Siom wrth i law trwm ohirio'r tymor criced

Disgrifiad,

Ni fydd gemau'n cael eu chwarae ym Mhorthaethwy am rai wythnosau eto oherwydd y glaw diweddar

  • Cyhoeddwyd

Mae rhai o gricedwyr y gogledd yn siomedig wrth i'r glaw diweddar gael effaith mawr ar eu paratoadau ar gyfer y tymor.

Fel yn flynyddol, roedd y clybiau yn paratoi i gychwyn eu tymor o chwarae ar 20 Ebrill.

Ond mae glaw trwm dros gyfnod o sawl wythnos wedi amharu ar y gwaith o baratoi'r meysydd, gan achosi sefyllfa "digynsail" yn ôl swyddogion.

Disgrifiad o’r llun,

Fydd 'na ddim gemau yn cael eu chwarae ym Mhorthaethwy am rai wythnosau eto oherwydd y glaw diweddar

Mae Cynghrair Criced Gogledd Cymru, sydd â phum adran, wedi penderfynu gohirio cychwyn y tymor tan 4 Mai.

Eu gobaith yw y bydd pythefnos ychwanegol yn galluogi'r clybiau i gael eu peiriannau ar y meysydd i gyflawni'r gwaith angenrheidiol.

Ond gyda chriced ymysg y campau sydd fwyaf dibynnol ar dywydd ffafriol, mae pryder hefyd y bydd hwn yn batrwm mwy cyson dros y blynyddoedd i ddod.

Disgrifiad o’r llun,

Mae clybiau'n cael trafferth paratoi eu meysydd oherwydd y tywydd diweddar

Yn ôl y Swyddfa Dywydd roedd 53% yn fwy o law fis diwethaf o'i gymharu â'r mis Mawrth arferol yng Nghymru.

Mae'r sgil effeithiau wedi bod yn amlwg ar glybiau criced llawr gwlad, sy'n aml yn ddibynnol ar wirfoddolwyr i edrych ar ôl y meysydd.

Yn ôl un o swyddogion Cynghrair Gogledd Cymru, mae'r tywydd diweddar wedi achosi "hafoc" gyda pharatoadau sawl clwb.

Dywedodd Dyfan Parry, Swyddog Cyfathrebu'r gynghrair: "'Da ni wedi cael lot o feedback gan y clybiau sydd yn bell tu ôl iddi ar y gwaith paratoi.

"Roedd rhai clybiau'n poeni fyddan nhw ddim mewn sefyllfa i chwarae gêm gartref tan ganol Mai hyd yn oed, mae'n unprecedented.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfranwr
Disgrifiad o’r llun,

Dyfan Parry: "Mae'n anodd gan fod rhai clybiau yn rhannu caeau gyda phêl-droed a rygbi, ond pythefnos ydi'r mwyaf allwn wneud i ddweud y gwir"

"Y glaw persistent yna, roedd un clwb yn dweud wythnos yn ôl y basan nhw'n barod ar gyfer 27 Ebrill ac wedyn maen nhw just wedi cael tri diwrnod o law a'r cae wedi floodio.

"Fel committee oeddan yn teimlo fod rhaid i ni helpu'r clybiau ond mae'n anodd gan fod rhai clybiau yn rhannu caeau gyda phêl-droed a rygbi, ond pythefnos ydi'r mwyaf allwn wneud i ddweud y gwir.

"Mae 'na rai pobl sydd wedi bod ar y committee am flynyddoedd ac maen nhw'n dweud dydyn nhw erioed wedi gweld unrhyw beth fel hyn o'r blaen."

'Mae'r tir yn wlyb iawn'

Un o glybiau amlyca'r gogledd ydy Porthaethwy, sydd fwyaf adnabyddus am lansio gyrfa Matthew Maynard, a aeth ymlaen i chwarae dros Forgannwg a Lloegr mewn gyrfa lewyrchus.

Fel yr unig glwb gweithredol ar Ynys Môn erbyn hyn, roedden nhw'n gobeithio cynnal eu sesiwn gyntaf yn yr awyr agored nos Iau.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Clwb Criced Porthaethwy yn gorfod ymarfer yn y ganolfan hamdden leol nos Iau

Ymysg y rheiny oedd chwaraewr gwadd o Dde Affrica.

Ond roedd canlyniad yr holl law yn golygu eu bod yn gorfod parhau i ymarfer o dan do yng nghanolfan hamdden y dref.

Disgrifiad o’r llun,

Dyfrig Jones: "'Da ni wedi cael cyfnod digynsail o law fyswn i'n ei ddweud"

Dywedodd Dyfrig Jones, sy'n chwarae i'r clwb yn ogystal â bod yn gydlynydd y timau ieuenctid: "Yr effaith mwyaf yw bod y tir yn wlyb iawn.

"'Da ni wedi cael cyfnod digynsail o law fyswn i'n ei ddweud, sy'n golygu fod hi ddim yn hawdd i baratoi'r tir ar gyfer y tymor newydd.

"'Da ni'n lwcus iawn ym Mhorthaethwy fod ganddon ni'r adnodd gwych yma fan hyn, 'da ni wedi bod yn defnyddio hwn yn ystod y gaeaf hefyd ond rwy'n gwybod am nifer o glybiau sydd ddim mor lwcus."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Matthew Maynard yn chwarae i dîm Porthaethwy pan oedd ond yn 13 oed, cyn mynd ymlaen i serennu i Forgannwg

Ar un cyfnod roedd hanner dwsin o glybiau criced ar Ynys Môn.

Er mai dim ond Porthaethwy sydd ar ôl, fe ychwanegodd fod y gamp mewn cyflwr iach a fod gan y clwb tua 130 o bobl ifanc yn chwarae ar draws y timau iau.

"Mae rhywun yn ymwybodol o effaith cynhesu byd eang a bod y tymhorau'n gallu newid, ond 'da ni wedi arfer gyda thywydd gwlyb ym mis Awst hefyd, yn anffodus 'da ni wedi arfer â hyn.

"Ond dwi ddim yn cofio dechrau tymor mor sal a'r hyn sydd wedi digwydd eleni."

Disgrifiad o’r llun,

Robbie Jones: "Mae hi reit siomedig yn amlwg ond does ddim modd chwarae ar y funud"

Dywedodd cadeirydd y clwb, Robbie Jones: "Yr adeg yma flwyddyn dwytha' roedd y tywydd yn grêt yn doedd?

"Mae hi mor anodd darogan y pethau 'ma.

"Mae hi reit siomedig yn amlwg ond does ddim modd chwarae ar y funud.

"'Da ni yng nghanol cael cyfleuster rhwydi newydd, ond mae'r gwaith yna wedi gorfod dod i stop."

'Mae'n siom i orfod aros'

Dywedodd Jazmine Beauchamp, sy'n chwarae i'r clwb, fod gohirio cychwyn y tymor yn "siom mawr".

Ychwanegodd eu bod wedi gobeithio gallu ailddechrau chwarae yn yr awyr agored, ond estyn allan y rhwydi ar gyfer sesiwn arall o dan do oedd yr unig ddewis nos Iau.

Disgrifiad o’r llun,

Jazmine Beauchamp: "Ni'n gobeithio bydd y tywydd yn clirio lan"

"'Ni wedi bod yn ymarfer tu fewn dros y gaeaf ac wedi edrych ymlaen at y tymor a mae'n siom i orfod aros tu fewn am tamed bach mwy.

"Ni'n gobeithio bydd y tywydd yn clirio lan."

Gobaith Jazmine a sawl clwb arall, yw mai'r wicedi yn hytrach na'r glaw fydd yn syrthio dros yr haf.

Pynciau cysylltiedig