Dros 1,000 achos o gamymddwyn rhywiol ym mhrifysgolion Cymru
- Cyhoeddwyd
Cafodd dros 1,000 o achosion o gamymddwyn rhywiol eu cofnodi gan fyfyrwyr ym mhrifysgolion Cymru dros y chwe blynedd diwethaf.
Yn ôl arbenigwyr, mae'r ffigyrau yn debygol o fod yn arwydd o broblem ehangach.
Dywedodd undeb yr UCU fod camymddwyn rhywiol mewn prifysgolion yn "endemig".
Mae BBC Cymru wedi siarad gyda dioddefwyr trais sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i orfodi sefydliadau i gasglu a chyhoeddi niferoedd yr achosion ymhlith eu myfyrwyr.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod disgwyl "i fyfyrwyr allu dilyn eu hastudiaethau yn rhydd rhag aflonyddu, gwahaniaethu neu erledigaeth".
Ond ychwanegodd llefarydd taw "mater i'r prifysgolion eu hunain yw digwyddiadau penodol, gan eu bod yn annibynnol".
- Cyhoeddwyd4 Mai 2022
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd7 Medi 2020
Fe wnaeth BBC Cymru holi 142 o brifysgolion ar draws y Deyrnas Unedig ynglŷn â nifer yr achosion o gamymddygiad rhywiol oedd wedi eu cofnodi gan fyfyrwyr.
Ni chafwyd ateb gan 42 sefydliad, fe wnaeth 33 wrthod rhannu'r data tra bod 67 ond wedi rhannu peth o'r data.
Er i nifer o brifysgolion rannu'r wybodaeth yn llawn, fe wnaeth sefydliadau eraill wrthod ar sail cyfrinachedd.
Roedd rhai prifysgolion wedi colli'r data, gan roi'r bai am hynny ar newid diweddar i'w systemau cyfrifiadurol.
Un achos sydd ddim yn rhan o'r ffigyrau yw profiad Ffion, cyn-fyfyrwraig ym Mhrifysgol Abertawe sy’n dweud iddi gael ei threisio yn 2017 gan gyd-fyfyriwr.
Yn ôl Ffion, nid ei henw iawn, roedd trafferth wrth geisio gwneud ffrindiau newydd yn ei blwyddyn gyntaf wedi arwain at ddechrau perthynas gyda chyd-fyfyriwr oedd yn dreisgar tuag ati yn gorfforol ac yn feddyliol.
Mae Ffion yn teimlo bod aelodau o'r tîm diogelwch yn y llety myfyrwyr wedi bod yn dystion i ymddygiad y dylai fod wedi eu hannog i ofyn cwestiynau am ei sefyllfa.
"Dwi'n teimlo pe bai'r bobl diogelwch wedi eu hyfforddi, mi fyddan nhw wedi gallu darparu cefnogaeth, dangos y ffordd orau i adrodd y trais a hefyd i sicrhau ein bod ni'n atal hyn rhag digwydd i fyfyrwyr yn y dyfodol."
'Newid diwylliant'
Yn 2020 fe benderfynodd Ffion rannu ei phrofiad gyda darlithydd ar y cwrs MA ar y pryd, gan ei ddisgrifio fel person "caredig iawn", er na chafodd ei chyfeirio at wasanaethau arbenigol o fewn y brifysgol.
Roedd Heddlu De Cymru wedi cyfeirio Ffion at wasnanaethau arbenigol ar ôl iddi fynd atyn nhw, er nad oedd yr achos wedi mynd i'r llys.
Mewn ymateb fe ddywedodd Prifysgol Abertawe eu bod yn "cydymdeimlo'n fawr" â phrofiadau Ffion, gan ddweud bod adolygiad o'r ffordd y mae'r brifysgol yn ymdrin â chamymddwyn rhywiol wedi ei gwblhau ym mis Hydref 2023.
"Mae argymhellion yn y broses o gael eu gweithredu, ac mae'r rhain yn cynnwys cychwyn Tasglu Camymddwyn Rhywiol. Rydym hefyd yn buddsoddi yng nghapasiti a phroffil ein Tîm Lles."
Ychwanegodd y brifysgol eu bod yn gweithio i "newid diwylliant" trwy "ddarparu hyfforddiant" er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn "hyderus" wrth rannu neu adrodd achosion o drais rhywiol.
Ffigyrau yn 'anghyson'
I Rhian Bowen Davies, cyn-ymgynghorydd Llywodraeth Cymru ar atal trais yn erbyn merched, mae'r ffigyrau yn "anghyson".
"Dwi'n pryderu mai dim ond tip of the iceberg yw'r data yma, a dyw e ddim yn adlewyrchu gwir faint y broblem," meddai.
"Ry'n ni'n gwybod fod pobl ddim â'r hyder i adrodd beth sydd 'di digwydd iddyn nhw ac felly dyw hyn ddim yn adlewyrchiad teg o'r broblem yn ein prifysgolion."
Yn ôl Ms Davies, mae cael data "clir a chyson" yn allweddol os yw prifysgolion yn mynd i gynllunio polisïau a darparu cymorth i fyfyrwyr.
Ond yn ôl y darlithydd, Dyfrig Jones, sydd hefyd yn llywydd ar gangen Prifysgol Bangor undeb UCU, mae'n "anodd" gofyn i staff academaidd ymateb i sefyllfa "ddwys" sy'n "endemig".
"Dwi ddim yn meddwl taw'r ffordd o ddatrys y broblem ydy gofyn i staff academaidd ymgymryd â chyfrifoldeb mor fawr â hyn," meddai.
Yn ôl Mr Jones, er taw mater i’r heddlu yw ymosodiad rhywiol, mae "angen sicrhau bod staff prifysgolion yn gallu helpu” myfyrwyr sydd yn dewis rhannu eu profiadau.
"Ond mae ‘na wahaniaeth rhwng rhoi cymorth, rhoi cefnogaeth a chymryd cyfrifoldeb am ddatrys y broblem."
'Athro wedi fy niystyru'
Mae Hannah, myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth, yn dweud iddi gael ei chamdrin yn rhywiol y llynedd gan gyd-fyfyriwr, oedd yn ffrind iddi ar y pryd.
Fe ddechreuodd ei phrofiad effeithio ar ei gallu i ffocysu ar ei hastudiaethau, felly fe aeth Hannah, nid ei henw iawn, at ei thiwtor i ofyn am fwy o amser i gwblhau ei gwaith cwrs.
"Roedd yr athro wedi fy niystyru," meddai.
"Dywedodd pethau fel 'o, ond rydych chi'n mynychu'ch holl ddosbarthiadau, felly dwi ddim yn gweld unrhyw broblemau.
"Pethau oedd yn boenus iawn i'w clywed gan rywun oedd wedi dweud wrtha i yn gynharach bo' nhw yna i wrando os oedd gen i unrhyw bryderon tu hwnt i'r brifysgol, ac yna diystyru rhywbeth mor ddifrifol yn llwyr.
"Dylai'r athrawon, ac yn enwedig y tiwtoriaid personol, gael hyfforddiant ar sut i ymateb, fel eu bod nhw'n gwybod am y cymorth sydd ar gael. Dwi'n credu y gallai hynny 'neud gwahaniaeth mawr."
- Cyhoeddwyd20 Mai 2021
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2022
Wythnosau ar ôl sôn am ei phrofiad, fe ddaeth Hannah i wybod am system adrodd achosion y brifysgol ar ôl cael cyngor gan gyd-fyfyriwr, a oedd hefyd yn gynrychiolydd o'r brifysgol.
Doedd Hannah ddim eisiau rhannu ei phrofiad gyda'r heddlu ond fe benderfynodd adrodd y digwyddiadau i system fewnol y brifysgol, gan ddisgrifio'r staff sy'n ei rhedeg yn "garedig" a "chymwynasgar".
Mewn ymateb fe ddywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Aberystwyth bod y sefydliad yn "gresynu at bob math o drais rhywiol" ac yn "ymrwymo i ddysgu o bob profiad myfyriwr, yn enwedig y rhai sydd mor ddifrifol ag yr amlygir yma".
Ychwanegodd y llefarydd bod Cynghorydd Trais Rhywiol annibynnol wedi ei recriwtio yn ddiweddar yn y brifysgol gyda chynlluniau "ar waith i gryfhau'r tîm ymhellach".
'Mater cenedlaethol'
I Emily Carr, un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, sydd wedi siarad yn y gorffennol am ei phrofiad hi o gael ei threisio, mae angen i wleidyddion weithredu nawr.
"Rwy'n meddwl y dylai prifysgolion gael eu gorfodi i roi'r niferoedd hyn fel rhan o gronfa ddata cenedlaethol sy'n cael ei rheoli gan gorff annibynnol," meddai.
Mae Emily yn rhan o grŵp Time to Act sy’n gweithio ar ran myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a bellach yn siarad gyda rhwydwaith o grwpiau eraill ar draws y wlad.
"O’n profiad ni ac o ganlyniad i’n cysylltiadau ni gyda grwpiau eraill, mae’n glir fod hwn yn fater cenedlaethol, sy’n ymestyn ar draws pob prifysgol yn y Deyrnas Unedig.
"Mae pawb ar eu hennill pan fydd goroeswyr yn ennill."
"Dwi’n credu bod rôl i'w chwarae gan Lywodraeth Cymru sy’n ariannu ein prifysgolion,” meddai Rhian Bowen Davies.
"Dwi’n credu bod hawl ganddyn nhw i ofyn y math yma o gwestiynau a deall sut mae prifysgolion yn cofnodi, casglu data a hefyd wedyn ymateb i roi cymorth i unigolion."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mater i’r prifysgolion eu hunain yw digwyddiadau penodol, gan eu bod yn annibynnol.
"Rydym yn darparu cyllid ac arweiniad i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i fynd i'r afael â materion yn ymwneud ag aflonyddu mewn prifysgolion, ac maent yn ymgysylltu â'n Partneriaethau Cenedlaethol a Rhanbarthol ym maes Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol."
Dywedodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, y corff cyhoeddus sy’n gweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a sefydliadau addysg bellach, eu bod nhw wedi gofyn i brifysgolion adolygu sut maen nhw’n recordio a chategoreiddio’r fath drais er mwyn gallu sicrhau bod patrymau yn cael eu cydnabod a bod yr ymateb cywir yn ei le.