Y Gweilch yn symud i Gae'r Bragdy yn gyfle i 'gynrychioli'r rhanbarth cyfan'

- Cyhoeddwyd
Bydd tîm rygbi Y Gweilch yn chwarae eu gêm gartref gynta'r tymor yng Nghae'r Bragdy, Pen-y-bont, y penwythnos hwn wrth iddyn nhw herio Caerlŷr.
Mae'r symud yn ddechrau cyfnod newydd i'r rhanbarth ar ôl 15 mlynedd o chwarae yn Stadiwm Swansea.com.
Ar ôl cyhoeddi cynlluniau i symud yn barhaol i Stadiwm Sain Helen, mae'r tîm nawr yn wynebu cyfnod dros dro ym Mhen-y-bont tra bo'r gwaith datblygu'n cael ei gwblhau yn Sain Helen.
Er bod ansicrwydd ynghylch dyfodol rygbi rhanbarthol yng Nghymru wrth i Undeb Rygbi Cymru (URC) ystyried torri nifer y timau o bedwar i ddau fel rhan o'u hadolygiad i'r gêm elît, mae cefnogwyr y Gweilch yn benderfynol o aros yn obeithiol.
'Ni'n cynrychioli'r rhanbarth cyfan'
Gobaith Keith Collins, ysgrifennydd clwb Cefnogwyr y Gweilch yw i "barhau â'r llwyddiant mae'r Gweilch wedi cael yno yn y gorffennol" ac mae'n dweud bod symud i gartref newydd dros dro yn gyfle i gynrychioli'r rhanbarth cyfan.
Ychwanegodd: "Bydden ni wedi bod yn chwarae ym Mhen-y-bont beth bynnag.
"Y cynllun oedd bod yno tan fod Sain Helen yn barod, ond mae'r gwaith datblygu'n cymryd mwy o amser."
Mae Keith Collins yn pwysleisio bod y Gweilch yn cynrychioli ardal eang.
"Ni wedi chwarae ym Mhort Talbot, Castell-nedd ac ym Mhen-y-bont o'r blaen. Ni'n rhanbarth, nid dim ond tîm o Abertawe," meddai.
Er hynny, mae'n cydnabod bydd y pellter a'r diffyg parcio yn "mynd i fod yn broblem" ac mae'r clwb cefnogwyr yn ystyried darparu bws arbennig i'r gemau cartref.

Dywed Keith Collins fod y pellter a'r diffyg parcio yn "mynd i fod yn broblem" ac mae'r clwb cefnogwyr yn ystyried darparu bws arbennig i'r gemau cartref
Mae Del Morgan sy'n rhan o Gôr Cefnogwyr Y Gweilch o'r farn y gallai symud dros dro yn gyfle i gryfhau'r cysylltiadau o fewn y gymuned.
"Mae rhanbarth y Gweilch yn ymestyn o Bont Llwchwr yn y gorllewin hyd at Ben-y-bont yn y dwyrain – ac wrth gwrs lan i'r cymoedd hefyd," meddai.
Cafodd Côr Cefnogwyr Y Gweilch ei ffurfio yn 2006 ac maen nhw'n edrych ymlaen at y posibilrwydd o ganu yng Nghae'r Bragdy y tymor hwn.
"Bydd cefnogwyr yn gallu cyrraedd Pen-y-bont yn ddigon cyfforddus, ac os ydyn ni'n cael gwahoddiad i ganu yno, byddwn yn hapus iawn i dderbyn."
Yn y cyfamser, mae'r côr yn bwriadu parhau i deithio o gwmpas y rhanbarth – i Gastell-nedd, Abertawe a'r cymoedd – i gynnal ysbryd cymunedol y clwb.
'Amser i ni ddod tu ôl i'r rhanbarthau'
I rai fel Alanna Jones, o Gastellnewydd Emlyn, bydd y daith i gefnogi'r Gweilch yn eu gemau cartref yn bellach, ond nid yw hynny'n mynd i rwystro ei chefnogaeth.
"Dwi'n credu os yw pobl wir yn cefnogi'r tîm bydd teithio bach yn bellach ddim yn gwneud lot fawr o wahaniaeth," meddai.
"Fi wir yn gobeithio bydd y cefnogwyr yn dod mas i gefnogi.
"Mae'n amser i ni gyd i ddod y tu ôl y rhanbarthau i ddangos ein cefnogaeth i rygbi rhanbarthol yng Nghymru mewn amser mor bryderus."

Mae Alanna yn byw yng Nghastellnewydd Emlyn ac yn edrych ymlaen i gefnogi'r Gweilch yn eu cartref newydd
Yn ôl data cyhoeddus gan glwb y Gweilch ac URC, mae presenoldeb cyfartalog Y Gweilch yn y gemau cartref wedi gostwng tua 42% dros y ddegawd ddiwethaf – o oddeutu 8,400 o gefnogwyr yn 2014–15 i tua 4,900 yn 2023–24.
Mae Alanna yn berchen ar docyn tymor Y Gweilch ac yn croesawu'r newid o chwarae yn Swansea.com i Gae'r Bragdy.
"Roedd y stadiwm yn rhy fawr ac yn teimlo'n wag yn aml.
"Es i i gêm gyfeillgar ym mis Medi yng Nghae'r Bragdy yn erbyn Exeter ac i fod yn hollol onest, oeddwn i'n teimlo ei fod yn weddol wag yna i gymharu â gemau ni wedi chwarae yn y gorffennol. Ond, gan fod y stadiwm yn llai, oedd mwy o awyrgylch."
'Awyrgylch anhygoel'
Colli oedd hanes y Gweilch yn eu dwy gêm agoriadol y tymor hwn.
Ond, er gwaetha'r golled yn erbyn y Bulls, fe wnaeth y Gweilch ennill pwynt ychwanegol.
Yn ôl y sylwebydd a'r newyddiadurwr chwaraeon Steffan Thomas, mae'r symudiad i Gae'r Bragdy yn mynd i fod o fantais i berfformiadau'r Gweilch.
"Nid yw'n lle neis i dimau eraill ddod i chwarae, felly does dim rheswm poeni. Bydd awyrgylch anhygoel yno, yn sicr.
"Sai'n credu bydd yn cael effaith wael o gwbl ar y perfformiadau," meddai.
"Maen nhw'n gyfarwydd iawn â chwarae ym Mhen-y-bont – maen nhw wedi ennill gemau mawr yna o'r blaen, gan gynnwys yn erbyn Sale Sharks a Chaerdydd.
"Roedd y dorf yn fach ac roedd y stadiwm yn teimlo'n soulless. Petaen nhw wedi aros yno, byddai'n beryglus i ddyfodol y rhanbarth."
Bydd y gêm yng Nghae'r Bragdy yn cychwyn am 15:00 ddydd Sadwrn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Awst
- Cyhoeddwyd16 Medi
- Cyhoeddwyd19 Mai