Teyrnged i fenyw fu farw ar yr A48 yn Sir Gâr

Nesta JeffreysFfynhonnell y llun, Llun teulu
  • Cyhoeddwyd

Dywed teulu dynes a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A48 yn Sir Gâr eu bod yn torri eu calonnau wedi iddyn nhw golli gwraig, mam, mam-gu a hen fam-gu.

Roedd Nesta Jeffreys, 75, yn teithio mewn car fu mewn gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd ar y ffordd rhwng Crosshands a Llanddarog am oddeutu 10:50 fore Gwener.

Bu'r ffordd ar gau am gryn amser.

Mae teulu Ms Jeffreys wedi gofyn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd gan ychwanegu eu bod wedi colli aelod mor werthfawr o'r teulu.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i unrhyw un a oedd yn teithio ar yr A48 rhwng Crosshands a Llanddarog ar adeg y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw - yn enwedig gyrwyr sydd â chamerâu cerbyd - dashcam.

Pynciau cysylltiedig