Prifysgol arall yn torri swyddi yn sgil 'heriau ariannol'
- Cyhoeddwyd
Prifysgol Abertawe yw'r ddiweddaraf i gadarnhau ei bod hi'n torri swyddi oherwydd "heriau ariannol".
Dywedodd y sefydliad i 189 o weithwyr wneud cais llwyddiannus am ddiswyddiad gwirfoddol ers mis Medi.
Daw'r newyddion wrth i ddau academydd amlwg alw am adolygiad o'r ffordd mae addysg uwch yn cael ei gyllido yng Nghymru.
Dywedodd yr Athro Dylan Jones-Evans wrth Newyddion S4C bod gor-ddibyniaeth ddiweddar ar recriwtio myfyrwyr tramor, sydd yn talu ffioedd uwch, wedi creu argyfwng i brifysgolion.
"Mae newidiadau wedi bod i'r system fisas ac mae llai o fyfyrwyr rhyngwladol yn dod i Gymru.
"Mae hyn wedi creu twll ariannol ac mae rhai sefydliadau eisoes yn torri cyrsiau a swyddi."
Daeth rheolau newydd o ran fisas i fyfyrwyr rhyngwladol i rym ar ddechrau'r flwyddyn. Mae'n golygu na chaiff myfyrwyr tramor ddod ag aelodau teulu gyda nhw i'r Deyrnas Unedig tra'n astudio, heblaw mewn achosion prin.
Dywedodd Universities UK bod lleihad o 44% ym mis Ionawr eleni yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol sydd wedi cofrestru ar gyfer cyrsiau ôl-radd, yn ôl holiadur i 70 o brifysgolion Prydeinig.
Mae'r Athro Jones-Evans yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu sut mae addysg uwch yng Nghymru yn cael ei gyllido:
"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud hyn. Os ydyn ni am gael sector addysg uwch yng Nghymru, sydd am wneud gwahaniaeth i'r genedl, mae'n rhaid i ni edrych eto ar beth ydyn ni am gael gan y sector."
Mae Prifysgol De Cymru wedi cyhoeddi eisoes eu bod nhw'n cynnig diswyddiadau gwirfoddol er mwyn gwneud arbedion ariannol.
Dywedodd Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Met Caerdydd er nad oes ganddyn nhw gynlluniau diswyddo gwirfoddol ar hyn o bryd, y gallent gael eu cyflwyno yn y dyfodol oherwydd caledi ariannol.
Un arall sy'n galw am adolygiad o sut mae prifysgolion yn cael eu hariannu yw'r Athro Richard Wyn Jones.
"Mae prifysgolion yn colli arian ar fyfyrwyr domestig. Mae'r model yna yn amlwg yn anghynaladwy.
"Mae'r arwyddion wedi bod yno ers blynyddoedd, ond does dim ewyllys gwleidyddol wedi bod gan unrhyw blaid i wneud unrhyw beth ynghylch hynny.
"Mae unrhyw floneg wedi diflannu o'r system, mae myfyrwyr rhyngwladol wedi bod yn cynnal yr holl sioe. Mae niferoedd myfyrwyr rhyngwladol yn mynd i ddisgyn nes bod yr argyfwng yn dod yn anwadadwy. Mae pobl wedi bod yn claddu eu pen yn y tywod am hyn."
“Mae’r creisis wedi bod yn cyniwair ac mae angen adolygiad yn bendant.”
'Peri gofid'
Yn ôl corff Prifysgolion Cymru, mae'r "cwymp ymddangosiadol yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol yn peri gofid".
"Mae'n amlwg bod newidiadau polisi Llywodraeth y DU'r llynedd, yn ogystal â mwy o gystadleuaeth gan wledydd eraill, wedi cael effaith fawr ar ba mor ddeniadol yw'r Deyrnas Unedig i fyfyrwyr rhyngwladol.
"Mae'n ofidus bod polisi presennol a rhethreg i weld yn tanseilio llwyddiant Strategaeth Addysg Ryngwladol Llywodraeth y DU."
Dywed y Swyddfa Gartref eu bod nhw'n ymrwymedig i daro'r balans cywir rhwng mynd i'r afael â mewnfudo a denu'r myfyrwyr gorau i brifysgolion y DU.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mewn datganiad: "Rydyn ni'n cydnabod bod pwysau ariannol ar sefydliadau addysg uwch Cymreig ac mae cyfathrebu cyson ac adeiladol wedi bod rhwng Gweinidogion ac arweinwyr sector ar hyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth
- Cyhoeddwyd10 Chwefror
- Cyhoeddwyd6 Chwefror