Rhieni a disgyblion wedi eu 'methu' gan safonau addysg
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei chyhuddo o fethu rhieni, disgyblion ac athrawon Cymru ac o fod yn gyfrifol am y safonau addysgol gwaethaf yn y Deyrnas Unedig.
Roedd y gwrthbleidiau'n ymateb i ddatganiad yn y Senedd ar fesurau i hybu cyrhaeddiad disgyblion.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Lynne Neagle y byddai mwy o adnoddau'n cael eu clustnodi ar gyfer dysgu llythrennedd, mathemateg a gwyddoniaeth.
Daw'r datganiad yn sgil canlyniadau gwael i Gymru mewn profion rhyngwladol ac adroddiad beirniadol yn gynharach eleni am y drefn addysg.
Yn ôl Ms Neagle roedd yna "lawer i'w ddathlu" yn y byd addysg ond roedd "presenoldeb dysgwyr, agweddau at ddysgu a chyrhaeddiad yn wannach na chyn y pandemig".
Dywedodd bod presenoldeb wedi gwella ychydig, ond nad oedd "yn agos at fod yn ddigon da" a bod mesurau'n cael eu cyflwyno i fynd i'r afael ag ymddygiad gwael.
Ychwanegodd y byddai grŵp o arbenigwyr annibynnol yn cael eu penodi i'w chynghori fel rhan o'r ymdrechion i godi safonau.
Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Cefin Campbell, bod gorfod troi at arbenigwyr allanol yn "gyfaddefiad o fethiant".
"Ar ôl 25 mlynedd o Lafur yng Nghymru rydych chi wedi methu mynd i'r afael â hyd yn oed y mater sylfaenol o wella safonau mewn ysgolion", meddai.
Dywedodd bod y llywodraeth wedi methu teuluoedd a staff ysgolion.
Roedd datganiad yr Ysgrifennydd Addysg yn siom meddai llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Tom Giffard.
Dywedodd bod y gweinidog wedi cynnig "mwy o'r un peth - yr un atebion ideolegol wnaeth ein cael ni mewn i'r llanast yma yn y lle cyntaf".
Beth yw'r broblem gyda safonau addysg?
Roedd canlyniadau disgyblion Cymru ym mhrofion rhyngwladol mathemateg, darllen a gwyddoniaeth Pisa yn is nag erioed o'r blaen ac wedi disgyn yn bellach tu ôl i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig.
Fe wnaeth adroddiad yn gynharach eleni dynnu sylw at "ganlyniadau addysgol gwael ar draws y sbectrwm yng Nghymru, gyda pherfformiad arbennig o wael ymhlith disgyblion llai cefnog".
Galwodd yr adroddiad am newidiadau i'r Cwricwlwm i Gymru ac oedi cyn cyflwyno cyrsiau TGAU newydd flwyddyn nesaf.
Dangosodd data o asesiadau darllen a rhifedd fod safonau plant saith i 14 oed wedi gostwng ers y pandemig.
Roedd y cwymp mwyaf yn y profion darllen Cymraeg - gyda'r gostyngiad i berfformiad yn cyfateb i 11 mis tu ôl i ganlyniadau 2020-21.
Yn ogystal, roedd yna fylchau sylweddol rhwng perfformiad plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'u cyd-ddisgyblion.
Roedd disgyblion tlotach 21 mis ar ei hôl hi ar gyfartaledd mewn darllen Saesneg a 31 mis mewn darllen Cymraeg.
Mae'r Ysgrifennydd Addysg hefyd wedi dod dan y lach ar ôl sylw yn y cyfryngau i'r ffordd mae plant ifanc yn cael eu dysgu i ddarllen yn Saesneg.
Dywedodd Lynne Neagle wrth Aelodau o'r Senedd ddydd Mawrth fod adroddiad blynyddol arolygwyr Estyn yn awgrymu bod "ysgolion yn cael y pethau sylfaenol yn iawn ond bod angen mwy o ffocws ar ddatblygu sgiliau lefel uwch".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd21 Mawrth