Siôn Parry, y Cymro yng nghrys coch Canada

Siôn ParryFfynhonnell y llun, Siôn Parry
Disgrifiad o’r llun,

Siôn Parry'n chwarae'n erbyn Yr Alban yn Ottawa, 6 Gorffennaf 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd wedi meithrin doniau nifer o sêr o'r byd chwaraeon dros y blynyddoedd, gan gynnwys cyn-bêl-droediwr Real Madrid, Gareth Bale, cyn-gapten Cymru a'r Llewod, Sam Warburton, ac enillydd Tour de France 2018, Geraint Thomas.

Ymysg y sêr chwaraeon proffesiynol eraill aeth i'r ysgol mae chwaraewr rygbi rhyngwladol 25 oed sy'n cynrychioli Canada, Siôn Parry.

Ar hyn o bryd, mae Siôn yn Japan yn cystadlu yn y Pacific Nations Cup 2024 - pencampwriaeth rhwng Fiji, Samoa, Tonga, Canada, UDA a Japan.

Mae Siôn yng ngharfan y Canucks i wynebu Tonga yn Tokyo ar 14 Medi mewn gêm i benderfynu pwy fydd yn gorffen yn bumed ac yn chweched yn y gystadleuaeth eleni.

Siaradodd Cymru Fyw gyda Siôn am ei fywyd, ei yrfa rygbi a sut y daeth i gynrychioli tîm cenedlaethol Canada.

Byw yng ngogledd Cymru

"Ges i fagwraeth Gymreig iawn, ac un agwedd ohonno oedd bod lot o rygbi yn y teulu," meddai Siôn.

"Dwi'n chwarae'r gêm ers dwi'n cofio. Roedd fy nhad yn chwarae, fy nhaid yn chwarae, a hefyd fy ewythrod i gyd."

Mae tad Siôn, Geraint, yn dod o Aberystwyth a'i fam, Kate, yn dod o Gaernarfon, ac mae teulu ganddo dal i fod yn y ddwy ardal.

"Odden ni'n byw lan yng ngogledd-ddwyrain Cymru nes o'n i'n wyth oed, felly o'n i'n chwarae i'r Wyddgrug ac i dimau yn ardal Caer oherwydd dyna ble roedd Dad yn chwarae.

"Yna wedi i ni symud i Gaerdydd o'n i'n chware i Riwbeina yn yr adrannau iau a ieuenctid, a 'nes i aros 'da nhw nes i mi chwarae i'r tîm cyntaf."

Mae adrannau ieuenctid Clwb Rygbi Rhiwbeina hefyd wedi datblygu sgiliau cyn-chwaraewyr fel Sam Warburton, Gareth Delve a Nick Macleod.

Disgrifiad o’r llun,

Siôn yn ei dymor cyntaf gyda Phontypridd yn 2019

Enwogion Ysgol Yr Eglwys Newydd

Tra'n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Yr Eglwys Newydd roedd Siôn yn ymwybodol o'r etifeddiaeth chwaraeon oedd yno.

"Mae gen ti enwau mawr sydd 'di rhagori mewn gwahanol gampau - rhai ohonyn nhw 'di mynd 'mlan i fod yn fyd-enwog fel Bale, Warburton a Geraint Thomas.

"Mae 'na Hall of Fame yn yr ysgol gyda holl enwau'r bobl sydd 'di llwyddo yn y byd chwaraeon. Mae hynny'n eitha' cŵl, ac maen nhw'n dy atgoffa di o'r traddodiad 'ma pan ti'n cynrychioli'r ysgol."

Chwaraeodd Siôn gyda chwaraewr rhyngwladol Cymru, Ben Thomas, yn yr adrannau iau ac roedd Owen Lane flwyddyn yn hŷn nag ef yn yr ysgol.

Wedi iddo adael yr ysgol chwaraeodd Siôn dros Fedwas am flwyddyn cyn symud i Bontypridd, ble bu'n chwarae am bum mlynedd o 2019 i 2024.

Ffynhonnell y llun, Siôn Parry
Disgrifiad o’r llun,

Yn cystadlu am y bêl yn erbyn Caerdydd yn 2023

Y cysylltiad â Chanada

"Ath fy nain a taid i fyw i Ganada yn y 1960au am chwe blynedd, a chafodd fy mam a fy ewythr eu geni yn Ottawa.

"Dwi ddim yn meddwl bo' gen i deulu mas yna heddi, falle cwpl o gefndryd pell, ond y cysylltiad ydy bo' fy mam wedi ei geni yn Ontario."

Doedd neb llawer yn gwybod am y cysylltiad yma gyda Chanada 'nes iddo ddod i'r amlwg y llynedd.

"Mae fy mam yn Gymraes a'i theulu o Wynedd, felly dydi hi ddim yn gysylltiad amlwg. Ond roedd un o fy nghyn-hyfforddwyr yn ffrindiau da gyda Rob Howley, a oedd yn gweithio â Chanada blwyddyn d'wethaf. Drwy hynny fe gafodd fideo o fy highlights ei basio 'mlaen i Kingsley (Jones), prif hyfforddwr Canada.

"Penderfynodd Kingsley roi cyfle i fi ar gyfer taith Canada i Tonga haf d’wethaf - roedd gen i tua dau ddiwrnod i benderfynu mynd neu beidio, felly 'nes i dderbyn y cyfle a dwi'n falch mod i 'di gwneud."

Ffynhonnell y llun, Siôn Parry
Disgrifiad o’r llun,

Siôn wedi iddo ennill ei gap cyntaf yn erbyn Tonga yn Nukuʻalofa, 10 Awst 2023. Hefyd yn y llun mae ei gariad Michaela a'i rieni, Geraint a Kate

Dilyn ôl troed Kingsley

Wedi pum mlynedd gyda Phontypridd mae Siôn newydd arwyddo â Glyn Ebwy ym Mhencampwriaeth Super Rygbi Cymru ar gyfer tymor 2024-25.

Drwy wneud hyn mae'n dilyn trywydd gyrfa Kingsley Jones - y ddau yn flaenasgellwyr gyda Phontypridd, yna Glyn Ebwy, a'r ddau bellach gyda Chanada.

“Mae'n grêt cael Kingsley fel hyfforddwr, mae e'n Gymro hefyd ac mae mor gyfeillgar.

"Mae analyst y garfan hefyd yn Gymro - Gwern James o Aberystwyth - felly mae dipyn o ni 'ma!"

Dydi'r cysylltiadau Cymreig ddim yn gorffen yno, gan fod ail-reng Canada, Izzak Kelly, yn chwarae dros Bont-y-pŵl, ac mae rhai o enwau mwyaf yn hanes rygbi Canada - Gareth Rowlands, Gareth Rees a Morgan Williams - ymysg y 500,000 o bobl sy'n cyfri eu hunain yn Ganadiaid-Cymreig.

Ffynhonnell y llun, Canada Rugby/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Y ddau Gymro yn rhengoedd Canada, Siôn a Kingsley Jones. Enillodd Jones 10 cap dros Gymru rhwng 1996 ac 1998

Enillodd Siôn ei gapiau cyntaf ar daith i Tonga y llynedd, ac mae ganddo bellach bedwar cap yn dilyn gemau diweddar yn erbyn Yr Alban a Rwmania.

“Nathon ni guro Rwmania, ond dim gwneud rhy dda yn erbyn Yr Alban - roedden nhw'n dda iawn i fod yn deg.

"Ges i anaf yn ddiweddar felly dwi heb chwarae yn y ddwy gêm ddiwethaf, ond rwy'n barod i wynebu Tonga. Maen nhw'n dîm corfforol iawn - tîm o fechgyn mawr!"

Bydd gan Ganada dair gêm yn Ewrop fis Tachwedd, yn erbyn Rwmania, Yr Iseldiroedd a Chile.

"Dwi 'di bod yn lwcus gyda fy ngemau dros Canada hyd yma gan fod fy rhieni a fy nghariad wedi gallu bod yno. Roedden nhw yn Tonga blwyddyn d’wetha' ac yn Ottawa ar gyfer y gemau eleni, ond bydd hi'n braf cael gemau yn Ewrop fel bod hi'n haws i deulu a ffrindiau dod i gefnogi os ydyn nhw eisie."

Ffynhonnell y llun, Siôn Parry
Disgrifiad o’r llun,

Gyda theulu a ffrindiau wedi'r golled yn erbyn Yr Alban ar 6 Gorffennaf 2024

Wynebu Cymru rhyw ddydd

Sut mae Siôn yn teimlo am y syniad o chwarae yn erbyn Cymru?

“Bydda hynny mor cŵl!

"Nathon ni chwarae yng Nghymru yn 2021 felly rwy'n gobeithio bydd taith arall yno yn fuan achos bydde fe'n anhygoel i fod yn rhan o'r gêm yno. Bydd yn rhyfedd iawn - ond mewn ffordd dda!"

A sut fyddai Siôn yn teimlo'n canu anthem Canada cyn wynebu Cymru? "Bydda hynny'n ocê. Rhaid bod yn broffesiynol, ac mi fyddwn i'n canu'r anthem â balchder ac rhoi fy ngorau dros y crys."

Ffynhonnell y llun, Siôn Parry
Disgrifiad o’r llun,

Dathlu wedi i Ganada ennill 35-22 yn erbyn Rwmania yn Ottawa, 12 Gorffennaf, 2024

Cwpan y Byd 2027

2023 oedd yr unig adeg pan fethodd Canada gyrraedd Pencampwriaeth Cwpan y Byd, ac mae hynny'n uchelgais i Siôn.

“Bydda’n dda i barhau i chwarae am mor hir â phosib ac ennill gymaint o gapiau ag y medraf.

"Y prif amcan nawr yw chwarae'n dda a chyrraedd Cwpan y Byd 2027 yn Awstralia gyda'r tîm - mae'r gemau rhagbrofol yn dechrau flwyddyn nesaf."

Ffynhonnell y llun, Siôn Parry