'Defnyddia dy Gymraeg': Ymgyrch i annog defnydd o'r iaith
- Cyhoeddwyd
"Mae cynnig croeso yn Gymraeg yn helpu pobl i ymlacio a ‘dech chi’n gallu gweld hwnna ar eu wyneb.”
Dyna brofiad gweithiwr iechyd sydd wedi dysgu Cymraeg ac sydd bellach yn defnyddio'r iaith yn ei gwaith bob dydd.
Mae Leanne Parry yn ffisiotherapydd sydd wedi cael cefnogaeth gan ei chyflogwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), i ddefnyddio rhagor o Gymraeg.
Ar ddechrau ymgrych gan Gomisiynydd y Gymraeg i annog pobl i ddefnyddio eu Cymraeg, mae Leanne yn dweud bod hyder yn ffactor holl bwysig.
Nifer ar restr aros
"Y peth pwysig ydy sut i godi hyder aelodau staff ac mae'r tîm Cymraeg yma yn y bwrdd iechyd yn rhoi help mawr i adeiladu'r hyder i siarad," medd Ms Parry.
Mae'n dweud iddi elwa o wersi, cyrsiau preswyl a sgyrsiau llai ffurfiol a bod cleifion hefyd yn cael budd o'i hyder i siarad yr iaith.
“Mae bod yn yr ysbyty yn gallu bod yn brofiad pryderus iawn i lot o bobl. Mae’n brysur, yn swnllyd, yn enfawr.
“Dwi’n defnyddio dipyn bach o Gymraeg pan dwi’n siarad efo pobl, pan dwi’n gwneud physio, a cynnig dosbarthiadau yn Gymraeg a Saesneg ochr yn ochr.”
Mae BIPBC yn dweud bod dros 1,000 o staff wedi mynd ar gwrs Cymraeg o ryw fath y llynedd ac mae rhestr aros ar hyn o bryd.
Roedd Leanne Parry yn siarad ar drothwy ymgyrch 'Defnyddio dy Gymraeg' gan Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ac mae'r comisiynydd yn cytuno bod magu hyder yn allweddol.
“Weithiau mae’n ‘Bore da’, weithiau mae’n llawer iawn mwy na hynny." medd Comisynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones.
"Ond mae mor bwysig bod ni’n defnyddio’r Gymraeg sydd gyda ni a bod ni’n cael y cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn ein bywydau bob dydd,” medd Ms Jones.
“Ac erbyn hyn mae mwy a mwy o sefydliadau yn rhoi’r cyfle i ni ddefnyddio’r Gymraeg gyda nhw, felly mae’n bwysig i ni fel siaradwyr ddefnyddio’r gwasanaethau hynny.”
'Am i bobl deimlo mai fa’ma ydy adra'
Yng nghartref gofal Plas Garnedd ar Ynys Môn mae Cian Taylor yn dweud ei fod yn defnyddio’i Gymraeg bob dydd ac yn teimlo bod hynny’n hanfodol i’r preswylwyr oedrannus.
“‘Dan ni isio i’r bobl sy’n byw yma deimlo mai fa’ma ydy adra. Dyna ydy Plas Garnedd iddyn nhw.
“So mae siarad Cymraeg efo nhw’n helpu i wneud amser y preswylwyr yma y gorau posib. Mae Cymraeg yn hanfodol i weithio mewn lle fel Plas Garnedd,”meddai.
Rheolwr y cartref ers degawd ydy Lorraine Dutton sy’n dweud bod Cymraeg yn iaith gyntaf i 95% o’i staff gydag eraill yn defnyddio cyfarchion syml yn yr iaith.
“Pan ‘dach chi’n meddwl am rywun efo dementia, sy’n stryglo’n feddyliol ac yn colli’r gallu i gyfathrebu’n glir, mae’n bwysig bod ni’n iwsio’r iaith maen nhw wedi cael ei magu efo.
“Weithiau maen nhw’n mynd nôl i’r plentyndod so mae’r geiriau bach yna’n gallu gwneud gymaint o wahaniaeth.”
Mewn meysydd eraill hefyd gall y Gymraeg ehangu gorwelion, yn ôl Rachel Solomon sy’n aelod o’r grŵp Eden ac yn gweithio yn y cyfryngau Cymraeg.
“Saesneg oeddan ni'n siarad adra - gyda Dad yn Gymro a Mam yn dod o Lerpwl. Cytunodd mam i ni gael addysg Gymraeg felly yr ysgol gynigiodd y profiadau cyntaf o'r Gymraeg i fi ac fe fyddai wastad yn ddiolchgar am y penderfyniad i anfon fi i dderbyn addysg Gymraeg.
“Ers hynny mae’r Gymraeg wedi bod mor bwysig i fi, yn fy mywyd personol a fy ngyrfa a byddai’n od iawn bellach peidio a’i defnyddio.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Medi
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2022