Cefnogwyr a sêr Hollywood yn dathlu dyrchafiad Wrecsam

WrecsamFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Caefnogwyr Wrecsam ar y cae wedi'r buddugoliaeth yn erbyn Charlton Athletic

  • Cyhoeddwyd

Mae cefnogwyr a sêr Hollywood wedi bod yn dathlu ar ôl i'r tîm pêl-droed lwyddo i ennill dyrchafiad i'r Bencampwriaeth nos Sadwrn.

Roedd Wrecsam wedi curo Charlton Athletic o dair gôl i ddim i sicrhau'r dyrchafiad a chreu hanes.

Dyma'r tîm cyntaf erioed yn haenau uchaf cynghrair Lloegr i ennill dyrchafiad am dri thymor yn olynol.

Roedd y perchnogion Rob McElhenney a Ryan Reynolds, a gwraig Reynolds Blake Lively yno i gefnogi Wrecsam wrth iddyn nhw sicrhau eu lle yn y Bencampwriaeth.

Wedi'r chwiban olaf fe wnaeth y cefnogwyr redeg ar y cae i ddathlu.

Wrth siarad wedi'r gêm dywedodd capten y tîm James McClean bod y llwyddiant wedi dod "ar ôl ymgais fawr" gan bawb, gan gynnwys y rheolwyr, y perchnogion, y cefnogwyr a'u teuluoedd, yn ogystal â'r staff.

Cefnogwr Wrecsam yn dathlu
Disgrifiad o’r llun,

David Jones yn dathlu buddugoliaeth Wrecsam

Mae David Jones o Ellesmere Port wedi bod yn gefnogwr Wrecsam ers 1958.

"Dwi erioed wedi gweld dim byd tebyg i hyn, dwi'n cofio ennill dyrchafiad yn y 70egau ond mae hyn yn well o lawer.

"Dewch i ni gael tymor yn y Bencampwriaeth a gweld lle ni'n mynd," dywedodd.

Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Hywel ac Owen Trewyn ar ôl y gêm

Dywedodd Hywel Trewyn: "Oedd o'n wych. O'n i chydig bach yn bryderus ar y dechrau ma raid i fi gyfadde'.

"'Da ni ddim isio mynd i'r play-offs na'm byd felna a 'da ni just yn mynd i fyny wan a 'da ni'n haeddu hynny - oedden ni'n chwarae'n llawer gwell heddiw na'r gemau blaenorol yn ddiweddar.

"Mae'n ffantastig, fedra i ddim credu - mae'n wyrth."

Ychwanegodd: "Mae'n golygu bob dim yn economaidd, oedden ni'n bwyta mewn bwyty cyn dod yma - mae pawb yn hapus."

Dywedodd Owen Trewyn: "Wel maen nhw wedi gweithio'n galed ac mae'n bleser i gael gweld nhw'n chwarae."

Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pêl-droed wedi rhoi "gobaith" i'r ardal, meddai Rhys Jones.

Dywedodd Rhys Jones o'r Waun fod sicrhau dyrchafiad am y trydydd tro yn olynol yn "anhygoel".

"Oedd hi'm yn edrych yn bosib chydig yn ôl ond 'da ni 'di neud o yn y diwedd.

"Oedd angen sefyll i fyny heddiw, maen nhw'n dîm da - yn y play-offs eu hunain - ac oedd yr hogiau wedi chwarae'n dda."

Mae'r pêl-droed wedi rhoi "gobaith" i'r ardal, meddai Mr Jones.

"Mae'r lle ma wedi bod mor ddigalon am flynyddoedd ac mae'n mor braf wan gweld y plant yn gwisgo crysau Wrecsam - dyna'r mwyafrif wan."

Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Jane a Peter Lewis o Rhuthun

"Roedd y fuddugoliaeth yn rhyfeddol" meddai Jane a Peter Lewis o Ruthun.

Ychwanegodd Jane, bod y dyrchafiad yn "golygu'r byd i Wrecsam a'i phobl."

Mae Cledwyn Ashford wedi bod yn sgowt gyda'r Academi yn Wrecsam ers dros 40 mlynedd. Dywedodd bod hyn yn "freuddwyd."

"Mae hi fel stori dylwyth teg" meddai.

Ryan a RobFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn dathlu ar ôl y gêm

Fe wnaeth y sêr Hollywood, Rob McElhenney a Ryan Reynolds, brynu'r clwb ym mis Chwefror 2021 ac ers hynny maen nhw wedi mynd o nerth i nerth ar ôl treulio 15 mlynedd yn y bumed haen.

Mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu stadiwm y Cae Ras ymhellach.