Stopio gwerthu ar wefan TikTok Shop o achos cynhyrchion ffug

Lucie MaCleodFfynhonnell y llun, Hair Syrup
Disgrifiad o’r llun,

Bu Lucie MaCleod yn siarad am y cynnyrch gofal gwallt ar raglen Dragons' Den ar y BBC

  • Cyhoeddwyd

Mae perchennog cwmni gofal gwallt wedi tynnu ei chynhyrchion oddi ar wefan TikTok Shop am fod eraill yn gwerthu fersiynau ffug o'i olewau.

Dywedodd Lucie MaCleod, sydd wedi'i magu yn Sir Benfro, ei bod yn gwneud "miliynau o bunnoedd" trwy'r platfform.

Ond mae Ms MaCleod, 25, yn dweud bod yn rhaid iddi stopio gwerthu ei chynnyrch Hair Syrup ar TikTok Shop oherwydd cynhyrchion ffug.

Dywedodd Adran Safonau Masnach Dinas Llundain - sydd â'r pŵer i ymchwilio i TikTok - fod ganddyn nhw "bryderon difrifol am TikTok Shop wrth i amrywiaeth o gynhyrchion anniogel gael eu hysbysebu ar y platfform".

Mae TikTok Shop wedi cael cais am sylw.

'Y difrod wedi'i wneud'

Dywedodd Ms MaCleod fod ei chwmni, sydd wedi'i leoli yn Wdig ger Abergwaun, wedi derbyn bron i hanner ei incwm o TikTok Shop y llynedd, ond bod hynny wedi gostwng i chwarter eleni.

Mae hi bellach wedi tynnu ei chynnyrch o'r wefan ar ôl i gyfrifon eraill ddechrau gwerthu fersiynau ffug o'r olewau gwallt ac mae cwsmeriaid wedi bod yn cwyno.

"Mae'n blatfform enfawr i ni ac mae'n gwneud miliynau o bunnoedd i ni bob blwyddyn. Felly dyw cael problem fel hyn ddim yn beth da," meddai.

Ychwanegodd fod y broses o allu gwerthu ar y wefan yn llawer rhy hawdd.

"Yr unig beth sy'n rhaid i bobl sy'n gwerthu ei wneud yw darparu llythyr, llythyr cymeradwyo ffug yn y bôn, dyna'r cyfan oedd ei angen arnyn nhw," meddai.

"Roedden ni'n cael cymaint o gwynion gan bobl. Roedd pobl yn rhoi negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud na fydden nhw byth yn prynu gennym ni eto.

"Pan fydden ni'n ymchwilio i'r rhain, bydden ni'n ateb y bobl hyn ac yn dweud 'mae'n ddrwg 'da ni, nid ein cynnyrch ni yw e', ond roedd y difrod wedi'i wneud."

LucieFfynhonnell y llun, Hair Syrup
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lucie yn "rhagweld y byddwn ni'n symud at werthu mwy traddodiadol ar-lein"

Llwyddodd Ms MaCleod i gael TikTok Shop i gael gwared ar y cynhyrchion ffug a'r cyfrifon.

Ond dywedodd fod y broses o gael gwared ar y cynhyrchion ffug yn "rhwystredig" oherwydd y gwaith papur.

"Roedd yr hyn roedd yn rhaid i ni ei wneud er mwyn profi nad ni oedd wrth wraidd hyn yn hollol hurt," meddai.

Nid dyma ei hunig broblem.

"Gyda TikTok, mae pobl yn cael cymaint o broblemau am nad oes ganddyn nhw wasanaeth cwsmeriaid go iawn. Maen nhw'n defnyddio asiantau AI," meddai.

"Os ydych chi eisiau archebu 10 peth oddi ar TikTok Shop, efallai ei bod hi'n bosib i chi gael tipyn o ostyngiad ond yna mae'n rhaid i chi dalu y pris am eu cludo bedair gwaith."

Mae Ms MaCleod bellach yn gwerthu ei chynhyrchion ar safle manwerthu arall.

Mae'n credu y bydd defnyddwyr yn newid eu harferion ar ôl y problemau gyda TikTok Shop.

"Rydym wedi bod yn ailgyfeirio pobl fel eu bod yn gwybod lle i gael y cynhyrchion dilys go iawn," meddai.

"Rwy'n credu y bydd lle bob amser i TikTok Shop, ond rwy'n rhagweld y byddwn ni'n symud at werthu mwy traddodiadol ar-lein."