Pryder busnesau bach am gyfraith ailgylchu newydd

Steffan Butler
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rheolau newydd yn “rhywbeth arall i boeni amdano," yn ôl Steffan Butler o fwyty Blas

  • Cyhoeddwyd

Mae busnesau bach yng Nghymru’n bryderus am yr heriau a ddaw yn sgil cyfraith newydd ar ailgylchu yn y gweithle.

O 6 Ebrill bydd yn rhaid i bob busnes, sefydliad sector gyhoeddus ac elusennau ddidoli eu gwastraff ar gyfer ailgylchu.

Mae 'na alw am gefnogaeth a chyngor i fusnesau bach ddygymod â’r newid.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r mwyafrif o fusnesau’n gefnogol, a bydd eu hymateb i unrhyw dorri rheolau yn deg a rhesymol.

Disgrifiad o’r llun,

O 6 Ebrill bydd yn rhaid i bob busnes, sefydliad sector gyhoeddus ac elusennau ddidoli eu gwastraff ar gyfer ailgylchu

Fel sy’n digwydd mewn cartrefi ar hyd y wlad, bydd busnesau yn gyfrifol am ddidoli a gwahanu gwastraff cyn eu casglu.

Er bod bwyty Blas yn Rhydaman eisoes yn gwahanu gwastraff, maen nhw’n bryderus am y pwysau ychwanegol – yn enwedig gan ei bod hi’n gyfnod heriol i'r sector lletygarwch ar hyn o bryd.

Dywedodd y rheolwr gweithredu, Steffan Butler: “I ni, does 'na ddim gwahaniaeth oherwydd roedden ni’n gwneud y pethau yma’n barod, ond os ydych chi’n fusnes llai, yna efallai bydd yna gost ychwanegol achos bydd angen cael mwy o bins.

“Mae hwn yn stress arall - rhywbeth arall i boeni amdano.

“Rwy’n gwybod bod y llywodraeth yn gorfod meddwl am yr amgylchedd, ond mae’r sector yma’n stryglan ar hyn o bryd."

Disgrifiad o’r llun,

Fe allai busnesau sy’n torri’r gyfraith gael dirwy neu orchymyn llys

Mae gan Gymru, fel y DU, darged cyfreithiol i gyrraedd sero net erbyn 2050 - sy'n golygu torri allyriadau tŷ gwydr yn ddramatig fel nad yw'r wlad yn cyfrannu ymhellach at gynhesu byd eang.

Yn ôl Ysgrifennydd Newid Hinsawdd Cymru, Huw Irranca-Davies: “Ry'n ni eisiau gwella ansawdd a maint yr hyn sy'n cael ei ailgylchu o weithleoedd.

"Mae'n gam pwysig tuag at gyrraedd gwastraff sero, lleihau ein allyriadau carbon a thaclo'r argyfwng hinsawdd."

Bydd gwaharddiad hefyd ar fusnesau rhag rhoi gwastraff bwyd i lawr draeniau, a gwaharddiad ar wastraff a gesglir ar wahân, sy'n mynd i beiriannau llosgi a safleoedd tirlenwi.

'Mae cost i bopeth'

Ond fe gaiff effaith ariannol ar fusnesau yn ôl Steffan Butler.

"Mae cost y biniau mawr tua £300 y mis - dyw nhw ddim yn rhad.

“Mae’r rhyddhad ardrethi i fusnesau yn gostwng, a nawr mae hwn yn rywbeth arall i ni feddwl amdano - mae'n rhaid iddyn nhw helpu ni."

Disgrifiad o’r llun,

Clare Dent: "Ry'n ni'n cefnogi ailgylchu, ond yn bryderus am ddiffyg cefnogaeth a chyfathrebu"

Mae Clare Dent, sy'n rhedeg oriel a chaffi yn Aberhonddu, yn cytuno.

"Mae gwahanu gwastraff yn golygu amser ychwanegol ac oblygiadau o ran cost i ni," meddai.

"Does dim modd cloi'r biniau chwaith, felly fe allai rhywun daflu unrhyw wastraff yno, fel cebab, ac fe allwn i gael dirwy pe bai Cyfoeth Naturiol Cymru'n ei weld a dweud ei fod wedi cael ei lygru."

Pwy sy'n plismona?

Cyfoeth Naturiol Cymru fydd yn sicrhau bod pob sector yn cydymffurfio â’r rheolau, a bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am sicrhau nad yw’r rheolau ar roi gwastraff bwyd i lawr draeniau’n cael eu torri.

Ni fydd ysbytai yn gorfod cydymffurfio â’r newidiadau am ddwy flynedd arall.

Fe allai busnesau sy’n torri’r gyfraith gael dirwy neu orchymyn llys, ond mae Llywodraeth Cymru’n mynnu y byddan nhw’n ymateb yn deg i unrhyw un sy’n cael eu dal yn torri’r rheolau.

Dywedodd tua dwy ran o dair o fusnesau bach a chanolig eu bod nhw eisoes yn ailgylchu popeth roedden nhw'n gallu ei wneud, yn ôl arolwg gan Lywodraeth Cymru y llynedd.

Roedd bron i 80% o'r rhai atebodd yn cefnogi newid yn y gyfraith.

Pryder am 'ymarferoldeb'

Ond mae gan Ffederasiwn y Busnesau Bach bryderon am “ymarferoldeb” y newidiadau.

Yn ôl Ben Cottam, pennaeth y ffederasiwn yng Nghymru, mae angen i’r llywodraeth a’r rheoleiddwyr “roi cymaint o ymdrech i’r cyngor a’r gefnogaeth â’r hyn sy’n cael ei roi i’r orfodaeth”.

Ffynhonnell y llun, Bluestone

Mae parc gwyliau Bluestone yn Sir Benfro, a Phrifysgol Caerdydd ymhlith nifer fechan o lefydd ble mae gwastraff eisoes yn cael ei wahanu, a hynny cyn i’r gyfraith newid.

Yn ôl cyfarwyddwr cynaliadwyedd Bluestone, Marten Lewis, mae gosod biniau newydd yn y parc wedi golygu nad oes cymaint o gymysgu a llygru deunyddiau yn digwydd.

“Mae’r deunyddiau cywir yn mynd i’r biniau cywir, sy’n golygu bod ansawdd y gwastraff ry’n ni’n ei anfon i’w ailgylchu wedi gwella gan fwy na hanner," meddai.

Yn ôl Huw Irranca-Davies mae 'na fantais ariannol hefyd.

“Gyda chost deunyddiau'n codi, bydd cadw deunyddiau ansawdd uchel mewn defnydd yn helpu'n economi a chefnogi'r gadwyn gyflenwi."