Tristwch wrth i gostau to orfodi capel sy'n 'rhy fawr' i gau

Y capel ar Stryd Maengwyn
Disgrifiad o’r llun,

Adeilad Capel Maengwyn ym Machynlleth ydy’r capel Cymraeg olaf yn y dref

  • Cyhoeddwyd

Bydd aelodau Capel Maengwyn ym Machynlleth yn gorfod symud i leoliad newydd cyn hir yn sgil costau eithriadol i ail-doi’r adeilad.

Mae yswirio’r adeilad i gyd yn costio £6,000 y flwyddyn i’r capel, ond mae’r cwmni yswirio wedi gwrthod yswirio’r to bellach.

Er bod gweddill yr adeilad mewn cyflwr da, gyda system wresogi gweddol newydd, y to yw’r broblem.

Yn ôl John Price, un o’r blaenoriaid: “Mae’r to llechi Cymreig yn edrych yn dda ond mae’r hoelion sy’n ei ddal wedi rhydu ac mae angen ail-doi.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae John Price yn dweud bod yn rhaid bod yn ymarferol am y sefyllfa

“Bydde’n rhaid codi sgaffaldiau reit rownd fyddai’n costio ffortiwn, tynnu’r slats i ffwrdd, gwella’r coed, newid yr hoelion ac yna ail-doi," yn ôl Mr Price.

“Ni 'di cael ar ddeall byddai’n costio’n agos at £100,000.

“Gan nad oes yswiriant i’r to, petai llechen yn cwympo ac yn brifo rhywun, ni fel blaenoriaid fyddai’n gyfrifol felly 'sgennon ni ddim dewis ond symud i leoliad arall.

“Mae’n dristwch i ni gyd y bydd yn rhaid i’r adeilad gau, ond 'da ni gyd yn sylweddoli bod yn rhaid gwneud rhywbeth, bod yn rhaid bod yn ymarferol.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r to angen ei ail-doi yn sgil hoelion yn rhydu ac mae’r cwmni yswirio wedi gwrthod yswirio’r to bellach

Mae’r capel, gafodd ei adeiladu yn 1867, yn dal 700 o bobl ac erbyn hyn yn adeilad rhestredig gradd 2.

Mae gan y capel 34 o aelodau a 37 o gyfeillion yr achos, ac mae gwasanaethau’n cael eu cynnal bob Sul.

Bydd y gwasanaethau hynny’n parhau tan y byddan nhw’n dod o hyd i leoliad newydd.

Ychwanegodd John Price: “'Da ni’n edrych ar leoliadau eraill rŵan, a bydd y dewisiadau yn mynd o flaen yr aelodau cyn hir ac yna fe fyddwn ni’n 'neud penderfyniad mewn rhyw bythefnos.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r capel yn dal 700 o bobl ac mae festri hefyd o dan yr adeilad.

Yn ôl y Parch Nan Powell Davies, Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru "mae manteision i adeiladau, ond gallant hefyd fod yn faich".

"Nid ydynt oll yn addas i’r diben, ac yr ydym yn awr yn gwario mwy ar adeiladau nag ar Weinidogaeth.

"Fel enwad, mae angen i ni helpu aelodau i weld bod cynllunio cyn cyrraedd pwynt di-droi-nôl yn gadarnhaol, yn gwneud gwell defnydd o adnoddau, ac yn caniatáu i aelodau barhau i addoli gyda’i gilydd."

Mae gan yr Eglwys Bresbyteraidd gynllun gweithredu cenhadol sy'n gofyn i gapeli ystyried eu hadnoddau ariannol ac adeiladu ac felly datblygu partneriaethau gydag enwadau tebyg i rannu adnoddau.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd gwasanaethau'r capel yn parhau bob bore Sul tan y byddan nhw’n dod o hyd i leoliad newydd

Ond mae Mr Price yn cydnabod fod yr adeilad yn rhy fawr iddyn nhw erbyn hyn beth bynnag.

“Rhentu fyddwn ni yn y tymor byr, ond y gobaith ydy gallu gwerthu’r capel a phrynu rhywle mwy addas i’r pwrpas," meddai.

“Y gwir amdani ydy bod yr adeilad yn rhy fawr i’n anghenion ni.”

Pryder arall ydy’r ffaith bod cyfartaledd oedran yr aelodau yn eu 60au.

“Mae pawb yn mynd i oed, a does dim digon o bobl ifanc i fod yn weithgar a rhoi hwb i bethe, dyna’r drwg."

Pynciau cysylltiedig