40% yn llai o aelodau mewn capeli ond 'gobaith newydd'

Joseff EdwardsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Joseff Edwards yn arweinydd prosiect newydd Craig Blaenau ym Mlaenau Ffestiniog

  • Cyhoeddwyd

Mae 40% yn llai o aelodau mewn capeli na'r hyn oedd ddeg mlynedd yn ôl ond wrth i'r Eglwys Bresbyteraidd a'r Annibynwyr gyfarfod yr wythnos hon dywed eu harweinwyr bod yna nifer o straeon gobeithiol.

14,000 o aelodau yr un sydd gan y Presbyteriaid ac eglwysi Undeb yr Annibynwyr bellach ac mae'r naill enwad a’r llall yn colli tua 4% o’u haelodau bob blwyddyn.

Erbyn hyn mae mwy na 50% o’r aelodau dros 70 oed.

Ffynhonnell y llun, Craig Blaenau
Disgrifiad o’r llun,

Mae 60 o blant yn mynd i Ysgol Sul newydd Blaenau Ffestiniog

Ond er y ffigyrau "rwy’n wirioneddol gyffrous", meddai Llywydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru y Parchedig Aneurin Owen.

"Mae gennym ni straeon i’w hadrodd am brosiectau beiddgar ac uchelgeisiol yng Nghymru a thu hwnt. Nid amser i grebachu’n ôl yw hwn ond i ddangos ein hyder yn Nuw pob gobaith."

Bydd y ddwy gynhadledd yn trafod arloesi a buddsoddi ar gyfer y dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

"Rhaid ymwrthod ag anobaith,” meddai Jeff Williams, Llywydd Undeb yr Annibynwyr

O ran yr Annibynwyr yr hyn sy'n digwydd yw bod eglwysi yn dod at yr Undeb i ofyn am gymorth ac mae grantiau ar gael i brosiectau gwahanol drwy gynllun Arloesi a Buddsoddi.

"Rhaid ymwrthod ag anobaith,” meddai Jeff Williams, Llywydd Undeb yr Annibynwyr.

“Adfywio’r eglwys ydi un bwriad y gronfa Arloesi a Buddsoddi ond nid yn yr hen fodel, yn hytrach ymestyn allan i’r gymuned, gweld angen y gymuned ac ymateb, nid er mwyn cynnal y strwythurau neu’r adeiladau na chynnal y weinidogaeth draddodiadol ond yn hytrach mentro i fyw llawnder yr efengyl.

"Yn Sanclêr, er enghraifft, mae Tŷ Croeso wedi'i sefydlu yn Bethlehem Pwll Trap ac y mae Annalyn Davies fel swyddog cymunedol yn arwain tîm o bobl sydd yn ceisio rhoi mynegiant i’w ffydd drwy wasanaethu’r gymuned a chydweithio gyda Lloches Cymorth i Fenywod ac elusen Plant Dewi a chymunedau eraill."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth capel Bethani, Rhydaman gau yn 2023

Nos Lun fe glywodd Cymanfa Gyffredinol y Presbyteriaid am rai o'u prosiectau arloesol nhw a hynny gan Joseff Edwards, arweinydd prosiect newydd Craig Blaenau ym Mlaenau Ffestiniog.

Ers ymgartrefu yn yr ardal ddwy flynedd yn ôl, mae Joseff a’i wraig Lydia gyda chefnogaeth rhai eraill, wedi ffurfio cymuned ffydd sy’n cynnwys plant, pobl ifanc a theuluoedd o’r dref.

Gan gyfarfod yng nghanolfan gymunedol Blaenau Ffestiniog mae’r teulu bach wedi dechrau'r ysgol Sul gyntaf yn y dref ers degawdau, gan ddenu dros 60 o blant a phobl ifanc.

Ffynhonnell y llun, Parc Arts

Mae prosiect arall sy'n ennill momentwm wedi'i leoli ym Mhontypridd.

Mae Parc Arts yn un o brosiectau Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac yn creu canolbwynt creadigol a pherfformio ar gyfer y cymoedd ac ar hyn o bryd maen nhw'n adnewyddu hen Eglwys Bresbyteraidd y Parc yn Nhrefforest fel lleoliad cyngerdd.

Hollti barn?

Mae arloesi, yn enwedig prosiect fel Craig, Blaenau Ffestiniog yn gallu creu tensiynau.

Ai adfywio’r eglwysi sydd yn bod eisoes neu ffurfio cymunedau eglwysig newydd ydy’r bwriad?

Mae’r Annibynwyr yn wynebu yr un cwestiwn gan fod prosiect Arloesi a Buddsoddi eglwys Ebeneser, Caerdydd yn ceisio sefydlu cymuned eglwysig Yr Angor yn Grangetown.

Y mae Craig a’r Angor yn rhan o symudiad lled anffurfiol sydd am ffurfio cant o eglwysi newydd mewn 10 mlynedd.

Mae’r syniad yn gallu hollti barn, rhai yn ei weld fel bwriad cyffrous a mentrus ac eraill yn ei weld fel rhywbeth sydd yn gwneud adfywio eglwysi traddodiadol yn anos. Ond trafod barn wahanol am dwf yr eglwys sy'n digwydd nid trafod dirywiad.

Yn ôl Aneurin Owen: “Ers Cymanfa 2023, mae naw unigolyn wedi ymateb i alwad yr Arglwydd i ddod i adeiladu ar y sylfeini newydd sydd eisoes wedi’u gosod.

"Mae chwe swydd newydd wedi’u creu - y rhan fwyaf ohonynt o dan gynllun gweithwyr arloesi.

"Byddwn yn parhau i feithrin hinsawdd o ddeialog agored a chydweithrediad agos rhyngom ni i gyd. Rydym yn cydnabod yr angen i gefnogi ac amddiffyn ein gweinidogaeth arloesol wrth iddi ddechrau tyfu a datblygu”.

Ffynhonnell y llun, Eglwys Bresbyteraidd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Côr Synod Mizoram, a welir yma o flaen y Senedd, yn diddanu'r dorf yn Aberystwyth

Eleni bydd perfformiadau gan grwpiau rhyngwladol o Madagascar a Mizoram yn y Gymanfa Gyffredinol. Mae gan Gymru gysylltiadau agos â'r ddwy wlad wedi i genhadon o Gymru fod yno.

‘Mae sŵn llawenydd yn ein plith yn rhywbeth i’w gofleidio,” meddai Aneurin Owen,

“Mae'n heintus, ac yn gallu codi'n calonnau, ond rhaid i ni adnabod sŵn crio sy'n gymysg ag ef.

"Ein gweddi yw, hyd yn oed yn ein hiraeth am ogoniant y gorffennol, y bydd sŵn ein wylofain yn cael troi i mewn i sŵn llawenydd wrth weld yr hyn y mae'r Arglwydd yn ei wneud yn ein dydd.”

Mae Cymanfa Gyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn cyfarfod yn Aberystwyth 8 a 9 Gorffennaf a bydd cyfarfodydd blynyddol Undeb yr Annibynwyr yn cael eu cynnal yn Nhrefforest 11-13 Gorffennaf.

Pynciau cysylltiedig