Tudur Owen a'i ddrama lwyfan gyntaf erioed

- Cyhoeddwyd
Mae'r digrifwr Tudur Owen ar fin mynd ar daith gyda'i ddrama lwyfan gyntaf erioed, Huw Fyw.
Yn ôl Tudur, pan gafodd alwad ffôn gan Steffan Donnelly, cyfarwyddwr artistig Theatr Cymru yn rhoi cyfle iddo ddatblygu syniad, fe roddodd "ddawns bach o hapusrwydd yn y gegin" gan fod ysgrifennu drama wedi bod yn freuddwyd iddo erioed.
Dyma'r ddrama sydd wedi gwerthu gyflymaf i Theatr Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru, ac mae hynny'n destun balchder i Tudur:
"Dwi'n gobeithio y gwneith y gynulleidfa fwynhau, mi fydd o'n codi gwên a mynd â ni i lefydd tywyll," meddai wrth Ffion Dafis tra'n ymarfer ar gyfer y daith sy'n cychwyn yn Galeri, Caernarfon ar 1 Mai.
Datblygu cymeriad Huw Fyw
80 mlynedd ers i'r Ail Ryfel Byd ddod i ben, mae Huw Fyw yn dilyn hanes hen filwr blin sy'n profi tro lwcus sy'n newid ei fywyd ac yn ei orfodi i wynebu ei orffennol.
Ac yn actio cymeriad Huw Fyw mae awdur y ddrama, Tudur Owen:
"Dwi'n gyfarwydd â nerfau, dwi'n gyfarwydd â nerfau yn cyrraedd 10. Ond mae nerfau yn ddefnyddiol," meddai wrth edrych ymlaen at chwarae rhan Huw ochr yn ochr â'r actorion Owen Alun, Dafydd Emyr a Lois Meleri Jones.
"Os fedra i ffrwyno'r nerfau dwi'n gwybod wna i fwynhau o wedyn – mae o'n ffrind a gelyn. Yn wahanol i flynyddoedd yn ôl pan o'n i'n dechrau neud stand-yp do'n i ddim yn gwbod be i neud pan oedd fy nghoes i'n crynu a'n meddwl i yn mynd i bob math o lefydd," eglurodd.

Tudur yn chwarae Huw Fyw yn un o'r ymarferion
Er mai drama newydd ydy Huw Fyw mae'r cymeriad wedi bod yn ffrwtian ym meddwl Tudur ers rhai blynyddoedd ac mae'n falch ei fod wedi cael y cyfle i'w ddatblygu o'r diwedd.
Meddai: "Mae syniadau'n datblygu o hadyn bach iawn. Wnes i wneud drama i Radio 4 o'r enw United Nations of Anglesey ac yn hwnnw oedd yna ddynas o'r enw Esther Huw Farwodd achos oedd ei gŵr hi wedi cael ei ladd yn y rhyfal, ac achos Huw Farwodd mae hynny'n golygu bod yna Huw Fyw wedi bodoli felly wnes i ddechrau gofyn y cwestiwn pwy ydi Huw Fyw."
Dechreuodd Tudur ddefnyddio cymeriad Huw Fyw fel arf yn ei sioeau stand-yp yng ngŵyl Fringe yng Nghaeredin fel mae'n egluro:
"Yng Nghaeredin mae'n rhaid i chdi gael mwy na jest jôcs – rhaid i chdi gael edefyn o stori, hook i dynnu pobl i mewn ac i hongian dy sioe arno fo.
"Wnes i dynnu Huw Fyw allan o'r drôr a'i 'neud o'n gymeriad achos mae o wastad yn handi os ti'n neud comedi i greu cymeriad fel bod hwnnw'n gallu bod yn gocyn hitio achos ti ddim yn pynsho neb sy'n bodoli wedyn – ti ddim yn mynd i frifo neb."
Gweithio gyda Theatr Cymru
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Tudur wedi gweithio'n agos gyda Steffan Donnelly yn datblygu'r cymeriad, proses mae wedi ei fwynhau:
"Mae'n broses fwy cydweithredol na sioe un dyn. Pan dwi'n neud sioe stand-yp mae'n anodd iawn gweithio efo pobl eraill achos mae o mor bersonol. Y golygwyr sgript yn y sefyllfa yna ydi'r gynulleidfa, nhw sy'n penderfynu os di rwbath yn ddoniol ai peidio.
"Pan dwi'n gweithio efo pobl talentog fel sydd yna yn Theatr Cymru dwi'n sylweddoli 'o dyna pryd mae'r sbarcs yn fflio', pan ti'n cael rhannu stafall efo bobl mor dalentog, mae o mor gyffrous achos maen nhw'n ychwaengu at betha'.
"A dyna sydd wedi digwydd ers y drafft cynta. Dwi'n meddwl bod ni ar tua'r 20fed drafft erbyn 'wan a mae hwnnw yn destun i faint o waith a gofal sydd ganddyn nhw."

Ymarfer golgyfa gyda Lois Meleri Jones, aelod arall o'r cast
Ond mae'n cyfaddef nad yw'r "gwaith caib a rhaw" o ail-ddrafftio wastad wedi bod yn hawdd:
"Dwi'n ddiog a faswn i wedi bod digon bodlon ar ôl y drafft cynta', o'n i'n rhyw hanner gobeithio y basa nhw'n deud 'mae hwn yn wych Tudur geith o fynd ar y llwyfan fory,' ond mor fforensig ydy ei gwaith nhw ar olygu sgriptia a isio'r gorau, mae hwnnw wedi bod yn addysg."
Cyn gweithio fel digrifwr, sgwennwr a chyflwynydd bu Tudur yn gweithio fel mecanic, contractiwr ffensio a gyrrwr lorri. Roedd yn 30 cyn camu ar lwyfan i neud stand-yp ac mae'n adlewyrchu ar hynny, a'i benderfyniad i droi ei law at heriau newydd o hyd gan gynnwys ysgrifennu drama:
"Mae 30 yn eitha' hwyr dyddia yma, mae gen ti gomedïwyr stand-yp yn cael eu henwebu am betha' mawr yn eu hugeiniau cynnar a dwi'n meddwl fod o wbath i neud efo hyder a phrofiad bywyd a dod i 'nabod dy hun, dy wendida, dy gryfdera'.
"Dwi wedi mwynhau bob dim dwi wedi neud a petawn i wedi trio ysgrifennu drama 10-15 mlynedd yn ôl dwi ddim yn meddwl y baswn i wedi medru. Dwi wedi 'sgwennu lot i deledu a radio ond mae deud stori ar lwyfan yn her hollol wahanol."

Ymarfer gyda'r cyfarwyddwr artistig Steffan Donnelly
Eisiau i'r gynulleidfa 'fwynhau'r stori'
Yn ôl Tudur mae Huw Fyw "yn un cawdel emosiynol" sy'n chwarae efo'r presennol a'r gorffennol.
"Mae hi am fod yn wbath gwahanol i'r rhai sy'n adnabod fy ngwaith i fel comedïwr, gobeithio geith bobl sypreis ond yn y bôn mae'n syml, stori Huw Fyw ydi hi a dwi wedi trio rhoi nifer o haenau sy'n cydweithio efo'i gilydd, 'dan i'n mynd yn ôl mewn amsar i gyfnod yr ail ryfel byd ond mae'r rhan fwya ohoni wedi ei lleoli yn y 90au.
"Mi oedd hwnnw yn gyfnod lle oedd yna newidiadau mawr i gymunedau cefn gwlad felly 'dan i'n sôn am hynny a'r pwysau sydd ar ein cymunedau.
"Dwi'n gobeithio fydd pobl yn dod o'r ddrama a meddwl 'o wnes i fwynhau y stori yna'. Gawn nhw ddadansoddi fel maen nhw isio a ffeindio negeseuon ond yr hyn 'swn i'n licio ydi bod nhw jest wedi mwynhau y stori. Fasa hynna yn rhoi pleser mawr i mi."
A oes yna ddrama arall ar y gweill gan Tudur?
"Faswn i'n licio neud mwy. Dwi'n gobeithio neith o roi tanwydd i mi ddeud mwy o storis Cymraeg i gynulleidfaoedd Cymraeg a Chymreig."
Gwrandewch ar raglen Ffion Dafis i glywed rhagor
Ymweld ag ystafell ymarfer ‘Huw Fyw’, sef cynhyrchiad diweddaraf Theatr Cymru
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd20 Mai 2024
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl