Arestio dau mewn cysylltiad â marwolaeth babi wedi ymosodiad ci

Swyddogion heddlu yn Crossway, Rogiet fore LlunFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu wedi cadarnhau mai XL Bully oedd y ci yn yr achos hwn

  • Cyhoeddwyd

Mae dau o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o fod yn gyfrifol am gi peryglus allan o reolaeth yn dilyn marwolaeth babi naw mis oed yn Sir Fynwy.

Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad ar stryd Crossway ym mhentref Rogiet ger Cil-y-coed nos Sul, 2 Tachwedd yn dilyn adroddiadau o ymosodiad gan gi.

Daeth cadarnhad yn ddiweddarach bod bachgen naw mis oed wedi marw yn y fan a'r lle.

Mae'r ddau - dyn yn ei 30au a menyw yn ei hugeiniau - hefyd wedi eu harestio ar amheuaeth o esgeuluso plentyn.

Maen nhw wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau yn parhau.

Mae'r heddlu wedi cadarnhau mai XL Bully oedd y ci yn yr achos hwn a'i fod wedi ei ddifa gan filfeddyg wedi'r digwyddiad.

Fe wnaeth Swyddog Deddfwriaeth Cŵn gadarnhau'r brîd ddydd Mercher, gan ddweud ei fod yn gi chwech oed ac wedi derbyn tystysgrif eithriad yn 2024.

Gan fod y math yma o gŵn wedi cael eu gwahardd yng Nghymru a Lloegr, mae'n rhaid cael tystysgrif arbennig i fod yn berchen arnyn nhw.

Roedd y ci dan sylw hefyd wedi cael ei gofrestru gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y llywodraeth.

'Annog pobl i beidio â rhannu sïon'

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Vicki Townsend: "Mae'r unigolion yma wedi cael eu harestio fel rhan o ymdrech ehangach i ddeall yr hyn arweiniodd at y farwolaeth.

"Mae ein hymholiadau yn parhau, ac o ganlyniad fe fydd yna bresenoldeb heddlu amlwg yn yr ardal.

"Rydw i'n deall bod diddordeb mawr yn yr achos yma o fewn ein cymunedau, ond mae hwn bellach yn ymchwiliad troseddol byw.

"Mae'n hanfodol bod pobl yn meddwl am eu sylwadau ar-lein, yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol, a'r ffordd y gallai'r sylwadau hynny effeithio ar y broses gyfiawnder.

"Rydyn ni'n annog pobl i beidio â rhannu unrhyw sïon, ac i gysylltu â ni os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am y ci dan sylw."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig