Prawf canser yn y post 'wedi achub fy mywyd'

Disgrifiad,

Mae Euros Davies yn codi ymwybyddiaeth o'r cynnig i gael prawf am ganser y coluddyn ar ôl cael canlyniad positif annisgwyl

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn sydd â chanser y coluddyn yn annog pobl eraill i wneud y prawf sgrinio sydd ar gael am ddim i bawb dros 51 oed wedi iddo "achub fy mywyd i".

Doedd gan Euros Davies, 54, ddim symptomau o gwbl pan wnaeth y prawf ym mis Ionawr, bum mis wedi i'r pecyn ddod trwy'r post.

Roedd "y peth wedi mynd yn angof", meddai, nes iddo gofio amdano ddechrau'r flwyddyn a phostio'r prawf heb amau o gwbl y byddai'r canlyniad yn bositif.

Ond o fewn deuddydd cafodd wybod bod gwaed wedi ei ddarganfod yn y sampl, ac yn dilyn rhagor o brofion, cafodd wybod bod canser yn ei goluddyn bach.

Dywedodd Euros, sy'n byw yn Rhosfawr ger Pwllheli, wrth raglen Dros Frecwast ei fod yn "ystyried fy hun yn eitha' iach - yn cerdded lot fawr, chwara' sboncen, byta'n eitha' iach a cadw pwysa' eitha' iach.

"Heb law bod y prawf wedi dod drwy'r post a 'mod i 'di g'neud hwnnw fyswn i ddim callach bod gen i unrhyw symptoma' o gancr y coluddyn.

"Dwi'n wirioneddol obeithio bod ni 'di dal o ddigon buan."

'Swreal' gweld y tiwmor ar sgrin

Anfonodd y prawf ar 24 Ionawr gan dderbyn y canlyniad ddeuddydd yn ddiweddarach.

Fe gafodd sgwrs gyda nyrs arbenigol a chael colonoscopy ddechrau Mawrth.

Profiad "eitha' swreal" oedd edrych ar sgrin wrth i'r camera archwilio'r coluddyn a gweld dros ei hun bod yna diwmor yma.

"Oedd o'n eitha' amlwg bod yna gancr yna," meddai, ac wythnos yn ddiweddarach roedd canlyniadau biopsi wedi cadarnhau hynny.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Euros Davies heb gael unrhyw symptomau ac roedd yn dal i fwynhau chwarae sboncen a cherdded

Fe gafodd lawdriniaeth i dynnu rhan o'i goluddyn bach ddechrau mis Mai.

Mae bellach adref o'r ysbyty ers dydd Mawrth ac "yn gwella bob diwrnod", er yn dal mewn ychydig o boen, ac yn disgwyl canlyniadau rhagor o brofion.

"Y math o gancr oedd gen i, ar ochr dde yn y coluddyn, fydda hwnnw ddim wedi dangos i fyny nes bod y coluddyn mewn ffordd... methu pasio carthion a fysach chi mewn poen eithriadol.

"Dyna'r amser fysach chi wedi sylweddol bod gennych chi gancr, felly mae hwn [y prawf] 'di pigo fo i fyny yn fuan iawn i mi.

"Croesi bob dim rŵan bod o wedi ei ddal ddigon buan er mwyn achub fy mywyd i."

Prawf 'hawdd, cyflym a diffwdan'

Mae angen gwneud y prawf bob dwy flynedd, ond yn ôl y ffigyrau diweddaraf, dim ond 65.5% o'r bobl sy'n derbyn y profion sgrinio sy'n manteisio ar y cynnig.

Mae'r syniad o gasglu ac anfon sampl yn dal yn dabŵ i rai, medd Iwan Roberts, pennaeth cyfathrebu Ymchwil Canser Cymru, ond fe bwysleisiodd ar Dros Frecwast bod y broses yn un hawdd.

"Mae'n gyflym, mae'n ddiffwdan a mae o'n gallu achub eich bywyd chi."

Dywedodd mai canser y coluddyn "ydi'r pedwerydd math mwya' cyffredin o ganser yng Nghymru" a bod 2,500 yn cael diagnosis yma bob blwyddyn.

O'r rheiny, dywedodd bod 50% "wedi cyrraedd Lefel 3 neu Lefel 4... pryd mae'n anoddach trin y salwch".

Pwysleisiodd bod diagnosis cynnar yn gwella'r tebygolrwydd o oroesi a dyna pam mae'n bwysig bod pobl yn manteisio ar y profion sgrinio.

"Da chi, os 'dach chi'n cael un, gwnewch o," dywedodd, "ac os nad oes gennych chi ganser 'dach chi'n cael tawelwch meddwl bod chi'n glir."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Euros Davies yn gyn-bennaeth ysgolion cynradd ac yn dal i weithio gydag ysgolion yn ei swydd gyda GwE

Dywed Euros ei fod wedi rhannu ei brofiad ar Facebook "achos 'mod i'n ymwybodol cyn lleied o bobl sy'n gweinyddu'r prawf".

"Dwn im os 'dan ni fel dynion yn waeth am 'neud," meddai.

"Ambell un yn d'eud mae eu gŵr nhw 'di gadael o yn y drôr [neu'n dweud] 'dwi'm yn 'neud o'.

"Bellach ma'r gwragedd yn gorfodi nhw i 'neud o! Sawl ffrind wedi d'eud 'mae gen i un yn y drôr - dwi'n mynd i 'neud o rŵan'.

"Os oes hyd yn oed hanner dwsin o bobl yn penderfynu 'neud o drwy'r ffaith bod ni yn hyrwyddo yr angen iddyn nhw 'neud - wel, 'dan ni'n 'neud rwbath yn iawn."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Euros Davies yn falch bod rhai'n bwriadu gwneud y prawf ar ôl iddo yntau rannu ei brofiad ar y cyfryngau cymdeithasol

"Un peth ddudodd yr arbenigwr nes i siarad efo oedd 'dwi'n gw'bod bod y gwasanaeth iechyd ar ei linia' ond dau beth 'dan ni'n dda iawn am eu 'neud ydi meddyginiaeth frys a meddyginiaeth cancr.

"Ar ôl y profiad dwi 'di gael o pa mor gyflym maen nhw wedi gweithredu - munud 'dach chi yn y system, munud 'da chi 'di adnabod bod gennych chi gancr... ma'r tîm cancr yn gweithio'n gyflym iawn, iawn efo chi wedyn.

"S'ginna' i'm byd ond canmoliaeth i'r gwasanaeth a'r gefnogaeth dwi 'di gael felly dydi hwnna ddim yn fwgan i unrhyw un sydd ag ofn cymryd y prawf a cael canlyniad positif.

"Mae'r gofal 'dach chi'n gael wedyn yn arbennig o dda."

Pynciau cysylltiedig