Y cerddor o Buenos Aires a'i albwm o ganeuon Gruff Rhys... yn Sbaeneg

Pablo Traine, ar y dde, yn cyfarfod Gruff Rhys cyn gig y Cymro yn Buenos Aires yn 2012
- Cyhoeddwyd
Mae ‘na elfen o’r egsentric a dilyn ei fympwy creadigol wedi bod yn rhan o yrfa Gruff Rhys erioed. Does ryfedd felly ei fod wedi rhoi sêl bendith i albwm o’i ganeuon mewn Sbaeneg gan Archentwr sy’n astudio’r corn naturiol yn Yr Hâg.
Cerddor o Buenos Aires ydi Pablo Traine sydd wedi bod yn ffan o gerddoriaeth Gruff Rhys ers darllen adolygiad am un o albymau y Super Furry Animals yn yr Ariannin 20 mlynedd yn ôl.
Roedd yn 16 ar y pryd ac fe wnaeth arwain at ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth Cymraeg a Chymru.

Pablo ar gopa Pen y Fan - gyda'i het wlân Super Furry Animals yn ei gadw'n gynnes - yn ystod ymweliad â Chymru
Meddai Pablo, sy’n 36 erbyn hyn: “Y tro cyntaf i fi wrando ar y Super Furries oedd ar ôl darllen adolygiad o’u record Phantom Power mewn cylchgrawn tua 2003. Ro’n i’n hoffi’r disgrifiad ac yn meddwl bod o’r math o beth fyddwn i’n hoffi - ac roedd o.”
Fe ddechreuodd wrando ar fwy o gerddoriaeth SFA a bandiau Cymraeg eraill fel Gorky’s Zygotic Mynci, gan roi cynnig ar ddysgu ychydig o Gymraeg.
“Dwi’n caru’r caneuon yn y Gymraeg yn enwedig,” meddai. “Neshi ddysgu dipyn o’r lyrics, fel y darnau Cymraeg o Patio Song (gan Y Gorky’s) a’r Teimlad gan Datblygu - ond mae’n well gen i fersiwn Super Furries fy hun.
"Neshi ddysgu nhw a be’ maen nhw’n golygu a chael diddordeb mawr yng Nghymru.”
'Geiriau doniol iawn'
Doedd y Super Furries na’r grwpiau Cymraeg eraill ddim yn adnabyddus o gwbl yn yr Ariannin a doedd cael gafael ar recordiau ddim yn hawdd. Felly roedd rhaid disgwyl am fisoedd cyn gallu cael un wedi ei fewnforio - cyn i bethau ddod yn haws gyda cherddoriaeth ddigidol.
Meddai Pablo: “Mae Gruff yn gymeriad diddorol iawn. Dwi wrth fy modd efo’r ffordd mae o’n rhoi caneuon at ei gilydd, dwi’n caru ei gerddoriaeth, mae ei eiriau yn ddoniol iawn - o’r un gynta’ gan y Furries i’w record ddiweddara fel artist unigol.
“A dwi’n hoffi’r albymau cerddorfaol - efo haen ar ben haen. Bob tro mae rhywun yn gwrando mae rhywun yn dod ar draws rhywbeth newydd.”

Mae Gruff Rhys wedi ei enwebu ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2024 wedi iddo ryddhau ei albwm Sadness Sets Me Free yn gynharach eleni. Fo oedd enillydd y wobr yn 2011
Mae o wedi gweld y Super Furry Animals a Gruff Rhys droeon - gan gynnwys yng Nghaerdydd, yr Iseldiroedd ac yn Buenos Aires - lle wnaeth o gyfarfod ei arwr.
Erbyn hyn mae Pablo, sy’n dod o deulu o gerddorion, yn astudio’r corn naturiol - rhagflaenydd y corn Ffrengig - a’r trwmped Baróc yn Yr Hâg, yn yr Iseldiroedd.
Ac yn ei amser sbâr mae o wedi cyfieithu caneuon Gruff Rhys ar gyfer albwm newydd. Mae Mi laburo fue solo una ilusión yn cynnwys 11 o draciau, gan gynnwys Pwdin Ŵy, Bad Friend, Loan your Loneliness a Ni yw y Byd.

Clawr albwm newydd Pablo o ganeuon Gruff Rhys
Pablo sydd wedi cyfieithu’r caneuon i Sbaeneg - ond fersiwn gyda thafodiaith Ariannin Buenos Aires. Fo hefyd sy’n canu, chwarae’r gitâr, allweddau, offerynnau pres ac mae o wedi gwneud y gwaith recordio a chymysgu.
Fe gysylltodd gyda Gruff Rhys i ofyn caniatâd i’w ryddhau - gan egluro mai dim ond llond llaw o recordiau roedd am eu gwerthu a doedd o ddim yn bwriadu cadw unrhyw elw.
“Roedd o’n ei hoffi - neu o leia’ roedd o’n gefnogol iawn yn ei neges yn ôl,” meddai.
“Dwi’n cael hwyl yn cyfieithu’r lyrics a dwi wrth fy modd yn recordio a chware’r offerynnau a’u gosod mewn haenau.
“Dwi wedi trio eu cael i safon uchel. Dwn im os ydi o’n ddigon i fod fel record iawn mewn stiwdio ddrud, ond dwi wedi gwneud fy ngorau efo be' sgen i.”

Pablo gyda'r corn Ffrengig, yn cyfrannu i fersiwn Band Pres Llareggub o Ysbeidiau Heulog yr SFA, gafodd ei recordio yn ystod y cyfnod clo
Er nad oedd gan Pablo unrhyw gysylltiad gyda Chymru cyn dechrau gwrando ar gerddoriaeth yr SFA - a dim cysylltiad gyda’r Wladfa - mae wedi meithrin cysylltiadau dros y blynyddoedd.
Mae eisoes wedi ymweld â Chymru am 10 diwrnod ac wedi cymryd rhan mewn fideo gan Band Pres Llareggub yn ystod y cyfnod clo.

Clawr albwm cyntaf Folioscope - band Pablo yn yr Ariannin. Ydych chi'n adnabod y stryd?
Mae o hefyd mewn band yn yr Ariannin - a chlawr eu halbwm cyntaf ydi llun o stryd ym Mhwllheli.
Ac yntau newydd ddod yn dad am y tro cyntaf, does dim cynlluniau cadarn i’r dyfodol - ond mae eisiau dychwelyd i Gymru, recordio mwy a pherfformio yn fyw unwaith eto.
Ac mae un uchelgais yn un amlwg. “Fy mhrif freuddwyd fyddai bod ym mand Gruff,” meddai. “Ond dwi’n meddwl bod hynny ychydig bach yn annhebygol a finnau’n byw mewn gwlad arall!”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Medi 2024
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2024