Cynnal angladd y cyn-bencampwr snwcer Terry Griffiths yn Llanelli
- Cyhoeddwyd
Roedd strydoedd Llanelli yn orlawn ddydd Llun wrth i bobl leol a ffrindiau roi teyrnged i'r cyn-bencampwr snwcer Terry Griffiths.
Yn wreiddiol o Lanelli, Griffiths oedd y Cymro cyntaf i ddod yn bencampwr byd ar ôl dod drwy'r rowndiau rhagbrofol, wrth iddo guro Dennis Taylor yn y rownd derfynol yn 1979.
Roedd Taylor ei hun ymysg nifer o gewri'r gamp a ddaeth i dalu teyrnged yn angladd Griffiths, fu farw yn 77 oed ddechrau Rhagfyr.
Enillodd Griffiths y Meistri yn 1980 hefyd, a Phencampwriaeth y DU yn 1982 i gwblhau coron driphlyg snwcer.
Ar ei anterth, cyrhaeddodd y trydydd safle ar restr detholion y byd, ac yn 2007 fe dderbyniodd OBE am ei wasanaeth i'r gamp.
'Llysgennad gwych i Gymru'
Wedi'r angladd dywedodd Dennis Taylor: "Roedd y derbyniad a'r gwasanaeth yn rhyfeddol.
"Rydyn ni'n mynd yn ôl i'r hen ddyddiau. Roedd Doug Mountjoy, Terry, fi a'n teuluoedd i gyd yn arfer mynd ar wyliau gyda'n gilydd.
"Roedden ni'n arfer cael amseroedd bendigedig yn Pontins a chawsom wyliau gwych yn America gyda'n gilydd, y tri theulu.
"Dim ond blwyddyn oedd Terry yn hŷn na fi. Roedd e'n llysgennad gwych, a bendigedig nid yn unig i'n gêm ni ond i Gymru. Roedd yn cael ei garu ar draws y byd."
Ychwanegodd: "Roeddwn i'n arfer mynd ag e a Doug Mountjoy i Ogledd Iwerddon adeg y trafferthion yno ac roedden nhw'n cael eu croesawu â breichiau agored - gyda'r acen Gymreig hyfryd honno.
"Dyna pam ei fod mor dda yn y blwch sylwebu hefyd.
"Roeddwn i mor falch fy mod wedi gallu dod draw heddi ac roedd yna gymaint o bobl wedi dod i roi teyrnged i ŵr bonheddig gwych, bendigedig.
"Fe gariodd ymlaen â'i yrfa. Nid yn unig yr oedd yn chwaraewr gwych roedd e'n un o'r hyfforddwyr gorau a welodd y gêm erioed.
"Pe na bai wedi mynd yn sâl rwy'n meddwl y byddai wedi dal ati i weithio, oherwydd roedd pawb eisiau gweithio gyda'r 'Griff'."
Fe rannodd ei fab, Wayne, straeon personol ac atgofion o'i dad "diymhongar" yn ystod y gwasanaeth ddydd Llun.
"Oedd, roedd Dad yn chwaraewr da, hyfforddwr da ac yn ddyn da," meddai.
"Ond roedd hefyd yn ddyn teulu, yn dad balch ac yn ŵr cariadus hefyd."
Fe wrandawodd teulu a ffrindiau Griffiths ar emyn Calon Lân, yn ogystal ag alaw Myfanwy, yn ystod y gwasanaeth.
'Ni'n falch iawn ohono'
Roedd Andrew Morgan, 53, ac Adam Rees, 60, yn ffrindiau gyda Terry Griffiths.
Dywedodd Adam Rees: "Rhoiodd e ni ar y map. Doedd snwcer ddim yn beth yn Llanelli tan iddo fe gyrraedd."
Disgrifiodd Andrew Morgan ei ffrind fel "bonheddwr" a "chymeriad".
Fe ddaeth Wayne Lock, 60, o Lanelli i dalu teyrnged i Terry Griffiths tu allan i'r Matchroom.
"Bydd y dre yn ei golli'n fawr, roedd e'n drysor."
Ychwanegodd: "Roedd e wastod yn aros ochr yn ochr â'r dre.
"Agorodd e'r Matchroom, ac mae wedi dysgu plant a phobl ifanc. Ni'n falch iawn ohono fe."
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr
Dywedodd Gareth Blainey, a fu'n gohebu ar snwcer, bod Terry Griffiths wedi bod yn "gefnogol iawn iddo".
"Roedd e'n dipyn o dynnwr coes. Allai'm peidio meddwl am Terry, er bod heddiw wrth gwrs yn achlysur mor drist... heb ei wên.
"Mae'r ffaith bod gymaint o gyn-chwaraewyr wedi dod yma heddiw - chwaraewyr fel Neal Foulds yn deyrnged iddo... a chwaraewyr presennol oedd â meddwl mawr ohono fo fel Mark Williams."
Ychwanegodd bod Terry Griffiths yn "ddyn ei filltir sgwâr".
"Soniwyd yn ystod y gwasanaeth bod Terry hapusaf pan oedd o'n cyrraedd cyffordd 48 ar yr M4, y tro am Lanelli. Roedd ei wreiddiau yn ddwfn iawn yn y dref yma."