Cymeriad Lily Beau yn 'chwa o awyr iach' yng Nghwmderi

Lily BeauFfynhonnell y llun, S4C
  • Cyhoeddwyd

Fel gwyliwr selog o Pobol y Cwm, mae Lily Beau wedi gwireddu breuddwyd drwy ymuno gyda chast Cwmderi.

Mae'r actores ifanc o Gaerdydd newydd gychwyn saethu ei golygfeydd cyntaf ac yn ymwybodol iawn o'r lle arbennig sy' gan yr opera sebon yng nghalonnau'r gynulleidfa yng Nghymru.

Meddai: "Dwi mor ecsited. Mae'n fraint i fod yn ran o rhywbeth sy' mor bwysig yn diwydiant teledu Cymru ac i ddod mewn fel cymeriad newydd. Mae bod yn yr un stafell a'r cast yn fraint.

"Dwi wedi gweld lot o ffrindiau yn ymuno â'r cast yn y gorffennol ac wedi neud job mor anhygoel ac wrth gwrs mae'n nghariad i (Dyfan Rees, sy'n chwarae rhan Iolo) wedi bod yn y rhaglen am 16 mlynedd so dwi'n hen gyfarwydd â'r rhaglen. Mae ymuno yn wych."

Mae manylion ei chymeriad yn gyfrinach ar hyn o bryd ond mae Lily'n cydnabod: "Mae'n gymeriad llawn bywyd ac yn chwa o awyr iach yn y pentre' ac yn gwylltio ambell i un."

Ac mae Lily'n ymwybodol o ba mor angerddol yw gwylwyr Pobol y Cwm: "Dwi mor gyffrous ond hollol terrified ar yr un pryd. Dwi'n poeni am y swydd mewn ffordd dda a dwi'n gweld y ffordd mae'r ffans yn ymateb.

"Mae'r ffans wir yn 'nabod y cymeriadau – maen nhw'n angerddol iawn ac maen nhw'n ffyddlon iawn i'r cymeriadau. Dwi jest yn gobeithio allai gynnig rhyw fath o adloniant.

"Sym rhaid i bawb garu'r cymeriad ond os maen nhw'n teimlo rhywbeth, da neu drwg..."

Croeso

Mae Lily wedi cael croeso cynnes ar y set, meddai: "Mae rhai o'r cast dwi wedi dod i 'nabod a dod yn ffrindiau drwy Dyfan fy mhartner a dwi wedi gweithio gyda Bethan Ellis Owen o'r blaen a dwi'n ffan ohoni – mae mor dalentog. Pan dwi'n tyfu fyny hi yw pwy dwi moyn bod.

"Dwi'n edrych mlaen at chwarae gyda'r cast mwy a dod i adnabod pawb yn well. Dim ond glimpse dwi wedi cael hyd yn hyn ond mae'n adeg cyffrous."

Lily BeauFfynhonnell y llun, Lily Beau

Ysbrydoliaeth

Cychwynnodd Lily ei gyrfa fel cerddor yn hytrach nag actores ac mae'n dweud fod dysgu ei chrefft wrth actio'n hynod o werthfawr iddi: "Mae 'na actorion ar Pobol y Cwm, yn enwedig y menywod fel Nia Caron...mae'r cyfle i allu bod yn yr un ystafell, i wylio nhw a gweld sut maen nhw'n gweithio, i ddysgu a gweld sut maen nhw'n paratoi at bopeth.

"Fel actores weddol newydd dwi methu cymryd hynny yn ganiataol.

"Mae Cymru wedi bod mor garedig yn gadael i fi ddysgu ar y job."

Nid oedd Lily wedi astudio Drama fel TGAU yn Ysgol Plasmawr, Caerdydd ond mae'n ddiolchgar iawn am help ei hathro drama yn yr ysgol, sef Mr Lewis.

Meddai: "Mae wir wedi hybu hyder fi i fod yn ran o'r diwydiant."

Ers cychwyn fel actores, mae'n teimlo'n ffodus i gael rhannau mewn ffilmiau fel Y Sŵn a rhaglenni deledu fel Bariau ar S4C, lle mae wedi cael cyfleoedd i ddysgu a gwylio actorion eraill.

Ac nawr mae'n cael cyfle i gydweithio gyda'i phartner, fel mae'n sôn: "Mae Dyf 'di bod mor gefnogol o fi'n ymuno â'r rhaglen.

"Mae'r cast mor fawr dydyn ni ddim yn gweld ein gilydd gymaint. Gobeithio fydd mwy o olygfeydd gyda'n gilydd dros amser.

"Mae'r cwm yn fach ac mae pobl yn dod i adnabod ei gilydd so dwi'n gobeithio geith y cymeriadau gyfle i chwarae o gwmpas bach."

Lily yn perfformioFfynhonnell y llun, Iestyn Gwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Lily yn perfformio

Cerddoriaeth

Yn ogystal ag actio mae Lily yn recordio sengl newydd, Fix your expectations.

Meddai: "Byddai byth yn stopio neud cerddoriaeth – unrhyw gyfle sy' gyda fi i fynd i'r stiwdio neu ysgrifennu gyda rhywun byddai'n cymryd y cyfle."

Gyda gigiau yn dod i fyny dros yr haf, mae Lily yng nghanol ysgrifennu cerddoriaeth newydd, meddai: "Mae cael cyfle i eistedd wrth y piano a chwarae o gwmpas, mae'n gyfnod rili lyfli. Mwy o gerddoriaeth, mwy o gigs, dwi'n trio gwthio fe.

"Mae'r gân newydd am drio gweithio pethau allan tra o'n i'n gweithio yn Llundain ac yn colli gartref – ac yn teimlo bod fi methu byw lan at beth mae pobl ishe i fi fod so dwi'n mynd i fod yn fi fy hun."

Symudodd Lily i fyw yn Llundain i weithio i label gerddoriaeth Sony yn 16 oed gyda chefnogaeth ei rhieni. Bu'n byw yno ar ei phen ei hun i gychwyn ac arhosodd yno nes ei bod yn 21 oed.

Meddai: "Oedd e'n anhygoel ond yn galed.

"Mae bod yng Nghymru yn well (i fi) na Llundain, yn enwedig yn ddiweddar pan mae Cymru wedi agor drysau lan i fi chwarae ac i siarad am fod yn Gymraes ddu.

"Mae hwnna i gyd mor bwysig i fi a'r ffaith fod yr iaith yn cael ei glymu mewn i hwnna yn rial hyfryd. Dwi'n rial falch o fod yn Gymraes."

Pynciau cysylltiedig