Cymry yn trio deall effaith gweddillion llongau yn y môr
- Cyhoeddwyd
Wrth i newid hinsawdd achosi stormydd difrifol ac wrth i dymheredd y môr gynyddu, mae llongddrylliadau yn dirywio'n gyflym.
Mae 'na bryder y gallai gweddillion llongau sydd â thanwydd ynddyn nhw achosi problemau llygredd difrifol.
Wrth i'r gweddillion bydru, mae archeolegydd morol o Gymru yn rhybuddio "y gallai hynny fod gyfystyr â thancer olew bach o dan y môr".
Mae tîm o arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor yn ceisio casglu mwy o wybodaeth am longddrylliadau oddi ar arfordir Cymru, er mwyn "deall beth yn union ydi'r sefyllfa".
Pan fydd olew yn gollwng i'r môr, mae'n gallu achosi difrod sylweddol i'r amgylchedd, gan ddifrodi cynefinoedd anifeiliaid a llygru'r dŵr. Mae hefyd yn gallu bod yn anodd iawn i'w lanhau.
Yn ôl Dr Julian Whitewright o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru: "Pan fyddwn ni'n meddwl am newid hinsawdd, rydyn ni'n meddwl am fynyddoedd rhew yn toddi a lefel y môr yn codi... ond rydyn ni hefyd wedi cael nifer fawr o stormydd eleni."
Mae'n dweud bod hynny'n effeithio ar yr arfordir gan dynnu tywod o draethau, achosi erydiad arfordirol ac achosi llifogydd yn fwy rheolaidd.
Dywedodd Dr Julian Whitewright mai "gweddillion y llongau dur a haearn sydd o bosib yn fwyaf tebygol o lygru'r moroedd".
Ychwanegodd bod llawer o'r llongddrylliadau ym moroedd Cymru'n dyddio'n ôl i'r Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd. Roedd rhai yn defnyddio glo ond roedd eraill yn defnyddio olew.
Er mwyn lleihau'r risg i'r amgylchedd, mae ymchwilwyr yn ceisio darganfod pa danwydd oedd ar y llong, ond mae hynny'n gallu bod yn her.
Dywedodd Dr Michael Roberts, o Brifysgol Bangor, sy'n gyfrifol am adolygu prosiectau morol: "Tan i ni fedru cymryd golwg fanwl arnyn nhw, allwn ni ddim dweud gyda sicrwydd beth ydi'r sefyllfa - mae'n anodd."
"Does neb yn siarad am y peth a dydw i ddim yn credu fod pawb yn sylweddoli nad ydyn ni'n gwybod beth sydd yna," dywedodd.
Mae gwybodaeth am longddrylliadau yn brin ac mae Dr Roberts a'i dîm yn darganfod bod y manylion gwreiddiol am y llongau yn anghywir.
"Mae manylion traean o'r llongddrylliadau yn anghywir a does gennym ni ddim manylion am draean arall ohonyn nhw."
"Tan i ni edrych yn fanwl ar bob un, allwn ni ddim dweud gyda sicrwydd beth ydyn nhw."
Mae Dr Roberts a'i dîm wedi astudio 650 o safleoedd yn y DU sydd wedi eu cofrestru fel ardaloedd lle mae llongddrylliadau.
"Rydw i wedi astudio pob llongddrylliad yng Nghymru oni bai am ddwsin yn Sir Benfro a petawn i'n gallu cyrraedd y rhai hynny, Cymru fyddai'r wlad gyntaf yn y byd i wneud rhestr o'i holl hanes morol. Ond does dim arian," dywedodd.
"Rydyn ni angen llong sy'n gallu aros ar y môr am ddyddiau a chael y system sonar ddiweddaraf. Mae gan Gymru un... y Tywysog Madog ydi ei enw ac mae'r llong yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor gyda phobl sy'n gwybod sut i'w ddefnyddio."
"Mewn 40 neu 50 mlynedd bydd y gweddillion yma'n ddarnau ar wely'r môr a bydd dim modd eu hadnabod nhw - maen nhw'n erydu nawr, mae amser yn brin."
Yn ôl Dr Whitewright mae angen claddu'r gweddillion mewn tywod er mwyn eu gwarchod nhw.
"Byddai hynny'n golygu na fyddan nhw'n erydu, na fyddan nhw'n cael eu bwyta ac na fyddan nhw'n cael eu torri."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd29 Mehefin
- Cyhoeddwyd12 Awst 2021