Cynghorydd yn cyhuddo cabinet o anwybyddu rhybudd am gapasiti ysgol

Aled Davies
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Aled Davies mae wedi ei "synnu" gyda phenderfyniad y cabinet i fwrw ymlaen gyda chau Ysgol Bro Cynllaith

  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd grŵp y Ceidwadwyr ar Gyngor Powys wedi cyhuddo'r cabinet o anwybyddu rhybuddion ynglŷn â chau ysgol leiaf y sir.

Dywedodd Aled Davies fod y penderfyniad i gau Ysgol Bro Cynllaith wedi ei wneud gyda'r sicrwydd y byddai modd trosglwyddo'r disgyblion i ysgolion cyfagos.

Ond mae'r cynghorydd a rhieni yn honni nawr nad oes capasiti digonol ar gyfer plant ychwanegol yn Ysgol Llanrhaeadr ym Mochnant, gan alw ar y cabinet i ailfeddwl.

Yn ôl Cyngor Powys, bydd lleoedd yn cael eu rhoi i bob disgybl o Ysgol Bro Cynllaith sy'n dymuno symud i Ysgol Llanrhaeadr.

Ysgol Bro CynllaithFfynhonnell y llun, LDRS
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Ysgol Bro Cynllaith yn Llansilin 25 o ddisgyblion

Ddydd Mawrth, fe benderfynodd cynghorwyr sir Powys bleidleisio'n unfrydol i gau Ysgol Bro Cynllaith yn Llansilin.

Hon yw ysgol leiaf Powys, gyda 25 o blant ar y gofrestr. Bydd yr ysgol yn cau ddiwedd Awst.

Cafodd y penderfyniad ei wneud gan aelodau'r cabinet, er gwaethaf 20 o wrthwynebiadau i'r cynnig i gau'r ysgol.

Roedd capasiti Ysgol Llanrhaeadr ym Mochnant ymysg rhai o'r pryderon yn adroddiad y gwrthwynebiadau, ynghyd â'r ffaith y byddai rhai plant yn gadael Powys ac yn mynd i ysgolion cynradd dros y ffin.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Dr Richard Jones fod aelodau'r cabinet wedi ystyried yr adroddiad a phenderfynu bwrw ymlaen gyda'r cynnig i gau'r ysgol.

Hynny, meddai, oedd yr "ymateb mwyaf priodol i'r rhesymau a nodwyd dros lunio'r cynnig".

Dywedodd y byddai disgyblion o Bowys yn symud i'w hysgolion eraill agosaf ym Mhowys, gan nodi y byddai'r disgyblion yn cael eu trosglwyddo i "ysgol fwy, a fyddai'n darparu gwell cyfleoedd i rannu arbenigedd ac adnoddau staff".

Nododd y llythyr hefyd yn benodol fod "digon o leoedd ysgol yn yr ardal i ddarparu ar gyfer niferoedd disgyblion presennol a rhagamcanedig yr ysgol" ynghyd â "lleoedd eraill ar gael i ddisgyblion sy'n mynychu Ysgol Bro Cynllaith ar hyn o bryd o fewn pellter rhesymol i'w cartrefi".

Ysgol Bro CynllaithFfynhonnell y llun, LDRS
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ysgol Bro Cynllaith, y leiaf ym Mhowys, yn cau ddiwedd Awst

Yn ôl y cynghorydd lleol Aled Davies, mae wedi ei "synnu" gyda phenderfyniad y cabinet i fwrw ymlaen gyda'r cau, er gwaetha'r rhybuddion am gapasiti yn Ysgol Llanrhaeadr ym Mochnant.

"Roedd swyddogion yn dweud: 'Na, dydy o ddim yn broblem, byddwn ni'n cael y plant i mewn'," meddai.

"Ac wedyn mae swyddogion yn dod yma ddoe a dweud wrth rieni: 'O na, does yna ddim lle yn y dosbarth yna i'ch plentyn chi'.

"Maen nhw wedi mynd i'r gwely neithiwr yn meddwl: 'Pa ysgol ydw i'n mynd i fynd iddo ym mis Medi?'

"Dim ond 25 diwrnod sydd tan ddiwedd y tymor," meddai.

Mae'n dweud fod aelodau'r cabinet wedi cael digon o gyfleoedd i ystyried y problemau posib.

"Mae'r broses yma wedi cymryd dros flwyddyn ac ar bob stage, trwy'r broses, scrutiny ac ymgynghoriad gyda'r bobl leol, maen nhw wedi gwneud yn glir iawn bod yna broblem gyda chapasiti mewn rhai dosbarthiadau yn Llanrhaeadr."

Ychwanegodd fod y cyngor yn "gwthio pobl a rhannu'r gymuned", wrth i rai feddwl am opsiynau ysgolion yn Sir Amwythig, Wrecsam a Phowys.

"'Da ni wedi cael gymaint o negeseuon wrth rieni yn yr ysgol 'ma wedi gwylltio, wedi gwylltio'n llwyr bo' nhw'n gallu gwneud y fath beth yma yn Llansilin," meddai.

Jack Hunter
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhaid i blant Jack Hunter "fynd draw i Loegr a dysgu yn Saesneg", meddai

Er mai ysgol cyfrwng Saesneg yw Ysgol Llanrhaeadr ym Mochnant, mae gofid y byddai teithio dros y ffin yn golygu colli unrhyw gyswllt â'r Gymraeg.

Mae dau o blant Jack Hunter yn ddisgyblion yn Ysgol Bro Cynllaith fyddai'n trosglwyddo i Ysgol Llanrhaeadr ym Mochnant.

"Dwi eisiau i fy mhlant aros yma yng Nghymru, dysgu Cymraeg yn y pentref yma ond mae'n edrych fel does 'na ddim llefydd yn yr ysgol, felly efallai fydd rhaid iddyn nhw fynd draw i Loegr a dysgu yn Saesneg," meddai.

Mae'n poeni am y teithio hefyd fydd yn wynebu'r plant i gyrraedd ysgol arall.

Galw ar aelodau i ymddiswyddo

Mewn e-bost beirniadol at aelodau'r cabinet, mae'r Cynghorydd Aled Davies yn eu cyhuddo o fwrw ymlaen gyda chau'r ysgol er bod pryderon wedi cael eu codi - llythyr mae'n honni nad yw'n difaru ei anfon.

Mae'n dweud nad yw'r cabinet wedi ymateb i'w ohebiaeth, gan ddweud y dylai'r aelodau "ymddiswyddo" a "mynd allan o'r lle", os nad ydyn nhw'n barod i wneud eu gwaith.

Dywedodd hefyd mai hanner y cabinet yn unig oedd yn y cyfarfod lle gwnaed y penderfyniad i gau'r ysgol, ac nad oedd arweinydd y cyngor yn bresennol.

Yn ôl Cyngor Powys, bydd lleoedd yn cael eu dyrannu i bob disgybl o Ysgol Bro Cynllaith sy'n dymuno trosglwyddo i Ysgol Llanrhaeadr.

Gall rhieni nad ydynt am i'w plentyn/plant drosglwyddo i Ysgol Llanrhaeadr wneud cais am le mewn unrhyw ysgol arall.

Pynciau cysylltiedig