Rob Howley yn gadael ei rôl gyda thîm hyfforddi Cymru
![Rob Howley](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2048/cpsprodpb/23a9/live/7f472930-ea09-11ef-bd1b-d536627785f2.jpg)
Bydd Rob Howley yn parhau dan gytundeb, er ei fod yn camu o'r neilltu am weddill y Chwe Gwlad
- Cyhoeddwyd
Mae is-hyfforddwr tîm Cymru, Rob Howley, wedi gadael ei rôl wrth i Matt Sherratt wneud newidiadau i'w garfan ac i'w staff.
Mae Sherratt wedi ei benodi ar gyfer y tair gêm sy'n weddill yn y Chwe Gwlad, ar ôl i Warren Gatland adael ei rôl fel y prif hyfforddwr ar ôl i Gymru golli 14 gêm yn olynol.
Dywed Undeb Rygbi Cymru y bydd Howley yn parhau dan gytundeb, er ei fod yn camu o'r neilltu am weddill y Chwe Gwlad.
Mae Sherratt, prif hyfforddwr Caerdydd, wedi galw tri chwaraewr i fod yn rhan o'r garfan - y maswyr Jarrod Evans a Gareth Anscombe a'r canolwr Max Llewellyn.
Roedd Evans, Anscombe a Llewellyn yn enwau amlwg oedd yn absennol o garfan wreiddiol Gatland ar gyfer y Chwe Gwlad.
Ond mae angen ad-drefnu am fod y cefnwr Liam Williams a'r canolwr Owen Watkin wedi cael eu rhyddhau o'r garfan yn dilyn anafiadau.