Cael diagnosis canser yn 14 oed yn brofiad 'ynysig'

Amelie Hardiman
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Amelie Hardiman ddiagnosis o melanoma cam tri pan yn 14 oed

  • Cyhoeddwyd

14 oed oedd Amelie Hardiman pan gafodd hi ddiagnosis o melanoma cam tri - math ymosodol o ganser y croen sy'n brin ymhlith plant a phobl ifanc.

Roedd yn golygu fod Amelie, sy'n dod o Lanfairfechan yn Sir Conwy ac sydd bellach yn 17, wedi derbyn mwyafrif ei thriniaeth ar Lannau Mersi yn Lloegr.

Mae nifer o'r gwasanaethau mae hi wedi eu defnyddio wedi eu teilwra ar gyfer oedolion, sy'n golygu ei bod hi, ar adegau, wedi teimlo yn ynysig ac fel bod neb yn gallu deall ei phrofiadau.

Roedd ei mam, Catherine, hefyd yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i bobl eraill oedd yn profi rhywbeth tebyg.

Fe newidiodd hynny, yn ôl Amelie, pan ddaethon nhw i wybod am yr elusen ganser, Joshua Tree, wnaeth lwyddo i gynnig y gefnogaeth emosiynol a'r gymuned yr oedd hi a'i mam yn chwilio amdano.

"Cefais i fy ngweithiwr cefnogaeth, Sara. Roedd hi'n helpu drwy ddod i'n ngweld i yn wythnosol... ro'n i'n gallu gweld hi neu anfon neges ati pryd bynnag o'n i isio," meddai Amelie.

"Oedden ni'n mynd allan i wneud gweithgareddau ac i siarad am yr hyn oedd yn digwydd yn fy mywyd, dim o reidrwydd y pethau oedd yn ymwneud â chanser, ond unrhyw beth yr o'n i'n ei deimlo neu yn ei wneud.

"Doedd fy ffrindiau ddim yn gwybod sut i ddelio â'r hyn oedd yn digwydd - doedd lot o bobl yn fy mywyd ddim, i ddweud y gwir.

"Felly roedd cael y gefnogaeth yna yn hynod o bwysig."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Amelie a'i mam Catherine wedi elwa o gefnogaeth elusen Joshua Tree

Dywedodd Amelie bod ei mam wedi derbyn cymorth hefyd, drwy ddod i adnabod rhieni plant eraill oedd yn mynd drwy'r un math o brofiadau.

Mae teulu Amelie yn un o tua 200 yng ngogledd Cymru sydd wedi cael cefnogaeth gan Joshua Tree yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, a bellach mae'r elusen yn ehangu eu gwasanaeth yn yr ardal.

Maen nhw'n agor canolfan newydd ym Mae Colwyn lle bydd cyfleusterau chwarae, therapi a chwnsela ar gael.

Cefnogaeth leol yn hanfodol

Esboniodd Richard Driffield, prif weithredwr yr elusen, ei fod yn gwybod y bydd mwy o deuluoedd yn cael diagnosis canser yn y blynyddoedd sydd i ddod, ac fe fyddan nhw angen help.

"Mae'r gefnogaeth 'dan ni'n ei gynnig yn eithaf unigryw - mae o i ffwrdd o'r ysbyty ac mae'n dueddol i fod yng nghanol y gymuned, sef lle mae'r teuluoedd yma yn byw," meddai.

"Mae sawl teulu yn teithio dros 120 milltir o ogledd Cymru i'r prif ganolfan driniaeth yn Alder Hey... felly mae gwybod fod yna gefnogaeth ar gael ar eu stepen drws yn hanfodol."

Disgrifiad o’r llun,

Richard Driffield yw prif weithredwr elusen Joshua Tree

Mae Joshua Tree yn cefnogi plant a phobl ifanc hyd at 24 oed, ac maen nhw'n teilwra'r gefnogaeth yn ddibynnol ar anghenion y teulu.

Yn ôl Danielle Percival, pennaeth cefnogaeth deuluol yr elusen, mae'r ymdriniaeth bersonol yma yn bwysig iawn.

"I rywun gyda phlentyn ifanc, mae gallu chwarae yn ddiogel yn bwysig... I Amelie, roedd angen cydnabod ei bod hi'n ferch yn ei harddegau, ac yn rhywun oedd eisiau gwrando ar sgyrsiau am fywyd, ffrindiau a'r ysgol.

"Yr holl bethau hynny sy'n digwydd mewn bywyd i bobl yn eu harddegau - mae'r diagnosis canser yn dod ar ben y bywyd normal yna."

Disgrifiad o’r llun,

Mae teilwra'r gefnogaeth i wahanol unigolion yn bwysig iawn, meddai Danielle Percival

Ychwanegodd fod yr elusen yn gweithio'n galed i geisio cynnig rhywfaint o ysbaid i aelodau o'r teulu.

"Mae'n fath o gymuned gefnogol sydd i gyd yn siarad yr un iaith, a sy'n deall fod bywyd wedi mynd yn hyll ac yn anodd, ond mae'r ffordd maen nhw'n gefn i'w gilydd wir yn hyfryd.

"Mae nifer o'n teuluoedd yn dweud ei fod o'n brofiad unig ac ynysig, nid yn unig i'r plentyn ond i'r rhieni hefyd... ac mae brodyr a chwiorydd yn aml yn cael eu colli, yn gallu teimlo'n genfigennus, neu jest ddim yn deall yr hyn sydd wedi digwydd i fywyd y teulu."

'Wastad yno i fi'

A hithau erbyn hyn yn astudio ar gyfer ei harholiadau Safon Uwch ac yn edrych ymlaen at fynd i'r brifysgol, mae Amelie bellach yn glir o ganser.

Ond mae hi'n dal yn gorfod mynd i apwyntiadau cyson er mwyn cael sganiau ac ati.

Mae hi hefyd yn dal i dderbyn cefnogaeth gan Sara o Joshua Tree.

"Dwi dal yn gallu ei ffonio am sgwrs - mae hi wastad yno i fi."

Pynciau cysylltiedig