Y gŵr o Fachynlleth sy'n hyfforddi gyda thîm criced Yr Almaen

James BreeseFfynhonnell y llun, James Breese
  • Cyhoeddwyd

Mae James Breese o Fachynlleth yn gweithio ledled y byd yn helpu athletwyr i berfformio i'w llawn potensial, gan osgoi anafiadau.

Mae'n ymgynghorydd hyfforddi cryfder a ffitrwydd, yn canolbwyntio'n bennaf ar griced - mae'n gweithio gyda chorff criced Yr Almaen ar hyn o bryd. Ond mae hefyd wedi gweithio efo sefydliadau pêl-droed Americanaidd, pêl-fas (baseball), a chwaraeon eraill.

"O'n i'n arfer gweithio yn yr heddlu yn Llundain, a 'nes i adael tua 13 mlynedd yn ôl," meddai James.

"'Nes i ddechrau hyfforddi tra o'n i efo'r Met - odd 'na lot o anafiadau ysgwyddau ac ati gan y bois o'n i'n gweithio efo ac mi 'nath yr heddlu dalu i mi 'neud cwrs hyfforddi personol a chwrs rehab yn dilyn anafiadau."

Gweithio gyda'r FBI a'r Navy SEALs

Wedi iddo gymhwyso fel arbenigwr yn y maes aeth i weithio yn yr Unol Daleithiau.

"Es i weithio gyda thimau hyfforddi cryfder yn America, gan weithio gydag ambell berson enwog. O fanno wedyn es i rownd y byd yn gweithio yn y maes er mwyn ennill profiad. 'Nes i adael yr heddlu, canolbwyntio ar y byd ffitrwydd, a dechrau busnes fy hun.

"Dwi 'di bod yn gweithio efo'r awdurdodau yn yr Unol Daleithiau, fel yr FBI, a hefyd y Navy SEALs – dwi newydd ddod 'nôl o Washington rŵan.

"Pwrpas fy rôl i yno oedd i helpu'r sefydliadau gael y gorau o'r adnoddau oedd ganddyn nhw yng nghyd-destun hyfforddi cryfder a ffitrwydd, a thrio lleihau'r risg o anafiadau i'r staff a'r lluoedd arfog o'n i'n gweithio efo."

james Ffynhonnell y llun, James Breese
Disgrifiad o’r llun,

Mae James yn ymddiddori yn y byd chwaraeon eithafol ac roedd yn hyfforddi eirafyrddio am gyfnod

Chwaraeon America

Mae James wedi bod yn gweithio efo athletwyr sy'n rhan o'r NFL Combine (National Football League) yn Virginia, sef y treialon i ffeindio'r dalent ifanc gorau yn y byd pêl-droed Americanaidd.

"Yn yr NFL Combine maen nhw i gyd isio gwybod be' 'di manylion pŵer, cryfder a chyflymder y chwaraewyr.

"Ond rŵan maen nhw isio gwybod be' 'di'r hyn maen nhw'n ei alw'n injury risk factors, ac o'n i'n gweithio gyda dyn o'r enw Gray Cook, a ddyfeisiodd y rhaglen i atal anafiadau ar gyfer yr NFL i gyd."

Mae James wedi bod i'r treialon yn yr Unol Daleithiau a gweld dros ei hun y math o athletwyr ifanc sydd yno.

"Dwi 'di bod yn y drafts yn America, ble mae chwaraewyr ifanc yr NFL yn cystadlu mewn sesiynau ffitrwydd. Wir, mae'n anhygoel be' mae rhai o'r bois yma'n gallu gwneud, maen nhw'n athletwyr arbennig iawn – anghenfilod!"

James BreeseFfynhonnell y llun, James Breese
Disgrifiad o’r llun,

Gan fod James bellach yn 42 oed mae'n gymwys i chwarae i dîm criced dros 40 Cymru - yma, mae'n batio'n erbyn Lloegr

Arloesi yn y byd criced

Fe drosglwyddodd James yr egwyddorion mae wedi eu dysgu am atal anafiadau i'r byd criced, a dyma'r gamp sydd o brif ddiddordeb iddo.

"Daeth awdurdodau criced Yr Almaen ata i gan ddweud bod nhw angen elfen ffitrwydd i'r hyfforddiant yno. Mae'r chwaraewyr yn byw yn Berlin, rhai yn Hamburg, lawr yn Frankfurt a lot fawr lawr yn Munich."

Roedd James yn byw yn Yr Almaen ac mae'n siarad Almaeneg yn rhugl. Mae hefyd yn siarad Ffrangeg gan iddo astudio'r ddwy iaith yn y brifysgol.

"Mae'r tîm yn safle 44 yn y byd ar hyn o bryd, a 'dan ni'n anelu i gyrraedd y 25 uchaf.

"Os fydden ni yn y 25 uchaf bydd mwy o arian ar gael, a mwy o adnoddau, ac mi fydd hynny'n help i ddatblygu'r strwythurau criced yn y wlad."

Yr AlmaenFfynhonnell y llun, Deutscher Cricket Bund
Disgrifiad o’r llun,

Tîm criced merched Yr Almaen yn dathlu cipio wiced

"'Nath rheolwr Yr Almaen, Ali Waldron, gysylltu efo fi a gofyn be' allen i wneud er mwyn gwella perfformiad y tîm, a 'nes i ddweud yn syml, 'ffitrwydd'.

"Falle bod gennym ni (Yr Almaen) ddim yr un skillset a gwledydd mawr y byd criced, ond fe allen ni fod yn fwy ffit na neb. A dyna ydy fy arbenigedd i - galla' i roi prosesau ffitrwydd at ei gilydd fel bod merched Yr Almaen yn gallu gweithio'n remotely ei hunan i wella ffitrwydd."

James BreeseFfynhonnell y llun, Deutscher Cricket Bund
Disgrifiad o’r llun,

James yn hyfforddi gyda thîm criced Merched Yr Almaen

Felly, o ble daw'r chwaraewyr sydd yng ngharfan criced Yr Almaen?

"Mae tua 80% o'r merched yn byw yn Yr Almaen, a thua 20% yn byw ym Mhrydain, sydd efo rhieni neu nain a thaid Almaenaidd – mae 'na lot o Almaenwyr yn Llundain!

"Mae 'na gynghrair yn Munich, Regensburg, Berlin a Hamburg, ond dwi'n credu bod 'na lai na 300 o ferched yn chwarae'r gêm yno.

"Dwi 'di dechrau gweithio efo tîm y dynion hefyd ac mae ganddyn nhw dros 2,500 o chwaraewyr, ond mae tua 40% o'r tîm dynion yn byw ym Mhrydain.

"Mae'n fwy o sialens efo'r dynion, a dwi'n meddwl bod o'n haws i wella sefyllfa safle gêm y merched yn Yr Almaen, yn syml achos bod mwy o gystadleuaeth yn gêm y dynion."

jamesFfynhonnell y llun, Deutscher Cricket Bund
Disgrifiad o’r llun,

Yn ogystal â thîm criced Yr Almaen, mae gan James nifer o gleientiaid yn America, Awstralia a'r Ariannin

Sut mae James yn treulio ei amser tra'n gweithio efo'r Almaen?

"Dwi'n gweithio ar-lein rhan amlaf," meddai James, "ond dwi'n mynd allan yna i weithio efo nhw am ryw benwythnos yma ac acw i wneud profion ffitrwydd a chadw mewn cysylltiad.

"Mae gennym ni feddalwedd sy'n gadael i ni dracio'u perfformiad nhw, a 'dan ni'n cysylltu efo'r chwaraewyr drwy'r apps 'ma.

"Ond be' dwi 'di sylwi ydi bod angen addysgu'r tîm yn iawn, ar sut i ymarfer, sut i redeg yn iawn, a'r maeth maen nhw angen i berfformio ar eu gorau.

"Mae 'na rai sydd yn chwarae criced yn dda iawn, ond yn amatur o ran sut maen nhw'n paratoi, felly darparu'r addysg ydy be' dwi'n ei wneud – sut i godi pwysau a cholli pwysau."

James BreeseFfynhonnell y llun, James Breese

Edrych ar strwythur clybiau a sefydliadau yn eu cyfanrwydd yw prif gyfrifoldeb James, er ei fod wedi cymhwyso i hyfforddi'n fwy personol.

"Fel arfer mae ganddoch chi'r adrannau ffisiotherapi, cryfder a ffitrwydd, a'r ochr hyfforddi - fy nghyfrifoldeb i ydi edrych ar y cyfan a gwneud yn siŵr bo'r tair adran yn cydweithio i gael y gorau allan o'r timau a'r athletwyr yn unigol."

Mae James yn parhau i redeg dau gwmni sy'n rhoi sylw i'r agweddau hyn, gan weithio efo cleientiaid ledled y byd.

Pynciau cysylltiedig