Car wedi 'hollti yn ei hanner' pan gafodd tri dyn ifanc eu lladd
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed fod car wedi "hollti yn ei hanner" yn dilyn gwrthdrawiad gyda bws a laddodd tri o ddynion ifanc yn eu harddegau.
Bu farw Jesse Owen, 18, Callum Griffiths, 19, a Morgan Smith, 18, yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghoedelái, Rhondda Cynon Taf ar 11 Rhagfyr 2023.
Mewn cwest i farwolaethau’r tri, clywodd y crwner fod archwiliad post mortem wedi canfod bod Jesse Owen, y gyrrwr, dros y terfyn alcohol ar y pryd.
Ond daeth yr uwch grwner Graeme Hughes i'r casgliad ddydd Gwener mai gwrthdrawiad ffordd oedd achos marwolaeth y tri.
Yn gynharach yn y cwest ym Mhontypridd, dywedodd mai canfod sut y buodd y tri farw fyddai’r bwriad, nid gosod bai ar unrhyw un.
Dywedodd y crwner mai'r "cyflymder yr oedd y car yn teithio" oedd y prif ffactor wnaeth gyfrannu at y digwyddiad.
Dywedodd bod ffactorau eraill, fel y ffaith bod Jesse Owen dros y trothwy yfed, a bod y cerbyd yn orlawn, yn "annhebygol" o fod yn ffactor "pwysig" yn achosi’r gwrthdrawiad.
"Dyw hi ddim yn bosib dweud pryd a sut yn union y collodd Jesse reolaeth ar y cerbyd," meddai Mr Hughes.
Ond ychwanegodd fod y car yn teithio "o leiaf 50mya", ac mai dyna oedd yn esbonio sut i’r ddamwain gael "canlyniad mor gatastroffig".
Dywedodd y byddai’n ystyried Adroddiad Atal Marwolaethau’r Dyfodol, o ystyried ffactorau fel oedran y gyrrwr a’r amser yr oedd wedi bod yn gyrru, gan gydymdeimlo hefyd gyda theuluoedd y tri.
"Fel rhiant fy hun, alla'i ddim dychmygu’r galar rydych chi’n mynd drwyddo," meddai.
Beth ddigwyddodd?
Roedd y dynion ifanc wedi bod yn angladd tad un o’u ffrindiau, Ellis Williams, y prynhawn hwnnw, cyn mynd i ddwy dafarn.
Pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad, roedd chwech ohonyn nhw yn teithio yng nghar Audi du Jesse Owen, ag yntau’n gyrru.
Clywodd y cwest fod archwiliad post mortem gan Dr Stephen Leadbeater wedi canfod bod Jesse Owen wedi marw o anafiadau i’r pen a’r frest, bod Callum Griffiths wedi marw o ganlyniad i anaf i'r pen, a bod Morgan Smith wedi marw o anafiadau i’r wyneb a’r gwddf.
Ychwanegodd y patholegydd fod 113mg o alcohol wedi cael ei gofnodi yng ngwaed Jesse Owen, sydd dros y trothwy cyfreithlon o 80mg am bob 100ml o waed.
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2023
Dywedodd un tyst ei fod yn ei gar pan welodd yr Audi yn gyrru heibio “ar gyflymder”.
Er mai 20mya oedd terfyn cyflymder y ffordd honno, dywedodd y tyst ei fod yn amcangyfrif fod y car yn mynd “tua 50-60mya”, gan ychwanegu ei fod “erioed wedi gweld cerbyd yn teithio mor gyflym ar y ffordd honno”.
Dywedodd tyst arall, oedd yn cerdded ei gi, fod y car wedi “hedfan heibio”, a’i fod yn meddwl ei fod yn “teithio’n rhy gyflym”.
Roedd y stryd wedi ei goleuo, meddai, ac roedd hi’n sych ar y pryd er ei bod hi wedi bwrw glaw yn gynharach.
Clywodd y llys ddatganiad gan un ffrind i’r bechgyn, Hywel Jones, oedd wedi bod gyda nhw yn ystod y prynhawn yn y dafarn.
Dywedodd Mr Jones fod y dynion ifanc eraill wedi cael “chwech neu saith” diod, ond ei fod ond yn cofio gweld Jesse Owen yn cael un, gan ei fod yn gweithio’r diwrnod wedyn.
Clywodd y llys ddatganiad hefyd gan Ellis Williams, oedd yn eistedd yn sedd flaen y car pan ddigwyddodd y ddamwain.
Dywedodd Mr Williams mai “Jesse oedd y gyrrwr saffaf ohonom ni i gyd”, a’i fod wedi bod yn ei gar sawl gwaith.
Roedd Jesse Owen yn cludo’r bechgyn eraill i’r dafarn ond ddim yn bwriadu aros, meddai, ac roedd pedwar ohonyn nhw’n eistedd yn y cefn.
Cyhuddiadau troseddol pe bai wedi goroesi
Cafodd lluniau CCTV eu chwarae i’r llys yn dangos y car yn y munudau cyn y gwrthdrawiad, yn ogystal â'r gwrthdrawiad ei hun o fideo'r bws oedd yn rhan o'r digwyddiad.
Wrth roi tystiolaeth, dywedodd swyddog heddlu oedd yn rhan o’r ymchwiliad fod yr Audi wedi croesi’r llinell yng nghanol y ffordd cyn y gwrthdrawiad, a’i bod yn edrych fel ei fod wedi “colli rheolaeth” cyn taro’r bws.
Gofynnwyd i’r swyddog gan y crwner a fyddai Jesse Owen yn debygol o fod wedi wynebu cyhuddiadau troseddol petai wedi goroesi.
Dywedodd y swyddog y bydden nhw’n debygol o fod wedi ystyried dau gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, a dau gyhuddiad o achosi anafiadau difrifol drwy yrru’n beryglus – ond nid cyhuddiadau o ddynladdiad.
Ychwanegodd nad oedd y ddau fachgen a gafodd eu hanafu’n ddifrifol wedi gallu rhoi datganiad am beth ddigwyddodd y noson honno.
'Sylwadau cas yn dyfnhau creithiau'
Mewn datganiad ar ol casgliad y crwner brynhawn Gwener, dywedodd teulu Jesse Owen: “Roedd Jesse yn dod â gymaint o lawenydd, chwerthin a charedigrwydd i’n bywydau ni bob dydd.
“Mae'r hyn ddigwyddodd y noson honno wedi gadael craith yn ein calonnau - un fydd byth yn gwella.
“Rydym yn deall y boen, y dicter a'r dryswch y mae llawer yn ei deimlo, ond mae sylwadau cas yn gallu dyfnhau creithiau i bawb sydd yn galaru.
"Wrth i ni geisio dod i'r afael â'r golled yma, gadewch i ni ddewis caredigrwydd a chydymdeimlad."
Yn siarad y tu allan i'r llys, galwodd mam Callum Griffiths am newidiadau ar gyfer trwydded yrru gyrwyr newydd.
"Roedd Callum yn anrheg. Roedd yn fraint bod yn rieni iddo, ac rydym yn trysori'r 19 mlynedd y cawsom i wneud atgofion fel teulu.
"Rydyn ni'n ymgyrchu am fersiwn Brydeinig o drwydded yrru gyrwyr newydd.
"Yn anffodus, nid yw stori Callum a'i ffrindiau yn unigryw. Nid ydym am adael i Callum fod yn ystadegyn arall."
Meddai Amy Smith, modryb Morgan Smith: "Fydd geiriau fyth yn ddigon i ddisgrifio'r poen rydym yn ei wynebu, a faint rydym yn hiraethu am ein bachgen prydferth.
"Dwi'n gobeithio na fydd teulu arall yn gorfod mynd drwy hynny."