Pedoffeil cartrefi plant wedi marw yn y carchar yn 83 oed

John AllenFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd John Allen ei garcharu am oes gyda lleiafswm o 11 mlynedd dan glo yn 2014

  • Cyhoeddwyd

Mae pedoffeil a gafodd ei garcharu am oes am gam-drin rhyw mewn cartrefi plant yn y gogledd wedi marw yn y carchar.

Roedd John Allen yn rhedeg nifer o gartrefi plant gan gynnwys cartref Bryn Alun yn Llai ger Wrecsam.

Cafodd ei garcharu am oes gyda lleiafswm o 11 mlynedd dan glo yn 2014 am 33 o droseddau yn dyddio 'nôl i'r 1960au hyd y 1990au.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Carchardai Ei Fawrhydi ei fod wedi marw mewn carchar i droseddwyr rhyw yn sir Norfolk yn gynharach fis yma yn 83 oed.

John Allen
Disgrifiad o’r llun,

John Allen cyn cael ei ddedfrydu yn 2020

Daeth dioddefwyr eraill ymlaen gyda mwy o dystiolaeth, ac yn 2019 cafodd ei ganfod yn euog o saith trosedd arall yn erbyn plant mor ifanc â 13 oed.

Cafodd ei garcharu am 14 mlynedd a hanner yn rhagor.

Yr achos yn erbyn Allen yn 2014 oedd yr erlyniad cyntaf yn dilyn ymchwiliad Operation Pallial i honiadau o droseddau hanesyddol yn erbyn plant mewn cartrefi plant.

Pynciau cysylltiedig