Protest difrodi arwyddion achos oedi papur gwyn tai

Graffiti ar arwydd swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng NghaerfyrddinFfynhonnell y llun, Cymdeithas yr Iaith
Disgrifiad o’r llun,

Graffiti ar arwydd swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghaerfyrddin

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr wedi difrodi arwyddion swyddfeydd Llywodraeth Cymru mewn protest yn erbyn "oedi" o ran mynd i'r afael â thrafferthion y sector tai.

Dywed Cymdeithas yr Iaith eu bod "wedi gweithredu" nos Fercher trwy baentio graffiti a gosod sticeri ar arwyddion yng Nghaerdydd, Caerfyrddin, Aberystwyth a Chyffordd Llandudno.

Maen nhw'n cyhuddo'r llywodraeth o "anwybyddu'r argyfwng tai" trwy fethu â chyhoeddi Papur Gwyn oedd wedi'i addo yn y Senedd cyn toriad yr haf.

Mewn datganiad ym mis Ebrill, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Tai ar y pryd, Julie James - un o'r pedwar AS a ymddiswyddodd o'r Llywodraeth Lafur ddydd Mawrth - bod yna fwriad i gyhoeddi Papur Gwyn yn yr haf, dolen allanol.

Ond mae Cymdeithas yr Iaith "ar ddeall" erbyn hyn na fydd hynny'n digwydd nawr "nes tymor yr hydref".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym ni’n credu y dylai pawb gael mynediad i gartref teilwng, fforddiadwy i’w brynu neu ei rentu yn eu cymunedau eu hunain er mwyn iddyn nhw allu byw a gweithio’n lleol.

“Rydym yn cymryd camau radical gan ddefnyddio’r systemau cynllunio, eiddo, a threthiant i gyflawni hyn, fel rhan o becyn cydgysylltiedig o atebion i set gymhleth o faterion.

“Mae creu mwy o dai fforddiadwy i gwrdd anghenion pobl Cymru yn flaenoriaeth i’r llywodraeth hon a byddwn yn ymgynghori ar Bapur Gwyn yn ddiweddarach eleni ar gynigion ar gyfer darparu tai digonol, rhenti tecach a dulliau newydd o wneud cartrefi’n fforddiadwy i'r rhai ar incwm lleol.”

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas yr Iaith
Disgrifiad o’r llun,

Sticeri ar arwydd swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno

Mae'r mudiad yn poeni y bydd "oedi pellach" cyn cyhoeddi'r ddogfen yn sgil ymddiswyddiadau'r gweinidogion a'r broses o benodi olynydd i Vaughan Gething fel prif weinidog.

Gan ddadlau mai "datrys yr argyfwng tai fydd her fwyaf prif weinidog nesaf Cymru" maen nhw'n "galw am gyflwyno Deddf Eiddo ar frys fyddai'n sefydlu'r hawl i gartref yng nghyfraith Cymru".

Yn dilyn oedi hefyd yn achos cyflwyno Cofrestr Llety Gwyliau a chamau i fynd i'r afael ag effeithiau ail gartrefi ar y farchnad dai, mae'r Gymdeithas yn cyhuddo'r llywodraeth "o anwybyddu'r argyfwng tai sy'n wynebu pobl ar lawr gwlad ac osgoi cyfrifoldeb".

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas yr Iaith
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd sticeri eu gosod ar sawl arwydd o amgylch swyddfeydd y llywodraeth yn Aberystwyth nos Fercher

"Mae ein gwleidyddion wedi gadael y Senedd am y tro olaf cyn toriad yr haf a does dal dim sôn am Bapur Gwyn ar dai, ac mae ansicrwydd pellach wedi sawl ymddiswyddiad yr wythnos hon," medd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith.

"Mae teuluoedd a phobl ifanc ar draws Cymru yn methu talu rhent, yn methu fforddio morgais, yn byw mewn amgylchiadau bregus, ansefydlog ac yn cael eu gorfodi i adael eu cymunedau.

"Dyna'r argyfwng rydym yn ei wynebu yng Nghymru, ond dydy'r Llywodraeth bresennol ddim fel petai'n yn deall beth sy'n digwydd yn ein cymunedau."

Dywed Cymdeithas bod disgwyl i'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg, dolen allanol gyhoeddi adroddiad "ymhen rhai wythnosau" gan ragweld y bydd yn cynnig "camau blaengar fel ffordd ymlaen, er enghraifft cyflwyno cynlluniau peilot i reoleiddio'r farchnad".

Cafodd y comisiwn, dan gadeiryddiaeth Dr Simon Brooks, ei sefydlu yn 2022 i lunio argymhellion polisi i ddiogelu a chryfhau'r Gymraeg fel iaith gymunedol.