Academydd o'r Iseldiroedd a'i hymroddiad i'r Gymraeg

Mirjam PlantingaFfynhonnell y llun, Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Yr Athro Mirjam Plantinga

  • Cyhoeddwyd

Mewn seremoni wobrwyo ar nos Iau, 19 Mehefin, rhoddwyd gwobr arbennig i academydd sy'n wreiddiol o'r Iseldiroedd, am ei gwaith yn hybu'r Gymraeg.

Cafodd Yr Athro Mirjam Plantinga ei hanrhydeddu am ei gwaith yn cryfhau'r ddarpariaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Drindod Dewi Sant, a chael gwobr cyfraniad eithriadol at addysg uwch cyfrwng Cymraeg.

Siaradodd Mirjam gyda rhaglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru ar ddydd Gwener, 20 Mehefin.

"Dwi'n dod o le o'r enw Egmond aan Zee, sydd ar lan y môr yng ngorllewin Yr Iseldiroedd.

"Ddes i i Gymru yn y flwyddyn 2000 ar ôl astudio yn Yr Alban. 'Nes i symud i Gymru ar gyfer fy ngwaith fel darlithydd, ac hefyd dwi'n gweithio yn y brifysgol fel dirprwy Is-ganghellor, yn edrych ar brofiad academaidd ein myfyrwyr."

Mirjam PlantingaFfynhonnell y llun, Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Yr Athro Mirjam Plantinga yn annerch y gynulleidfa wedi iddi ennill y wobr

Mae gwaith Mirjam yn edrych ar brofiad myfyrwyr o'r Gymraeg, a'r gwasanaethau sydd ar gael yn y Gymraeg.

"Rydyn ni'n gweithio fel un tîm i wella profiad y myfyrwyr, ac yn cydweithio ar gyfer cydlunio strategol.

"Dwi hefyd wedi helpu i wella'r data sy'n dangos ble mae staff a myfyrwyr yn siarad Cymraeg, yn ogystal ag edrych ar y cyrsiau sy'n bwysig ar gyfer y Gymraeg yn strategol wrth ystyried targed Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg."

'Angen mwy o ddarpariaeth'

Felly, oes 'na fwy o alw am fwy o ddarpariaeth Cymraeg?

"Oes, o fewn sectorau fel iechyd, addysg, a gwasanaethau cyhoeddus. Mae angen datblygu gweithwyr dwyieithog – mae prifysgolion yn darparu cyrsiau Cymraeg, ac mae'n bwysig iawn i gario mlaen gyda hyn.

"Dwi mor ddiolchgar am dderbyn y wobr hon, mae'n golygu llawer i fi. Felly, diolch o galon i'r Coleg Cymraeg am yr anrhydedd enfawr, ac am y gefnogaeth. Mae gymaint allwn ni wneud gyda'n gilydd dros y Gymraeg – yn y sefydliadau a ledled Cymru."

Mae Mirjam yn parhau i dderbyn gwersi gan aelod o staff Canolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol ac yn annog ac ysbrydoli eraill sy'n ddihyder i ddefnyddio eu Cymraeg.