URC i gynnig torri nifer y rhanbarthau rygbi o bedwar i ddau

Rhanbarthau
Disgrifiad o’r llun,

Y pedwar rhanbarth presennol yng Nghymru ydy'r Scarlets, Gweilch, Dreigiau a Rygbi Caerdydd

  • Cyhoeddwyd

Bydd Undeb Rygbi Cymru (URC) yn cynnig torri nifer y timau proffesiynol yng Nghymru o bedwar i ddau.

Mae'r undeb wedi creu cynllun sy'n cael ei ffafrio er mwyn trawsnewid y gêm ddomestig.

Mae disgwyl i URC gyhoeddi'r cynlluniau'n llawn dydd Mercher.

Fe fydd cyfnod ymgynghori o chwe wythnos cyn bod penderfyniad terfynol ar y cynlluniau erbyn yr hydref.

Mae URC wedi bod yn ystyried dyfodol Caerdydd, y Dreigiau, y Gweilch a'r Scarlets mewn adolygiad yn ddiweddar.

Daw'r newyddion er i'r Gweilch gyhoeddi bwriad i adnewyddu stadiwm San Helen yn Abertawe er mwyn chwarae yno, tra bod y Scarlets wedi cyhoeddi buddsoddwyr newydd a'r Dreigiau wedi dweud bod "rhaid i rygbi elît" barhau yn ardal Gwent.

Mae Rygbi Caerdydd dan berchnogaeth yr undeb ers mynd i ddwylo gweinyddwyr yn gynharach eleni.

rygbiFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Cynrychiolwyr o'r Gweilch, Caerdydd, y Dreigiau a'r Scarlets cyn gemau Dydd y Farn fis Ebrill

Nid yw'n glir a fydd y ddau dîm yn rhai newydd neu yn ddau o'r pedwar sy'n bodoli eisoes.

Ond mae URC wedi cynnig y bydd dau glwb, gyda thimau dynion a merched.

Fe fydd 50 o chwaraewyr i bob carfan dynion gyda chyllideb o £7.8m yr un, tra bod disgwyl 40 o chwaraewyr yng ngharfanau'r merched.

Mae'r undeb yn dweud y bydd y timau'n cynnwys mwyafrif o chwaraewyr sy'n gymwys i Gymru, ac y gallai olygu ail-feddwl cynnwys chwaraewyr sydd ddim yn gymwys i Gymru.

Undeb Rygbi Cymru fyddai'n ariannu'r timau, ond fe fydden nhw'n cael eu rheoli dan drwydded gan roi cyfrifoldeb masnachol i berchnogion neu fuddsoddwyr.

URCFfynhonnell y llun, Getty Images

Yn ystod cam cyntaf y cynllun, fe fydd y timau'n hyfforddi ar safleoedd gwahanol.

Ond fe fydd yr ail gam yn golygu bod y ddau glwb yn hyfforddi ar un safle - campws cenedlaethol.

Bydd yn gartref i 400 o bobl, staff y timau cenedlaethol, staff y clybiau proffesiynol a'r academïau cenedlaethol.

Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys gwella safon cystadleuaeth Super Rugby Cymru, yr haen islaw'r gêm broffesiynol.

Mae hefyd addewid i greu cystadleuaeth ddomestig i fenywod, gan dderbyn bod diffyg ar hyn o bryd.

Mae wedi bod yn gyfnod cythryblus i rygbi yng Nghymru, gyda dau o'r rhanbarthau wedi gwrthod ag arwyddo cytundeb gyda'r undeb.

Cytunodd Caerdydd a'r Dreigiau i'r cytundeb ond dyw'r Gweilch na'r Scarlets wedi ei lofnodi.

Yn ddiweddar hefyd daeth cyhoeddiad bod prif weithredwr yr undeb, Abi Tierney yn camu o'i rôl am resymau iechyd.

Ar y cae hefyd mae'r tîm cenedlaethol wedi bod ar rediad gwael, gyda rhediad o 18 gêm wedi'u colli'n olynol nes iddyn nhw guro Japan ym mis Gorffennaf.

URC 'ddim yn deall y gêm'

Ym Mharc y Scarlets yn Llanelli nos Fawrth roedd cyfarfod cefnogwyr yn cael ei gynnal, oedd wedi'i drefnu cyn i'r newyddion diweddaraf ddod i'r amlwg.

Yno, roedd hi'n amlwg fod cefnogwyr yn ddig iawn gydag URC.

Yn ôl Tomos Davies o Aberhonddu: "Does dim rhaid cael gwared â'r rhanbarth - mae'n rhaid cael gwared â'r undeb a dweud y gwir.

"Be' maen nhw'n 'neud, a wedi 'neud dros y degawdau blaenorol, ydy torri [cyllid] y rhanbarthau, felly dyw e ddim yn syndod bod y tîm cenedlaethol yn dioddef.

"O'dd e ddim wir yn syndod - mae cymaint o rumours wedi bod yn hedfan o gwmpas.

"Yn fy marn i mae hyn yn ddewis anghywir, ond jest nawr gobeithio mai nid y Scarlets fydd yn dioddef.

"Does gan management y WRU ddim synnwyr cyffredin o gwbl. Dy'n nhw ddim yn deall y gêm, a ddim yn deall lle mae'r arian angen mynd i 'neud yn siŵr bod y tîm cenedlaethol yn ffynnu."

Tomos Davies
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tomos Davies - cefnogwr y Scarlets - yn ddamniol am y ffordd mae URC yn rheoli'r gamp

Ychwanegodd y byddai cael gwared y rhanbarth y mae ef yn ei gefnogi - y Scarlets - yn "rhoi diwedd ar fi'n gwylio rygbi".

"Rwy'n siŵr bod cefnogwyr timau fel y Gweilch yn meddwl yr un peth.

"Jest gobeithio nawr y byddwn ni'n cael atebion o ran sut fydd y dyfodol yn edrych i'r clwb yma."

Toriadau yn 'anochel'

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd Gwenno Williams, sy'n cefnogi Rygbi Caerdydd, ei bod yn "pryderu be' sy'n mynd i ddigwydd gyda rygbi Cymru".

"Fel cefnogwr Caerdydd roedd ein tîm ni bron a mynd mas o fusnes cwpl o fisoedd yn ôl felly dwi'n gwybod yr emosiynau fydd yn mynd trwy bennau cefnogwyr," meddai.

"Falle bod Caerdydd yn ymddangos fel un o'r timoedd mwya' saff i aros ond dwi dal yn pryderu am beth fydd cefnogwyr unrhyw dîm sy'n mynd i golli bodolaeth yn mynd i fynd trwyddo."

Ond dywedodd fod y newidiadau'n "anochel" os yw cefnogwyr eisiau gweld "tîm rygbi Cymru cryf a rygbi parhaus yma yng Nghymru".

"Yn anffodus dyw'r arian ddim yma i gynnal pedwar tîm cystadleuol ac mae'n bwysig bod ni'n cael un neu ddau dîm sy'n gallu cystadlu yng ngemau Ewrop yn y gynghrair ac felly mae'n anochel bod angen 'neud toriadau," ychwanegodd.

"Yn ddelfrydol bydde ni'n gallu cael rhyw fath o gyfaddawd, ni'n gallu uno timoedd ond eto falle bydd hynna'n rhywbeth fydd yn anodd i rai cefnogwyr dderbyn."

Cymru yn dathluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Emyr Lewis yn poeni am yr effaith y newidiadau ar y tîm cenedlaethol

"Dwi methu coelio'r peth, mae cyn gymaint o ffydd oedd gyda'r undeb wedi dirywio'n bellach nawr achos maen nhw wedi gwneud y penderfyniad hwn ar sail arian," meddai Emyr Lewis, y sylwebydd rygbi a chyn-flaenasgellwr Cymru.

"Gyda dim ond dau ranbarth mae hynny'n golygu mai dim ond rhyw 100 o chwaraewyr fydd yn chwarae - 'di o ddim yn gwneud synnwyr i fi o gwbl.

"Os fyswn i'n hyfforddwr Cymru nawr mi fyswn i'n tynnu fy ngwallt i mas.

"Mae'n mynd i fod yn anodd iawn i'r chwaraewyr sydd nawr am fod yn edrych ar eu dyfodol.

"Bydd y rhan fwyaf, fyswn i'n meddwl, yn edrych ar eu cytundebau ac yn edrych i fynd i Loegr, i Ffrainc, neu i Japan achos dyw eu dyfodol nhw yn y wlad yma ddim yn glir iawn o gwbl.

"'Da ni'n mynd i golli mwy o chwaraewyr, does dim amheuaeth am hynny."

Timau newydd yn golygu colli cefnogwyr?

Ychwanegodd Emyr Lewis mewn cyfweliad ar Dros Frecwast: "Does dim llawer o chwaraewyr ar gael yng Nghymru felly beth sydd angen ei wneud ydi edrych pam.

"Mae'n rhaid i ni edrych ar y system ieuenctid. Mae 'na ddigon o chwaraewyr yn chwarae dan-11, dan-12 ond o hynny ymlaen 'da ni'n colli chwaraewyr.

"Beth sy'n digwydd yn yr academïau rŵan, rhyw un gêm maen nhw'n chwarae bob pythefnos, tair wythnos. Gweddill yr amser maen nhw mewn 'stafell gwerthu yn dysgu am rygbi a dim fel 'na ti'n dysgu am rygbi.

"Mae'r bois ifanc moyn chwarae bob dydd Sadwrn a 'di hynna ddim yn digwydd ar hyn o bryd, ac wedyn maen nhw'n colli diddordeb ac yn troi at chwaraeon eraill. Felly mae'n rhaid i'r undeb edrych yn fwy dwfn na'r brig a dydyn nhw ddim yn gwneud hynny.

"Os mae timau newydd yn cael eu ffurfio mae'r undeb am golli cefnogwyr. Fydd dim hanes tu ôl i'r timau 'ma, byddwn i ddim yn gwylio fe achos fydd dim teyrngarwch gennai at yr un ohonyn nhw.

"Mae'n rhaid i'r undeb fod yn ofalus iawn efo be maen nhw'n ei wneud."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.