Sut mae staff gorsafoedd pleidleisio yn paratoi am yr etholiad?
- Cyhoeddwyd
Am chwe wythnos mae'r pwyslais ym mhencadlys Cyngor Ceredigion, Aberaeron ar yr etholiad cyffredinol. Nid gwaith diwrnod yw hwn!
Pan gyhoeddodd Rishi Sunak mai 4 Gorffennaf fydd dyddiad yr etholiad, fe gychwynnodd y peiriant etholiadol o ddifri mewn cynghorau fel hyn ar hyd a lled y wlad.
Mae gan yr awdurdodau wythnosau yn unig i baratoi a chwblhau gwaith fyddai fel arfer yn gallu cymryd hyd at chwe mis.
Mewn ystafelloedd ar hyd a lled prif swyddfa'r cyngor, mae timau o staff wrthi'n ddyfal yn paratoi.
Yn eu plith mae Neville Evans, sy'n dod yma i helpu ac yn agor amlenni'r pleidleisiau post.
"Ma fe yn bwysig fod pobl tebyg i fi ar gael i helpu achos bydde hi'n anodd i staff cyflogedig neud y gwaith i gyd," meddai.
"Ma' nhw'n neud y gwaith paratoi ymlaen llaw ac wedyn ein rôl ni yw sicrhau fod popeth mewn trefn i fynd allan i'r etholwyr."
Mae'r gwaith tu ôl i'r llenni wrth baratoi a rhoi popeth yn ei le ar gyfer etholiad cyffredinol yn allweddol.
Mae'r cyfan yn cael ei oruchwylio'n ofalus a'r pwyslais ar gywirdeb a chyfrinachedd.
Fel rhan o’i gwaith mae Lowri Edwards, dirprwy swyddog canlyniadau gweithredol ar gyfer etholaeth newydd Ceredigion Preseli, yn paratoi'r nwyddau fydd eu hangen ar y gorsafoedd pleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad.
Dywedodd: "Yn y bocs ma gyda ni rhestr o'r ymgeiswyr, teclyn i helpu wasgu'r pleidleisiau i lawr yn dwt yn y bocs pleidleisio, teclyn i helpu pobol sydd â nam golwg ac amryw ddogfennau a chyhoeddiadau ar gyfer yr orsaf ar y dydd."
Un newid mawr diweddar yw'r angen am ID ffotograffig mewn etholiad cyffredinol ar gyfer Senedd y Deyrnas Unedig ac mae yna reolau pendant iawn am hyn yn ôl Barry Rees, y dirprwy swyddog canlyniadau.
"Dyma'r newid mwyaf ar gyfer y broses ethol, lle ma disgwyl i bob etholwr gyflwyno ID ffotograffig dilys ac mae hynny yn bwysig iawn.
"Mae tipyn o gyfathrebu 'di bod i atgoffa'r cyhoedd am hyn achos os na fydd ganddyn nhw ID ffotograffig fyddan nhw ddim yn cael bwrw pleidlais".
Yn goruchwylio'r cyfan mae Eifion Evans. Fe yw'r swyddog canlyniadau.
Gan fod ffiniau yr etholaeth wedi newid, mae'n dweud bydd casglu'r canlyniadau a'u cludo i'w cyfri yn sialens.
"Ma 'na dipyn o waith trefnu. Ry'n ni yn cynllunio ar y cyd gyda Chyngor Sir Benfro.
"Ma pethe syml fel dychwelyd y blychau pleidleisio ar ddiwedd nos.
"Mae'n gofyn gormod i swyddogion deithio i'r ganolfan gyfri yn y nos felly ry' ni'n trefnu bod lleoliadau penodol gyda ni lle byddan nhw'n gallu dychwelyd y pleidleisiau i'r faniau a bydd y faniau yn dod â'r bocsys o Grymych, Aberystwyth a Llambed, a ry' ni yn siarad am siwrne o awr o bob cyfeiriad".
Mae 4 Gorffennaf yn agosáu, ac ar ôl wythnosau lle mae geiriau fel 'cywirdeb', 'cyfrinachedd', 'effeithiol' a 'threfnus' wedi bod yn allweddol, mae gair arall nawr yn cael ei ychwanegu wrth sôn am awyrgylch noson y cyfri a hwnnw yw 'cyffrous'!
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf