Llacio cyfyngiadau feirws y tafod glas yng Nghymru

Defaid
Disgrifiad o’r llun,

Canran fach iawn o anifeiliaid yng Nghymru sydd wedi cael eu brechu

  • Cyhoeddwyd

Mae newidiadau i gyfyngiadau feirws y tafod glas yng Nghymru wedi dod i rym er mwyn caniatáu i dda byw sydd wedi'u brechu gael eu cludo ar draws y ffin i farchnadoedd yn Lloegr.

O ddydd Llun 18 Awst ymlaen, mi fydd da byw o Gymru sydd wedi cwblhau cwrs o frechiad tafod glas (BTV-3) yn gallu mynd i farchnadoedd yn Lloegr sydd o fewn 12 milltir (20km) i'r ffin.

Yn ôl prif filfeddyg Cymru, mae feirws y tafod glas yn "glefyd a allai fod yn ddinistriol".

Dyw'r feirws ddim yn fygythiad i ddiogelwch bwyd nac iechyd pobl, ond gall ladd da byw.

Er bod rhai achosion wedi bod yn Lloegr, does dim wedi bod yng Nghymru.

'Canran fach sydd wedi eu brechu'

Mae'r feirws yn cael ei drosglwyddo gan frathiadau gwybed ac yn effeithio ar wartheg, defaid a geifr, ac anifeiliaid fel lamas.

Ers 1 Gorffennaf mae llywodraeth y DU wedi dynodi Lloegr gyfan yn barth cyfyngedig, sy'n golygu nad oes modd i ffermwyr symud da byw o Loegr i Gymru.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, y nod yw atal y feirws rhag dod i Gymru, ond rhybuddiodd y diwydiant ffermio y gallai'r penderfyniad fod yn "drychinebus" i fasnach drawsffiniol.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud mai brechu yw'r ffordd orau o amddiffyn da byw a lleihau effaith y tafod glas.

Ond, dim ond canran fach iawn o dda byw yng Nghymru sydd wedi cael eu brechu.

Llun o Ryan Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Ryan Thomas ddim yn credu y bydd llacio rywfaint ar y cyfyngiadau yn gwneud gwahaniaeth iddo fe

Mae symud da byw o Loegr i Gymru yn dal i fod wedi'i gyfyngu heb brawf negyddol, fel y mae cludo anifeiliaid heb eu brechu ar draws y ffin.

Mae gan Ryan Thomas fferm ym Machynlleth.

Cyn i'r cyfyngiadau ddod i rym ym mis Gorffennaf roedd e'n arfer prynu lloi o Sir Amwythig.

"Ni'n magu lloi potel a gwerthu nhw fel da 'stores' wedyn. O'n i'n mynd i Market Drayton a Shrewsbury hefyd. Ond efo'r blue tongue 'ma nawr allai'm mynd," meddai.

"Mae angen Plan B rili. Dwi wedi bod lawr i Llanybydder ac ma'r pris wedi codi rwan, so bach o knock on effect, ac mae lloi yn ddrud. Dwi ddim yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd," ychwanegodd.

Dywedodd Ryan nad yw'n credu y bydd llacio rywfaint ar y cyfyngiadau ddydd Llun yn gwneud gwahaniaeth iddo fe.

Llun o farchnad Dolgellau
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl ffigyrau a ddaeth i law y BBC yn ddiweddar mae llai nag 1% o'r wyth miliwn o ddefaid yng Nghymru wedi cael pigiad

Nod y newidiadau graddol i'r cyfyngiadau yw ei gwneud hi'n haws gwerthu da byw yn yr hydref, yn ôl Llywodraeth Cymru.

O ddydd Llun, gall anifeiliaid sydd wedi cwblhau cwrs brechu fynychu marchnadoedd yn Lloegr.

Hefyd mae'n rhaid i anifeiliaid sy'n mynd i'r marchnadoedd hyn ac sy'n dychwelyd i Gymru gwblhau'r symudiad yn ystod yr un diwrnod.

Yn ogystal, mi fyddan nhw'n ddarostyngedig i amodau'r drwydded gyffredinol.

Ni all anifeiliaid aros yn y farchnad dros nos ac ni fydd yr anifeiliaid hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ofynion profi cyn nac ar ôl symud lle mae'r holl amodau wedi'u bodloni.

Byddai'n rhaid i'r marchnadoedd yn Lloegr gynnal gwerthiannau pwrpasol o dda byw wedi'u brechu o Gymru yn unig - y marchnadoedd a all wneud hyn o fewn 12 milltir i'r ffin yw Bishops Castle, Henffordd, Ceintun (Kington), Llwydlo, Market Drayton, Croesoswallt, Rhosan ar Wy a'r Amwythig.

Bydd yn rhaid iddyn nhw lynu wrth amodau penodol.

Phil Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Phil Thomas yn credu bod y newiadau hyn i'r cyfyngiadau'n ffordd o gadw costau i lawr

Dywedodd milfeddyg o Aberystwyth, Phil Thomas, fod llacio'r cyfyngiadau yn ffordd o geisio helpu masnachu da byw wrth reoli'r risg o'r feirws yn cyrraedd Cymru.

"Mae costau - pa ffordd bynnag ni'n edrych ar hyn. Mae costau'r clefyd, a chostau hefyd ar gyfyngiadau masnachu," meddai.

"Dyma un ffordd o leihau'r costau hynny, trwy fynd â'r anifeiliaid i farchnadoedd cydnabyddedig, ond gyda rhagofalon ychwanegol.

"Mae'n agor y fasnach mewn rhyw ffordd sy'n cael ei gwerthuso o ran risg.

"Mae risg ychydig yn uwch o'r symudiad hwn, ond oherwydd bod y stoc wedi'u brechu a'u bod yn tarddu o Gymru, a'u bod nhw wedi bod yn y farchnad am ddiwrnod yn unig, yna mae'r risg yn fach iawn," ychwanegodd.

Llun o Arwel Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae Arwel Roberts mewn dau feddwl o ran brechu ai peidio

Ond a fydd y newid yma'n golygu y bydd mwy o ffermwyr yn ystyried brechu eu stoc er mwyn gallu mynd i'r marchnadoedd dros y ffin?

Mae Arwel Roberts sy'n ffermio yn Y Bala yn dal i ystyried a fydd yn brechu ai peidio.

Mae e'n mynd â rhai gwartheg i arddangos mewn sioeau, a bydd gofyn iddo frechu, meddai, os yw e am wneud hynny.

"Dydy o ddim wedi'n cyrraedd ni naddo? Ond bydd rhaid i ni frechu gwartheg 'da ni am ddangos, ac mae'r bachgen acw wedi bod yn y 'mhen i neithiwr bod rhaid i ni fynd ati i injectio bustach os 'da ni ishe mynd i sioe Beef Expo yn y gaeaf.

"Dwi ddim wedi holi'r vet yn iawn eto ond dwi meddwl bod angen vaccinatio tair gwaith.

"Mae'n dod i ddiwedd mis Awst nawr a ffenest yn dynn i frechu tair gwaith," meddai.

Helen Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond 43,000 o ddefaid sydd wedi cael eu brechu yng Nghymru ar hyn o bryd medd Helen Roberts o Gymdeithas Genedlaethol y Defaid (NSA)

Awgrymodd ffigyrau gafodd eu rhannu'n ddiweddar gyda BBC Cymru fod llai nag 1% o'r wyth miliwn o ddefaid yng Nghymru wedi derbyn pigiad, a rhwng 5-10% o wartheg y wlad.

Mewn datganiad, dywedodd Helen Roberts, o Gymdeithas Genedlaethol y Defaid (NSA) yng Nghymru mai dim ond 43,000 o ddefaid sydd wedi cael eu brechu yng Nghymru ar hyn o bryd.

Ond ychwanegoddd bod "amser o hyd i frechu a diogelu anifeiliaid mewn pryd ar gyfer cyfnod prysur yr hydref, a'r hyn a allai fod yr amser gwaethaf o'r flwyddyn ar gyfer dod i gysylltiad â'r feirws gan ddibynnu ar yr amodau tywydd."

Dywedodd Helen Roberts hefyd fod yr NSA "yn croesawu unrhyw newidiadau i'r rheolau a fydd yn helpu gyda marchnata da byw'r hydref".

"Fodd bynnag, rhaid inni ofyn i gynhyrchwyr ystyried eu symudiadau wrth werthu neu brynu a byddem yn annog edrych ar statws brechu'r anifeiliaid," ychwanegodd.

Dywedodd prif swyddog milfeddygol Cymru, Richard Irvine: "Mae'r tafod glas yn glefyd a allai fod yn ddinistriol, fel y gwelwyd yn anffodus mewn gwledydd eraill."

Ychwanegodd, yn dilyn adolygiad o bolisi'r tafod glas, fod newidiadau graddol wedi'u cytuno er mwyn hwyluso gwerthiannau'r hydref mewn ffordd sy'n cydbwyso anghenion y diwydiant yn erbyn y risg o gyflwyno'r clefyd i Gymru.

"Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn cydnabod y risg o gael gwared ar gyfyngiadau da byw yn raddol, a'r cydbwysedd y mae'n rhaid ei daro rhwng y gallu i fasnachu a'r risg uwch o ledaenu'r clefyd.

"Drwy drafodaethau, mae'r diwydiant hefyd yn cydnabod ei gyfrifoldebau'n llawn, gan gynnwys yr angen i sicrhau cydymffurfiaeth â'r gofynion i fynychu gwerthiannau a marchnadoedd, rôl sylfaenol brechu yn erbyn y tafod glas – a'r risg a'r canlyniadau a rennir pe bai'r tafod glas yn dod i Gymru."

Dywedodd Dr Irvine hefyd fod newidiadau pellach i'r polisi tafod glas yn cael eu hystyried – a allai gynnwys gwneud gwerthu stoc bridio yn haws mewn 'Marchnadoedd Gwyrdd Tafod Glas Cymeradwy' yng Nghymru.

Gallai'r rhain werthu da byw sydd wedi'u brechu o Loegr a Chymru.

Gall marchnadoedd wneud cais i ddod yn "farchnadoedd gwyrdd" o ganol mis Medi.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.