Pobl ifanc yn 'fwy parod i dalu am wasanaethau Cymraeg'
- Cyhoeddwyd
Mae gwaith ymchwil yn awgrymu bod pobl ifanc yng Nghymru yn fwy tebygol o dalu mwy am wasanaethau neu gynnyrch os yw'n cael ei werthu drwy'r Gymraeg.
Yn ôl gwaith ymchwil gan Brifysgol Bangor fe allai'r Gymraeg gyfrannu lot i fusnesau yng Nghymru, ac mae hynny’n cael ei gefnogi gan gynllun Bwrlwm Arfor sydd wrthi'n cynnig grantiau i fusnesau am wella eu darpariaeth o'r iaith.
Yn ôl dynes o Wynedd a sefydlodd gwmni ddwy flynedd yn ôl, mae’r iaith wedi bod yn fodd o ddenu cwsmeriaid newydd yn ogystal â marchnata llwyddiannus.
Mae cynllun Bwrlwm Arfor yn gweithredu o fewn siroedd sy’n cael eu hystyried yn gadarnleoedd i’r iaith Gymraeg - Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin.
'Rhywbeth unigryw'
Mi sefydlodd Catrin Hughes gwmni Dwylo Bach ddwy flynedd yn ôl yn ardal Bangor, ac mae’n cynnal sesiynau i rieni a’u babanod.
“Mae unrhyw fusnes sy’n creu gwasanaeth yn y Gymraeg yn creu rhywbeth unigryw ynddo’i hun,” meddai.
“Waeth beth yw’ch busnes chi mae’n rhoi elfen lot fwy cryf i chi yn lleol a dwi’n teimlo bod modd i chi ddatblygu perthynas efo’r cleientiaid hefyd.
“Maen nhw’n teimlo’n gyfforddus a da chi’n creu rapport a bod nhw’n teimlo yn agos ata chdi.”
- Cyhoeddwyd8 Ebrill
- Cyhoeddwyd7 Ebrill
- Cyhoeddwyd5 Ebrill
Mae Ms Hughes yn marchnata ei sesiynau ac yn eu cynnal yn gwbl ddwyieithog gan ddweud bod gwneud hynny wedi denu mwy o gwsmeriaid fyth i ddefnyddio'r sesiynau.
Mae’r cynllun ar hyn o bryd yn galw ar fusnesau o fewn cadarnleoedd y Gymraeg i wneud cais am bres o gronfa gwerth £300,000 i dderbyn cefnogaeth.
Mi all y gwasanaeth wedyn helpu gyda chyfieithu a chynnig ffyrdd o ddatblygu’r Gymraeg o fewn y busnes gyda’r nod o gynyddu ymwybyddiaeth a darpariaeth.
“Mae 'na gyfle fan hyn,” meddai Zoe Pritchard o Fwrlwm Arfor.
“Cyfle i ni ddathlu'r hyn sydd ganddo ni o ran busnesau sy’n gwneud defnydd gwych o’r Gymraeg a hefyd be' sy’n buddio yn economaidd a be' sy’n creu cyllid ac arian i ennill cwsmeriaid newydd oherwydd eu bod yn defnyddio’r iaith."
Mae gwaith ymchwil diweddar gan Brifysgol Bangor hefyd yn awgrymu bod pobl ifanc yn fwy tebygol o fynd yn ôl at fusnes mwy nag unwaith os oes darpariaeth drwy’r Gymraeg.
Yn ôl Dr Edward Thomas Jones sy’n economegydd ym Mhrifysgol Bangor mae’n bwysig gweld gwerth y Gymraeg ym myd busnes.
“Mi natho ni ymchwiliad yma ar draws gogledd Cymru yn edrych ar faint oedd cwsmeriaid yn fodlon talu i gael gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Natho ni ddarganfod fod pobl hŷn... doedda nhw ddim yn fodlon talu mwy am wasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg am wahanol resymau ond roedd cwsmeriaid ifanc yn fodlon talu mwy ar gyfer cael gwasanaethau drwy’r Gymraeg."
Mae hynny yn wir, meddai o’r busnesau lleiaf i’r mwyaf, a hynny wrth i archfarchnad ryngwladol Lidl dderbyn cydnabyddiaeth y llynedd am eu defnydd o’r Gymraeg.
Mae cynllun Bwrlwm Arfor rŵan yn galw am geisiadau er mwyn gwella darpariaeth busnesau o fewn cadarnleoedd y Gymraeg gan obeithio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r iaith, meddai.