Cwmni dronau yn prynu maes awyr yn Aberporth

Mae cwmni Tekever, sydd â safle yn Aberporth, wedi prynu'r maes awyr drws nesaf
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni sydd yn cynhyrchu dronau ar gyfer y rhyfel yn Wcráin wedi prynu maes awyr gorllewin Cymru yn Aberporth.
Mae gan Tekever safle yn Aberporth ers 2023, ac mae'r cwmni yn bwriadu datblygu'r maes awyr fel canolfan ar gyfer arloesi a phrofi awyrennau dibeilot.
Bydd y staff sydd yn gweithio yn y maes awyr ar hyn o bryd yn cael eu trosglwyddo i'r cwmni.
Yn ôl Tekever, mae'r pryniant yn rhan o gynllun buddsoddi gwerth £400m a'r bwriad yw troi y maes awyr yn "ganolfan o bwys" ar gyfer profi dronau.

Mae gan gwmni Tekever safle yn Aberporth ers 2023
Yn wreiddiol, roedd y maes awyr yn ganolfan i'r llu awyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd a than yn ddiweddar bu'n eiddo i ddyn busnes o'r enw Ray Mann. Bu farw Mr Mann yn 2023.
Cafodd hyd y llain lanio yn y maes awyr ei ymestyn yn 2008 i dros 1,200 o fetrau.
Tan yn ddiweddar, cafodd cynllun dadleuol byddin Prydain, Watchkeeper ei brofi yno.
Mae'r cynllun wedi dod i ben erbyn hyn.
Fe syrthiodd un o ddronau Watchkeeper y fyddin o'r awyr ger y safle ym mis Mehefin 2018.
Ers 2023, mae cwmni Tekever wedi bod yn profi a datblygu drôn AR3 o'r maes awyr yn Aberporth sydd yn medru hedfan am hyd at 16 awr.

Drôn AR3 Tekever ar fin cael ei brofi yn Aberporth
Yn ôl y cwmni mae prynu'r maes awyr yn "garreg filltir" yn eu cynllun buddsoddi gwerth £400m ar gyfer y Deyrnas Unedig er mwyn darparu technoleg sydd wedi ei seilio ar ddeallusrwydd artiffisial ar gyfer lluoedd Prydain a NATO.
Mae ehangu cyfleusterau profi dronau yn rhan o'r cynllun buddsoddi yn ôl Tekever, ac mae'r ardal o gwmpas Aberporth wedi ei dynodi yn "ofod awyr neilltuedig" er mwyn arbrofi.
Fe fydd y safle ar gael i randdeiliaid llywodraeth Prydain, cynghreiriaid, ac yn creu swyddi a chyfle i "fusnesau a thalentau lleol i gyfrannu" at dechnoleg amddiffyn y genhedlaeth nesaf, yn ôl Tekever.

Ricardo Mendes yw Prif Weithredwr cwmni Tekever
Dywedodd prif weithredwr y cwmni, Ricardo Mendes bod ei safle yng ngorllewin Cymru yn "ganolog" i'w gwaith yn y Deyrnas Unedig ac ar gyfer twf y cwmni.
"Mae wedi caniatáu i ni gael mynediad at isadeiledd ardderchog a phobl arbennig.
"Wrth i wariant amddiffyn gynyddu, ac wrth i fygythiadau gynyddu, mae'r galw am y dechnoleg yn cynyddu.
"Rydym yn cynyddu ein buddsoddiad ac yn symud ymlaen."
Cafodd y buddsoddiad ei groesawu gan Lywodraeth Cymru.
Yn ôl Rebecca Evans, yr Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer yr Economi, fe fydd penderfyniad Tekever i brynu'r maes awyr yn dod â "budd sylweddol i economi rhanbarthol gorllewin a chanolbarth Cymru".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai
- Cyhoeddwyd19 Medi 2024