Miloedd o gefnogwyr yn dathlu llwyddiant Wrecsam yn y Cae Ras

Fe fydd Wrecsam yn chwarae yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf
- Cyhoeddwyd
Fe ymunodd miloedd o gefnogwyr Wrecsam â chwaraewyr a swyddogion y clwb mewn dathliad diwedd tymor yn y Cae Ras brynhawn Sul.
Mae'r dathlu yn parhau wedi i'r Dreigiau sicrhau dyrchafiad i'r Bencampwriaeth ar ôl gorffen yn yr ail safle yn yr Adran Gyntaf.
Roedd y fuddugoliaeth o 3-0 yn erbyn Charlton Athletic y penwythnos diwethaf yn golygu bod Wrecsam wedi ennill dyrchafiad am y trydydd tro yn olynol - y clwb cyntaf i wneud hynny ym mhrif gynghreiriau Lloegr.
Roedd y perchnogion, Rob McElhenney a Ryan Reynolds ymhlith y miloedd oedd yn dathlu ar y cae wedi'r chwiban olaf.

Lowri Jones, Kevin Jones, Paul Radcliffe ac Yvonne Jones yn mwynhau'r dathlu
Ymhlith y cefnogwyr oedd yn gwylio'r seremoni ddydd Sul oedd Kevin ac Yvonne Jones.
Dywedodd Kevin mai uchafbwynt y tymor iddo ef oedd gweld Paul Mullin yn sgorio yn erbyn Blackpool: "Fe dynnodd y bêl o'r awyr, a'i tharo yn bwerus i'r rhwyd.
"Ond mae 'na gymaint o eiliadau anhygoel wedi bod, fyswn i'n gallu dewis sawl un!"
Ychwanegodd Yvonne, sy'n aelod o'r clwb cefnogwyr 'Merched y Cae Ras': "Mae'n anhygoel beth mae Rob a Ryan wedi ei wneud.
"Pan glywon ni eu bod nhw'n prynu'r clwb, doedden ni methu coelio'r peth. Mae wedi bod yn anhygoel."

Roedd Rhian Jones o Rosllannerchrugog ac Annette Gardner o Wrecsam yn mwynhau bob eiliad o'r llwyddiant diweddar, wedi nifer o flynyddoedd heriol.
"Dwi wedi bod i Ebbs Fleet oddi cartref gydag ond 33 o gefnogwyr Wrecsam yn y stadiwm," meddai.
"Pan 'da chi'n cefnogi clwb, mae angen i chi gefnogi nhw os ydyn nhw'n neud yn dda neu beidio.
"Dwi'n gobeithio y bydd y cefnogwyr newydd i gyd yn aros gyda'r clwb ar y siwrnai sydd i ddod - a pan 'da ni'n dechrau ennill llai o gemau ac o bosib ddim yn brwydro tua brig y tabl.
"Gobeithio y bydden nhw gyd yn aros gyda ni!"
Yn ystod y digwyddiad yn y Cae Ras cafodd nifer o chwaraewyr eu gwobrwyo am eu cyfraniad y tymor hwn.
Ollie Rathbone oedd chwaraewr y flwyddyn, Max Cleworth oedd chwaraewr ifanc y flwyddyn a Geraint Parry oedd enillydd y wobr am gyfraniad oes.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ebrill
- Cyhoeddwyd27 Ebrill
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl