Agor caffi yng Nghymru ar ôl ffoi o Wcráin yn 'gwireddu breuddwyd'

Llun o bedwar person mewn caffi. Yn dechrau o'r chwith, mae menyw ifanc, Ryan Reyonolds, Yaroslav Izviekov a menyw ifanc arall. Ffynhonnell y llun, Yaroslav Izviekov
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Yaroslav (ail o'r dde) a'i wraig Oksana agor caffi yn Wrecsam ym mis Medi 2024

  • Cyhoeddwyd

"Mae gennym ni ein busnes ac rydym wedi setlo - ond rydw i'n byw gyda'r gobaith, un dydd, y bydd Wcráin yn rhydd ac y gallwn ni fynd adref."

Dyma obaith Yaroslav Izviekov sydd wedi agor busnes yng Nghymru ar ôl ffoi'r rhyfel yn Wcráin gyda'i deulu.

Mae hi bellach yn dair blynedd ers i filwyr Rwsia ymosod ar Wcráin, ac ers 24 Chwefror 2022 mae nifer y bobl o Wcráin sy'n cael eu cyflogi yng Nghymru wedi cynyddu o 50 i dros 2,050.

Mae BBC Cymru Fyw wedi siarad gyda ffoaduriaid o Wcráin sydd wedi ceisio ail-adeiladu eu bywydau yma yng Nghymru.

Menyw ifanc yn dal ei babi newydd-anedig. Mae'r babi mewn onesie blodeuog ac mae'r fenyw mewn top pyjama pinc.Ffynhonnell y llun, Maryna Korolova
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Maryna roi genedigaeth i'w merch fach mewn lloches rhag bomio

Roedd Maryna Korolov wedi bod yn feichiog ers naw mis pan ddechreuodd y rhyfel.

Fe wnaeth hi roi genedigaeth i'w merch Emmanuelle mewn lloches rhag bomio wrth iddi hi, ei gŵr a dau fab ffoi'r brifddinas, Kiev.

Fe gyrhaeddodd Maryna a Vadym Powys ym mis Mai 2022, ond nid dyma'r tro cyntaf iddynt ffoi o wrthdaro.

Fe wnaethon nhw adael Donesk - lle cafodd y ddau eu geni - yn 2014 yn sgil gwrthdaro yn ardal y Donbas.

"Rydw i'n gwybod sut i oroesi ac rydw i'n gwybod sut i ailddechrau bywyd," meddi Maryna.

Teulu o 5 person. Mam, Maryna yn dal merch bach mewn ffrog pinc. Dad Vadym a dau mab. Ffynhonnell y llun, Maryna Korolova
Disgrifiad o’r llun,

Mae Maryna a'i gŵr Vadym bellach yn byw ger Crucywel gyda'u plant

Doedd gan y teulu ifanc ddim byd pan ddaethon nhw i Gymru, ar ôl gorfod troi cefn ar fusnes adeiladwaith llwyddiannus yn Kyiv.

Syniad Vadym oedd hi i geisio cychwyn busnes newydd. Nid oedd Maryna yn credu y byddai hynny'n bosib, ond roedd ffydd ei gŵr wedi ei pherswadio i ddyfalbarhau.

"Dywedodd fy ngŵr, mae rhaid i ni geisio, mae'n rhaid i ni geisio er lles ein plant."

Gyda dim ond £40 i brynu peiriant gwneud sudd, fe wnaeth y ddau agor stondin sudd oren yn neuadd y farchnad y Fenni ym mis Ionawr 2023.

Teithiodd y ddau ar hyd Cymru, gan werthu eu cynnyrch yn y Sioe Frenhinol, Gŵyl Y Gelli a Gŵyl Fwyd Y Fenni.

Fe aeth y busnes o nerth i nerth ac ym Mehefin 2024 fe agorwyd siop ar y stryd fawr o'r enw 'Squeezing' .

"Mae gennym ni gymaint o ffrindiau yn y Fenni - maen nhw'n ein caru ni ac yn ein cefnogi ni," ychwanegodd Maryna

"Fe wnaethon nhw gofleidio ni, crio gyda ni, gweddïo gyda ni - rydyn ni'n teimlo bod croeso i ni yma. Byddwn yn ddiolchgar iddyn nhw am byth."

Stondin coffi brown sy'n edrych fel hen cerbyd. Mae dyn a fenyw yn archebu trwy'r ffenest. Ffynhonnell y llun, Yaroslav Izviekov
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Yaroslav Izviekov a'i wraig yn berchen ar stondin goffi yn Kiev o'r enw 'старий міський вагон' - neu 'hen gerbyd y ddinas'

Fe wnaeth Yaroslav Izviekov a'i deulu symud i Landrindod ym Mhowys ym Mehefin 2022.

Oherwydd ei fod yn dad i dri phlentyn o dan 18 oed roedd hawl gan Yarsolav i adael Wrcain gyda'i deulu.

Bu'r teulu yn byw mewn gwesty am saith mis cyn dod o hyd i dŷ ei hunain.

Roedd Yaroslav a'i wraig Oksana yn berchen ar stondin goffi yn Kiev, ond deuddydd cyn dechrau'r rhyfel roedd y ddau wedi dechrau gwneud gwaith ar eu siop goffi cyntaf.

"Ein breuddwyd oedd cael siop goffi go iawn, ond roedd rhaid i ni adael popeth ar ôl," meddai.

Hunlun o Ryan Reynolds (chwith) ac Yaroslav Izviekov (dde).Ffynhonnell y llun, Yaroslav Izviekov
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Yaroslav fod cwrdd â Ryan Reynolds yn brofiad 'bythgofiadwy'

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ac fe gafodd y freuddwyd hon ei wireddu wrth i Yaroslav ac Oksana agor 'Zerno' - caffi ar y stryd fawr yn Wrecsam ym mis Medi y llynedd.

"Roedd hi'n anodd iawn agor busnes pan nad ydych chi'n gwybod dim am reolau a chyfreithiau'r wlad," meddai.

"Fy mhryder mwyaf oedd na fyddai neb yn dod i mewn... ond rydyn ni wedi cael cymaint o gefnogaeth gan y gymuned."

"Mae ein breuddwydion wedi cael eu gwireddu... Mae gennym ni regulars bellach, pobl rydym ni'n gweld pob dydd."

'Waw...bythgofiadwy...anhygoel'

Un cwsmer fyddai Yaroslav yn hoffi ei weld yn dod yn ymwelydd rheolaidd yw perchennog Clwb Pêl-droed Wrecsam, Ryan Reyonlds.

Fe aeth y seren Hollywood i Zerno wrth ffilmio ei raglen ddogfen ar Disney+.

Roedd hi'n "hawdd iawn i siarad" gyda'r seren ffilmiau, yn ôl Yaroslav, wrth i'r ddau rannu coffi a siarad am ei gartref yn y Wcráin.

"Waw...bythgofiadwy...anhygoel. Roedden ni'n llawn edmygedd ac mor gyffrous i'w weld."

Y tu allan i 'Ruta Kitchen' gydag arwydd coch, ffenestri gwydr mawr gydag addurniadau coch arnynt.
Ffynhonnell y llun, Volodymyr Pavliichuk
Disgrifiad o’r llun,

Mae cymuned a diwylliant yn bwysicach nag elw, yn ôl perchnogion Ruta Kitchen

Agorodd Volodymyr Pavliichuk ei fwyty 'Ruta Kitchen' ar 31 Ionawr eleni gyda'i ffrindiau agos Volodymyr Ivliev ac Ihor Tertyshnyi.

Mae Volodymyr wedi byw yng Nghymru gyda'i deulu ers pum mlynedd bellach, ond fe wnaeth ei bartneriaid busnes ffoi'r rhyfel yn Wcráin gyda'u teuluoedd.

Nid creu elw yw nod y busnes, ond creu dihangfa i bobl Wrcranaidd yn ardal Castell-nedd, yn ôl Volodymyr.

"Roedden ni eisiau lle i allu dangos ein diwylliant i'r bobl leol," meddai.

"Rydyn ni'n darparu swyddi i ffoaduriaid o Wcráin sydd methu siarad Saesneg ac felly methu dod o hyd i swyddi yn unman arall."

Ychwanegodd mai'r peth pwysicaf yw bod pobl Cymru a phob Wcráin yn gallu dod at ei gilydd i gymdeithasu a rhannu eu diwylliannau.