Prifysgol Bangor i ymgynghori ar dorri 78 o swyddi

- Cyhoeddwyd
Bydd Prifysgol Bangor yn dechrau ymgynghori ar gynllun i dorri 78 o swyddi mewn ymgais i wneud arbedion gwerth £5.3m.
Mewn e-bost at staff a myfyrwyr ddydd Mercher, dywedodd yr Is-ganghellor yr Athro Edmund Burke fod yr heriau sy'n wynebu'r sector addysg uwch yn rhai "digynsail".
Mae dogfennau sydd wedi'u gweld gan BBC Cymru yn dangos newidiadau arfaethedig i ysgolion academaidd er mwyn cyrraedd arbedion, gyda'r brifysgol yn gofyn am adborth gan staff a myfyrwyr.
Daw ar ôl i brifysgolion ledled Cymru wynebu heriau tebyg o ran cyllid.
- Cyhoeddwyd19 Chwefror
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd13 Chwefror
Ym mis Chwefror fe gyhoeddodd Prifysgol Bangor yr angen i dorri 200 o swyddi er mwyn gwneud arbedion o £15m.
Mewn e-bost ddydd Mercher, dywedodd yr Is-ganghellor fod y brifysgol wedi gwneud "cynnydd da" wrth wneud arbedion trwy "reolaeth lem ar wariant", "diswyddiadau gwirfoddol ac ymddeoliadau".
Mae hyn wedi "lleihau ein targed arbedion gweddilliol i tua £5.3 miliwn, sef tua 78 o swyddi cyfwerth ag amser llawn".
Bydd yr ymgynghoriad, sy'n para mis, yn rhoi cyfle i fyfyrwyr a staff roi eu barn ar ble mae'r toriadau swyddi yn fwyaf tebygol o ddisgyn.
Yr awgrym ydy y gallai'r Adran Seicoleg weld 13.6 o aelodau staff Cyfwerth ag Amser Llawn (CALl) yn colli swyddi.
Ymysg eraill gallai Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithasol dorri 9.7 CALl pellach gydag arbedion sylweddol hefyd yn cael eu gwneud mewn unedau Staff Proffesiynol.

Yn ei e-bost cyfeiriodd yr Athro Edmund Burke at y pwysau ehangach ar addysg uwch.
"Mae'r sefyllfa yng Nghymru'n adlewyrchiad o'r darlun cenedlaethol yn ehangach," meddai.
"Mae ffioedd israddedig cartref wedi bod yn sefydlog ar £9,000 ers 2012, heb unrhyw addasiad ar gyfer chwyddiant, ac er bod cynnydd bychan i'r ffioedd wedi'i gytuno o'r flwyddyn nesaf ymlaen ar gyfer y myfyrwyr sy'n dechrau ym mis Medi 2025, mae hyn ymhell o fod yn ddigon i fedru ysgwyddo costau cynyddol.
"Yn y cyfamser, mae costau gweithredu, yn enwedig costau cyfleustodau ac Yswiriant Gwladol, wedi parhau i godi.
"Mae llawer o brifysgolion wedi dibynnu'n fwyfwy ar incwm gan fyfyrwyr rhyngwladol i bontio'r bwlch.
"Fodd bynnag, mae newidiadau diweddar i bolisi mewnfudo Llywodraeth y DU wedi arwain at ostyngiad yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy'n ymrestru, a does dim arwydd fod y sefyllfa honno ar fin newid, ac yn wir mae risg ychwanegol o bosibl os gwir y dyfalu diweddar yn y wasg am gamau rheoli pellach ar fewnfudo.
"Yn ogystal, mae sefydliadau tariff uchel wedi dechrau gostwng eu gofynion mynediad er mwyn denu rhagor o fyfyrwyr cartref, gan ddwysáu'r gystadleuaeth ar draws y sector."
Daw toriadau Prifysgol Bangor yn dilyn cyhoeddiadau tebyg gan Brifysgol Caerdydd, MET Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Aberystwyth a sefydliadau Addysg Uwch eraill.
Ym mis Ionawr fe ymatebodd Llywodraeth Cymru i alwadau am fwy o gyllid drwy ddyrannu £20m pellach i'r sector ond mae ymgyrchwyr wedi galw'n gyson am adolygiad o'r model ariannu.