Carcharu prifathro â 'chenfigen rywiol' am ymosod ar ei ddirprwy

Clywodd y llys fod Felton wedi taro Mr Pyke gyda thyndro (wrench)
- Cyhoeddwyd
Mae prifathro wnaeth ymosod ar ei ddirprwy ar dir ysgol wedi ei garcharu am ddwy flynedd a phedwar mis.
Ddechrau Ebrill fe wnaeth Anthony John Felton, 54, bledio'n euog i geisio achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad wedi'r ymosodiad mewn ysgol yn Aberafan.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod yr ymosodiad wedi digwydd ar ôl i Felton gyhuddo Richard Pyke o gael rhyw gydag athrawes yr oedd ef wedi bod mewn perthynas â hi.
Cafodd Mr Pyke, 51, driniaeth yn yr ysbyty am fân anafiadau yn dilyn yr ymosodiad ym mis Mawrth.
Mae Felton hefyd yn destun gorchymyn atal amhenodol sydd yn ei rwystro rhag cael cysylltiad â'r dioddefwr.
Rhybudd: Fe allai cynnwys y fideo isod beri gofid i rai
Lluniau CCTV yn dangos y foment pan wnaeth Felton ymosod ar ei ddirprwy
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Felton, sy'n cael ei adnabod fel John ac sydd o ardal Gorseinon, wedi taro Mr Pyke "sawl tro" gyda thyndro (wrench) mewn digwyddiad yn Ysgol Gatholig St Joseph's ar 5 Mawrth.
Felton oedd prifathro'r ysgol ar y pryd. Cafodd ei benodi - yn ôl adroddiad blynyddol corff llywodraethu'r ysgol - ym mis Medi 2023.
Clywodd y llys fod Felton yn teimlo dan straen ar ôl darganfod mai ef oedd tad plentyn aelod o staff yr oedd ef wedi bod mewn perthynas â hi yn y gorffennol.
Roedd hefyd wedi dod i wybod yn fuan cyn y digwyddiad fod Mr Pyke bellach mewn perthynas gyda'r un aelod o staff.
Fe glywodd y llys fod Felton wedi dechrau sgwrsio gyda Mr Pyke yn ei swyddfa cyn ei daro o'r tu ôl "heb rybudd" gydag arf oedd "wedi ei guddio yn ei gôt".
Dangosodd lluniau camerâu cylch cyfyng (CCTV) fod Mr Pyke yn eistedd wrth ei ddesg cyn iddo gael ei daro, a bod yr ymosodiad wedi parhau am tua 20 eiliad cyn i aelodau eraill o staff ddod i wahanu'r ddau.

Cafodd Felton ei benodi yn bennaeth ar Ysgol Gatholig St Joseph's ym Medi 2023
Mewn datganiad yn y llys, dywedodd Mr Pyke ei fod wedi ymddiried yn llwyr yn Felton.
"Ro'n i'n meddwl ein bod ni'n gyd-weithwyr agos oedd wedi, dros y blynyddoedd, creu perthynas yn seiliedig ar ymddiriedaeth a dealltwriaeth."
Ychwanegodd fod Felton wedi camddefnyddio'r ymddiriedaeth yna.
"Fe wnes di ddefnyddio hynny i fy nenu mewn i sefyllfa fregus, cyn ymosod arna i o'r tu ôl gyda thyndro metel yr oeddet ti wedi ei gario i'r swyddfa gyda thi," meddai.
Esboniodd Mr Pyke fod y "trawma" yn dal i gael effaith arno, a bod yr holl brofiad wedi ei ddychryn yn ofnadwy.
"Dwi'n teimlo fy mod wedi colli gymaint o fy hun, a dwi ddim yn siŵr a gaf i fyth hynny yn ôl."
'Cenfigen rywiol a gwylltineb afreolus'
Dywedodd y barnwr Paul Thomas KC: "Rydych chi'n gwybod cystal ag unrhyw un fod achosion o drais mewn ysgolion ac ymosodiadau ar staff a disgyblion yn ymddangos yn llawer rhy aml yn y wasg.
"Ond i brifathro ddefnyddio arf i geisio anafu ei ddirprwy yn ddifrifol, dwi'n amau fod yr achos yn un gwbl ddigynsail.
"Nid oes angen i mi sôn am yr esiampl ofnadwy y mae'r digwyddiad yma yn ei osod i eraill.
"Rydych chi'n hen ddigon deallus i wybod, wrth i chi gynllwynio'r ymosodiad yma, y byddai'r effaith a'r sgil effeithiau yn ddifrifol."
Ychwanegodd y barnwr mai "cenfigen rywiol" a ddaeth yn sgil perthynas godinebus a "gwylltineb afreolus" wnaeth arwain at y digwyddiad.

Y tyndro a ddefnyddiodd Felton yn y digwyddiad
Cafodd Felton ei ddedfrydu i ddwy flynedd a phedwar mis dan glo - gyda hanner y ddedfryd honno ar drwydded.
Fe fydd y gorchymyn atal yn ei rwystro rhag cysylltu â Mr Pyke, ei wraig a'i blant am gyfnod amhenodol.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron: "Ymosododd Anthony Felton ar ddyn cwbl ddiamddiffyn drwy ei daro ag arf metel sawl gwaith, mae hyn yn dangos mai ei fwriad oedd achosi niwed difrifol i'r dioddefwr.
"Roedd y lefel eithafol hwn o drais gan weithiwr proffesiynol yn y gweithle, a hynny heb reswm, yn frawychus.
"Yn rhy aml o lawer, mae ymosodiadau o'r math hwn yn arwain at anafiadau sy'n newid bywyd neu at ganlyniadau angheuol, ac rydym yn ddiolchgar nad dyna oedd y canlyniad yn yr achos hwn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ebrill
- Cyhoeddwyd7 Mawrth