Angen 'camau brys' ar gynllun cwotâu merched y Senedd

Senedd
  • Cyhoeddwyd

Fe allai cynlluniau Llywodraeth Cymru am gwotâu menywod gael eu drysu gan heriau cyfreithiol, yn ôl grŵp o Aelodau o'r Senedd.

Mae'r Pwyllgor Biliau Diwygio yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd "camau brys" i "osgoi peryglu etholiad Senedd 2026".

Mae'r mesur arfaethedig yn cynnwys cynlluniau am gwotâu menywod ar gyfer ymgeiswyr sy'n sefyll dros bleidiau gwleidyddol.

Er bod mwyafrif y pwyllgor yn cefnogi'r cynlluniau, maen nhw'n galw ar y llywodraeth i ganfod ateb pendant ar ôl i rai gwestiynu a oes gan y Senedd y grym i basio'r gyfraith.

Maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal trafodaethau gyda llywodraeth nesaf y DU cyn i'r Senedd bleidleisio ar y mesur.

Maen nhw hefyd eisiau i Lywodraeth Cymru gyfeirio'r cynlluniau at Oruchaf Lys y DU i'w ystyried, os ydy'r Senedd yn pasio'r gyfraith.

Mae'r rhan fwyaf o'r pwyllgor, sy'n cynnwys aelodau o nifer o bleidiau gwleidyddol, yn gefnogol o fwriad y mesur i gynyddu amrywiaeth yn y Senedd, ac maen nhw wedi gwneud 25 o argymhellion i'w "gryfhau a gwella".

Ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthwynebu'r mesur yn llwyr, gan ei alw'n ddeddfwriaeth fydd yn "creu rhaniadau" ac sy'n "ddiangen".

Mae cadeirydd y pwyllgor, yr aelod Llafur, David Rees, wedi dweud: "Fel pwyllgor, rydym i gyd yn cytuno bod angen i’r Senedd adlewyrchu’n well y bobl y mae’n eu gwasanaethu.

"Wrth gydnabod bod y bil yn rhoi mesurau ar waith a allai gyfrannu at gydraddoldeb o ran cynrychiolaeth yn y Senedd, rydym eisiau gweld newidiadau i gryfhau a gwella’r bil,” dywedodd.

Ychwanegodd: "Nid rôl y pwyllgor yw penderfynu a oes gan y Senedd y pŵer i basio’r bil hwn ond rydym yn pryderu am y dystiolaeth rydym wedi’i chlywed y gallai heriau cyfreithiol darfu ar etholiad 2026, ac felly rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau i reoli a lliniaru’r risg hon."

Anghyfreithlon?

Mae pryderon wedi eu codi am elfennau eraill o'r mesur, sy'n cynnwys cynlluniau i ganiatáu ymgeiswyr i ddatgan eu hunaniaeth rhyw eu hunain.

Mae'r Comisiwn Cyfartaledd a Hawliau Dynol (EHRC) wedi dweud eu bod yn pryderu y gallai hynny fod yn "anghyfreithlon".

Mae'r adroddiad yn dweud bod mwyafrif y pwyllgor yn fodlon bod gofyn y cwestiwn yma yn ffordd "gymesur" o orfodi'r rheolau cwota, ond roedd awgrym y dylid gwarchod rhag "achosion o gamddefnyddio'r broses" drwy gryfhau mesurau i atal rhag "datganiadau ffug".

Ffynhonnell y llun, Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd David Rees bod angen i'r Senedd adlewyrchu pobl Cymru yn well

Dywedodd Mr Rees: "Rydyn ni wedi clywed pryderon ynghylch a allai’r gofyniad i ymgeiswyr pleidiau gwleidyddol ddatgan a ydyn nhw’n fenyw neu beidio fod yn agored i gael ei gamddefnyddio.

“Er mwyn lleddfu’r pryderon hyn, rydym yn galw ar y llywodraeth i gynnwys y datganiad hwn o fewn y drosedd arfer llwgr sy’n gymwys ar gyfer gwybodaeth ffug arall ar ffurflenni enwebu.”

Roedd yr aelod Ceidwadol, Darren Millar, yn anghytuno gan ddweud y dylai'r mesur gynnwys diffiniad o 'fenyw' a dylai ymgeiswyr orfod bod yn ddynes fiolegol neu gael tystysgrif sy'n cael ei gydnabod yn gyfreithiol er mwyn gallu sefyll.

Ond roedd mwyafrif y pwyllgor yn cytuno y dylai datganiadau am ryw gael eu derbyn yn ddiffuant gan weinyddwyr etholiadol.

Mae disgwyl i'r Senedd drafod a phleidleisio ar egwyddorion cyffredinol y mesur ar 18 Mehefin.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod aelodau sawl pwyllgor -y Pwyllgor Biliau Diwygio, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a'r Pwyllgor Cyllid - wedi ystyried Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) a'u bod "yn ddiolchgar" iddyn nhw am hynny.

Fe fydd y llywodraeth nawr "yn ystyried argymhellion" adroddiadau dau o'r pwyllgorau hynny "yn fanwl".

Pynciau cysylltiedig