Tyrbinau 250m i 'ddinistrio' cymoedd Llynfi ac Afan
- Cyhoeddwyd
Mae anhapusrwydd yn parhau am gynllun dadleuol i adeiladu fferm wynt rhwng Port Talbot a Maesteg, er ei fod yn cynnwys llai o dyrbinau erbyn hyn.
Ar hyn o bryd mae trigolion Dyffryn Afan a Chwm Llynfi yn cael cyfle i roi sylwadau ar y cynllun newydd a gafodd ei gyflwyno gyntaf yn 2021.
Un o'r pryderon pennaf yw uchder y tyrbinau o hyd at 250m - fe fyddan nhw gyda'r uchaf yn y Deyrnas Unedig.
Mae gwrthwynebwyr yn poeni y byddan nhw yn anharddu'r ardal ac yn dweud y dylid ystyried ffyrdd eraill o gynhyrchu ynni gan gyfeirio at hydro, ynni arnofiol ac ynni o'r llanw.
Dywed y datblygwyr eu bod wedi gwneud newidiadau yn sgil pryderon gwreiddiol a bod ffermydd gwynt yn bwysig er mwyn cyrraedd targedau sero net.
Un o drefnwyr yr ymgyrch yn erbyn y tyrbinau yw Rhodri Williams.
"Dyw y cynllun yma ddim yn addas i'r gymuned," meddai.
"Maen nhw am adeiladu tyrbeini sy' lai na milltir i ffwrdd o dai pobl.
"Mae gen i bryder am iechyd pobl oherwydd hyn."
Ychwanegodd: "Dyle nhw fod yn edrych mwy ar bethe fel y tidal lagoon ym Mae Abertawe er mwyn creu ynni.
"Bydde hwnna hefyd yn gallu bod yn atyniad twristiaeth ac yn helpu yr economi. Mae opsiynau eraill."
Beth ydy'r cynllun?
Yn ôl Coriolis Energy ac ESB, sy'n gyfrifol am y prosiect fferm wynt, mae'r safle arfaethedig wedi'i rannu'n ddau.
Mae bloc Bryn i'r de o'r B4282, gyda bloc Pen-hydd i'r gogledd o'r ffordd.
Pan gafodd y cynllun ei gyflwyno gyntaf roedd y prosiect yn cynnwys hyd at 26 tyrbin hyd at 250m o uchder.
Ond ar ôl ymgynghori â phobl yr ardal cafodd y cynlluniau eu haddasu yn 2022 a'r bwriad wedyn oedd codi 21 o dyrbinau.
Bellach mae'r cynllun wedi ei addasu eto i gynnwys llai o dyrbinau ac mae proses ymgynghori newydd wedi dechrau.
Yn sgil pryderon lleol am effeithiau gweledol, sŵn tyrbinau, traffig ac adeiladu, ac effaith ar fywyd gwyllt mae cwmnïau Coriolis ac ESB yn dweud eu bod "wedi ceisio mynd i’r afael â materion allweddol" drwy wneud newidiadau i’r cynlluniau:
Lleihau nifer y tyrbinau arfaethedig o 21 i 18 (i lawr o 26 a gynigiwyd yn wreiddiol);
Lleihau uchder tri thyrbin arall i leihau yr effaith weledol o bentref Bryn a'r cymunedau cyfagos;
Adleoli dau dyrbin i leihau effaith weledol o bentref Bryn;
Newidiadau i gynlluniau rheoli coedwigaeth.
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2023
Un arall sy'n gwrthwynebu yw Delyth Keating sy'n byw ym mhentref Bryn ger Port Talbot.
"Dy' ni ddim yn hapus â 'r cynllun newydd.
"Mae'r tyrbeini yn enfawr ac yn mynd i ddinistrio be' sy' gyda ni yn yr ardal.
"Ma' pobl yn dod fan hyn o bob cwr o'r wlad i 'neud pethe fel mountain bike riding, dydyn nhw ddim yn mynd i ddod os yw y pethe awful yma yn dod.
"Ma' nhw mynd i ddinistrio be' sy' gyda ni yn yr ardal."
Pwysig cadw'r ynni yng Nghymru
Mae Dan McCallum o Awel Aman Tawe yn teimlo fod hwn yn “gyfle mawr i’r ardal gymryd mantais o’r gwynt lleol" ac yn gyfle i bentrefi elwa.
“Fy nheimlad i yw ei bod yn well os ydyn nhw’n uwch achos mae’n disgwyl bo nhw’n troi yn fwy araf na tyrbinau bach.
"Hefyd mae nhw’n 'neud lot mwy o bŵer os ydyn nhw’n fwy.
“Dwi’n credu fod y lagŵn yn bwysig a phaneli solar ond mae ffermydd gwynt yn rhatach i'w hadeiladu ac hefyd mae nhw’n cynhyrchu trydan trwy’r dydd a thrwy’r nos.
"Mae’n bwysig bo' ni’n defnyddio safloedd fel y Bryn sy’n fynydd da i adeiladu tyrbin gwynt i gynhyrchu ynni glân ac hefyd i gadw’r ynni yng Nghymru - i ddefnyddio ein resources ni i gynhyrchu trydan.”
'Angen cwrdd â tharged sero net'
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod "angen ystod o dechnolegau, ar raddfeydd gwahanol, i ddiwallu anghenion trydan y dyfodol" wrth symud tuag at ddyfodol sero net.
"Mae gwynt a solar yn opsiynau cost-effeithiol i gynhyrchu trydan ac mae ganddynt rôl glir i'w chwarae," medd llefarydd.
Dywedodd Sara Powell, llefarydd ar ran Coriolis Energy: "Mae ffermydd gwynt ar y tir yn bwysig er mwyn sicrhau ein bod ni yn cwrdd â'n targed sero net.
"Bydd y galw am drydan yn dyblu yn y blynyddoedd nesaf ac mae'n rhaid ymateb i hyn."
Pan fydd yr ymgynghoriad statudol yn yr ardal yn dod i ben mae'r cwmni yn dweud y gallai cais cynllunio llawn gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn hwyrach yn y flwyddyn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2022