Gwobr am ysbrydoli eraill i ddefnyddio'r Gymraeg

Aminata yn derbyn gwobrFfynhonnell y llun, Coleg Cymraeg Cenedlaethol
  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddisgybl chweched dosbarth wedi ennill gwobr am ysbrydoli eraill i ddefnyddio'r Gymraeg.

Cafodd Aminata Jeng o Ysgol Gyfun Llangynwyd a Jacob Simmonds o Ysgol Gymraeg Gwynllyw eu gwobrwyo mewn seremoni gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol nos Iau 19 Mehefin; profiad y bydd Aminata yn ei gofio am byth, meddai.

"Roedd e mor grêt. Fi byth wedi gwneud rhywbeth fel hynny o'r blaen, felly o'dd cael siawns i 'neud rhywbeth fel hynny jest yn arbennig."

Dyma oedd y tro cyntaf i Wobr Ysbrydoli Eraill gael ei chyflwyno yn y seremoni wobrwyo flynyddol, a hynny i gydnabod cyfraniad disgyblion ysgol sydd yn annog eraill i ddefnyddio'r Gymraeg.

Ac fel yr eglurodd Jacob ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru, mae hyn yn rhywbeth sy'n agos iawn at ei galon:

"Dwi'n credu mae angen dyfalbarhad a thrio dangos i bobl, mae'r Gymraeg dal yn iaith fyw, a bod llawer o fanteision o siarad y Gymraeg ac addysgu'r Gymraeg, a thrio hybu'r Gymraeg."

Jacob SimmondsFfynhonnell y llun, Jacob Simmonds
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jacob wedi bod yn weithgar yn hyrwyddo'r Gymraeg o fewn a thu allan i'r ysgol

Talcen caled yw hi i annog pobl ifanc ei oedran ef yn ardal Pontypŵl i siarad Cymraeg, meddai, ond mae wedi bod yn weithgar iawn yn ceisio hyrwyddo'r iaith o fewn yr ysgol a'r gymuned yn ehangach:

"O'n i'n brif fachgen yn fy ysgol i, ac roedd fy ffocws i o ran hybu Cymreictod, so o'n i'n trefnu eisteddfodau ysgol a'r cyngor Cymraeg.

"O'n i'n trio gwneud lot o waith i estyn mas i'r gymuned ehangach i gynnig gwahanol bethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Dwi'n gwneud gwersi nofio; o'n i'n trio gwneud gymaint o hwnna ag o'n i'n gallu trwy'r Gymraeg.

"A jest trio gwneud yr iaith yn un sy'n gynhwysol i bawb."

Cydraddoldeb yw prif ddiddordeb Aminata; rhywbeth sydd wrth galon ei gwaith fel swyddog yn Ysgol Gyfun Llangynwyd.

"Dwi wedi creu pwyllgor cydraddoldeb, oherwydd fi'n teimlo mae 'na ddiffyg ymwybyddiaeth am gydraddoldeb. Mae e'n rhywbeth sy'n rili pwysig i fi, felly roedd e'n dda i allu hybu'r Gymraeg, gan wneud rhywbeth sydd mor agos i fi.

"Ar ôl gwneud hynny, roedd [prosiect] Changemakers wedi dod i'r ysgol a gofyn i fi wneud prosiect gyda nhw – felly o'n i'n gwneud prosiect i hybu'r Gymraeg ond i hybu cydraddoldeb hefyd."

Aminata a'i mamFfynhonnell y llun, Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aminata 'mor hapus' bod ei mam wedi dewis ei hanfon i ysgol Gymraeg

Ac wrth wraidd y cyfan mae'r ffaith fod y ddau wedi cael y cyfle i fynd i ysgolion Cymraeg, er eu bod o deuluoedd di-Gymraeg.

"Mae fy mam wedi bod yn fam sengl ers i mi gael fy ngeni," eglurodd Aminata, a dalodd deyrnged i'w mam yn ystod y seremoni. "Mae hi'n wych. Dwi mor hapus ei bod hi wedi dewis i'n rhoi i mewn addysg Gymraeg.

"Mae'n fy ngwneud i mor prowd ohoni hi, a fi yr un pryd, oherwydd bydde fi byth yn gallu gwneud dim byd fel hyn hebddi hi."

Yr un yw neges Jacob am y profiadau mae wedi eu cael o ganlyniad i dderbyn addysg Gymraeg, ac mae am annog eraill i wneud yr un penderfyniad â'i rieni:

"Dwi'n meddwl mai'r peth gorau oedden nhw wedi gallu ei wneud oedd rhoi fi mewn i ysgol Gymraeg rili – ysgol gynradd Gymraeg, meithrin Cymraeg, a lan i ysgol uwchradd a chweched Cymraeg hefyd.

"Dwi'n meddwl os oes yna rieni mas yna sy'n trio gwneud y penderfyniad, yna dylen nhw 100% fynd am addysg Gymraeg, achos mae'n cynnig gymaint o gyfleoedd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig