'Tawel ofnadwy' i fusnesau mewn tref ble mae gwaith ffordd 'hanfodol'

Dim ond ceir a cherbydau llai sydd yn medru mynd trwy ganol Trefdraeth, gan fod ffordd yr A487 wedi cau ger tafarn y Royal Oak
- Cyhoeddwyd
Mae busnesau yn Nhrefdraeth, Sir Benfro yn dweud eu bod nhw wedi cael eu taro'n ariannol gan effaith gwaith ffordd yng nghanol y dref.
Yn ôl un gweithiwr mewn siop yn y dref, mae hi wedi bod yn "dawel ofnadwy" ers i'r gwaith ar yr A487 ddechrau ar 6 Ionawr.
Mae cynghorydd sir y dref, Huw Murphy, yn galw am drefn newydd i ddigolledu busnesau os ydyn nhw yn cael eu heffeithio pan mae priffyrdd yn gorfod cau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n ystyried "pryderon pobl leol" a bod pob ymdrech yn cael ei wneud i "leddfu" effeithiau'r gwaith.
'Neb yn gallu parcio'
Ar hyn o bryd, dim ond ceir a cherbydau llai sy'n medru mynd trwy ganol Trefdraeth, gan fod ffordd yr A487 wedi cau ger tafarn y Royal Oak.
Mae cerbydau trwm yn wynebu taith ychwanegol o rhyw 35 milltir.
Mae'r asiantaeth cefnffordd yn gwneud "gwaith hanfodol" i adnewyddu cwlfert o dan y ffordd sydd yn cludo dŵr nant fechan.

Mae rhai arwyddion ffordd wedi bod yn gamarweiniol, awgrymodd Elin Phillips
Dywedodd Elin Phillips, sy'n gweithio yn siop Angel House, mai "bach iawn o bobl sydd yn dod mewn".
Ychwanegodd: "Ond dyw e ddim yn help bod arwyddion yn Aberteifi yn dweud bod Tudrath ar gau - mae hynny'n hollol anghywir.
"Fel chi'n medru gweld tu fas, maen nhw wedi rhoi barriers tu fas y siop fel 'sdim neb yn gallu parcio. Deliveries - maen nhw cael hi'n anodd i barcio."
'Geiriau cynnes ddim yn talu biliau'
Mae hi'n dweud bod atal parcio ar Heol y Farchnad, fel bod traffig yn medru llifo i'r ddau gyfeiriad dros dro, wedi bod yn ergyd i siopau.
"Mae pobl henach yn lico parcio fan'na, a mynd mewn i'r fferyllfa a'r [siop] Spar. Rhedeg lawr aton ni. Maen nhw ffili neud e," meddai.
Dywedodd ei bod hi'n "bryderus ofnadwy" sut wythnos fydd hanner tymor i fusnesau yn Nhrefdraeth ac y bydd "neb yn dod yma".

Does gan bobl ddim hawl parcio ar Heol y Farchnad am y tro
Mae ei phryder yn cael ei rannu gan y cynghorydd sir lleol, Huw Murphy, sydd wedi bod yn ymweld â busnesau gyda'r gwleidyddion lleol Paul Davies AS a Ben Lake AS.
Dywedodd Mr Murphy: "Mae rhai busnesau yn pryderu a allan nhw cadw fynd. Mae'n amser gwael o'r flwyddyn.
"Achos dyw pobl methu parcio yn agos at y siopau, dyw pobl ddim yn aros yn y dref. Mae'r signs o gwmpas y dref, am rhyw 10 milltir yn dweud bod y ffordd ar gau [a] maen nhw'n meddwl bod y dref ar gau."
Roedd yn dweud bod ymateb Llywodraeth Cymru wedi bod yn "siomedig" a bod angen ystyried newid y drefn fel bod modd i fusnesau gael iawndal os ydy priffordd fel yr A487 yn gorfod cau.
"S'dim ffordd o gael iawndal i broblemau fel hyn," meddai.
"Maen nhw'n dweud wrth bobl i edrych ar eu business insurance am interruption cover. Y gwir yw, dylse fod system iddyn nhw gael iawndal yn gyfan gwbl i Gymru.
"Dyw geiriau cynnes ddim yn talu biliau."

Arwydd yn Eglwyswrw bod yr A487 ar gau yn Nhrefdraeth - ond nodyn yn dweud fod busnesau ar agor fel arfer
Dywedodd Paul Davies AS ei fod yn "gwybod am fusnesau sydd wedi gweld eu busnes yn cwympo rhyw 60%, a dyna pam mae'n hollbwysig nawr bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r busnesau yma".
"Dyw'r busnesau yma ddim yn gofyn am y byd, ond beth maen nhw yn gofyn am yw sicrhau bod nhw'n cael cefnogaeth ariannol tra bod y ffordd ar gau," meddai.
"Beth ni eisiau gweld yw'r llywodraeth yn sefydlu pecyn ariannol er mwyn cefnogi'r busnesau yma."
'Pob ymdrech i leddfu'r effeithiau'
Mewn datganiad, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet am Drafnidiaeth, Ken Skates bod y "gwaith yn hanfodol er mwyn sicrhau dycnwch hir dymor y ffordd".
"Mae bob ymdrech yn cael ei wneud i leddfu'r effeithiau, ac mae ein hasiantiaid yn dal i gydweithio gyda rhanddeiliaid i gwblhau'r gwaith mewn ffordd sydd mor effeithiol a phosib," ychwanegodd.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Paul Davies yn y Senedd, fe gadarnhaodd Ken Skates nad oedd iawndal ar gael yn yr achos hwn ac y dylai busnesau ofyn am gymorth drwy yswiriant busnes.
Fe awgrymodd y gallai'r ffordd ailagor yn rhannol ar 28 Chwefror, wythnos yn gynt na'r disgwyl, gyda pheth gwaith yn digwydd gyda'r nos ac un lôn yn agor gyda chymorth goleuadau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr
- Cyhoeddwyd28 Awst 2024
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2024