yn beni lan yn y sefyllfa 'na. Jest lwc oedd e.
"Y gwahaniaeth ni'n gallu 'neud yw addysgu pobl ifanc fod 'na ffyrdd eraill o ddelio gyda hyn."
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd23 Ionawr
- Cyhoeddwyd17 Mai 2024