Marwolaeth Abertawe: Dau ddyn yn gwadu llofruddiaeth

Andrew MainFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Andrew Main bedair wythnos ar ôl yr ymosodiad yn Abertawe ym mis Gorffennaf

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi gwadu llofruddio dyn 33 oed yn Abertawe.

Yn Llys y Goron Abertawe, plediodd Joseph Dix, 26 oed, o Frome a Macauley Ruddock, 27 oed o Gaerfaddon, yn ddi-euog i lofruddiaeth Andrew Main o Falkirk.

Fe wnaethon nhw hefyd bledio'n ddi-euog i gyhuddiad o ddynladdiad.

Bu farw Mr Main yn yr ysbyty bedair wythnos ar ôl ymosodiad ger mynedfa'r Travelodge ar Ffordd y Dywysoges am tua 02:00 ar 17 Gorffennaf.

Cafodd Joseph Dix a Macauley Ruddock eu cyhuddo'n wreiddiol o anafu gyda’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol, ond fe gawson nhw eu cyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth Mr Main.

Cafodd y ddau eu cadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddyn nhw o flaen llys ar 6 Ionawr 2025

Andrew MainFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Andrew "yn llawer rhy fuan", meddai ei chwaer

Dywedodd Nikki Main mewn teyrnged i'w brawd: "Yn anffodus, cafodd Andrew – fy mrawd bach – ei gymryd oddi wrthym yn llawer rhy fuan."

“Rydym wedi ein syfrdanu gan ei farwolaeth sydyn a gofynnwn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r heddlu.

“Bydd yn byw yn ein calonnau a’n hatgofion am byth."

Pynciau cysylltiedig