Prifathro a ymosododd ar ei ddirprwy wedi ei ryddhau o'r carchar

Cafodd Anthony Felton ddedfryd o dros ddwy flynedd o garchar ond mae wedi ei ryddhau, dan amodau llym, wedi pedwar mis dan glo
- Cyhoeddwyd
Mae prifathro a gafodd ei garcharu am ymosod ar gyd-athro gyda thyndro (wrench) wedi cael ei ryddhau ar ôl pedwar mis yn unig, mae'r Gwasanaeth Carchardai wedi cadarnhau.
Fe gafodd Anthony Felton ddedfryd o ddwy flynedd a phedwar mis am ymosod ar ei ddirprwy bennaeth, Richard Pyke, yn Ysgol Gatholig St Joseph's yn Aberafan.
Bu'n rhaid i Mr Pyke gael triniaeth ysbyty am fân anafiadau yn dilyn yr ymosodiad ym mis Mawrth, a gafodd ei gofnodi ar system CCTV yr ysgol.
Ym mis Ebrill yn Llys y Goron Abertawe fe blediodd Felton, sydd o Orseinon, yn euog i gyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol bwriadol.
Lluniau CCTV yn dangos y foment pan wnaeth Felton ymosod ar ei ddirprwy
Clywodd y llys bod Felton dan straen ar ôl darganfod mai ef oedd tad plentyn aelod o staff y bu mewn perthynas â hi yn y gorffennol.
Roedd hefyd newydd ddod i wybod fod Mr Pyke bellach mewn perthynas gyda'r un aelod o staff.
Mewn datganiad i'r llys, dywedodd Mr Pyke ei fod wedi ymddiried yn llwyr yn Felton, cyn iddo ei daro sawl tro o'r tu ôl iddo gyda'r tyndro metel.
Syrthiodd Mr Pyke i'r llawr gan geisio amddiffyn ei hun cyn i gydweithwyr glywed sŵn helynt.
Yn dilyn yr ymosodiad fe daflodd Felton yr arf cyn ebostio neges at holl staff yr ysgol yn ymddiheuro "am yr holl drafferthion a gofid" tebygol yn sgil yr hyn a wnaeth.

Y tyndro a ddefnyddiodd Felton i ymosod ar ei ddirprwy
Fe gadarnhaodd y Gwasanaeth Carchardau fod Felton wedi cael ei ryddhau yn gynharach ym mis Awst dan y Cynllun Cyrffyw Carchariad Gartref.
Mae'n golygu y bydd yn rhaid iddo lynu wrth amodau trwydded llym a chyrffyw sy'n cael ei fonitro'n electroneg.
Y dealltwriaeth yw mai llywodraethwr y carchar oedd yn gyfrifol am y penderfyniad i'w ryddhau.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai: "Mae troseddwyr sy'n cael eu rhyddhau dan Gyrffyw Carchariad Gartref yn gorfod dilyn amodau llym a chael eu tagio.
"Os maen nhw'n torri'r rheolau byddan nhw'n cael eu hanfon yn ôl i'r carchar."